Part of 2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 25 Hydref 2017.
Llywydd, hoffwn grybwyll un pwynt penodol o ran hynny. Mae’r addysg yn dechrau yma gyda phobl ifanc ac ysgolion yn dod i ymweld ac mae’r Comisiwn yn gwneud gwaith gwych yn annog ysgolion i ddod i’r Cynulliad i’w weld. Cefais ymweliad y bore yma gan ysgol Awel y Môr; daethant â 90 o ddisgyblion—dau fws llawn—a bu’n rhaid i mi archebu dau slot ar eu cyfer. Gan eu bod wedi archebu dau slot awr o hyd, cawsant wybod na allent gael cymorth, gan fod y cymorth yn cael ei ddarparu mewn slot dwy awr, yn hytrach na dau slot awr o hyd. A wnewch chi edrych ar hyn fel y gallwn gynorthwyo ysgolion i ddod yma, hyd yn oed os yw hynny ond am slotiau un awr yn unig, fel y gallant ddod i ddeall beth a wnawn yma, a chael y newyddion ar gyfer dinasyddiaeth?