Dyrannu Costau Diogelwch

Part of 2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 25 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:30, 25 Hydref 2017

Diolch am yr ateb. Wrth i ni edrych ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad, fe ddaeth yn amlwg bod llawer o gostau diogelwch heddlu yn cael eu talu drwy gytundeb rhwng y Comisiwn a Heddlu De Cymru. O gofio nad yw’r heddlu wedi ei ddatganoli, ac o gofio ein bod ni’n ddeddfwrfa sydd y tu fewn i’r gyfundrefn Brydeinig ar hyn o bryd ac nad senedd gwlad annibynnol mo Senedd Cymru, ac o gofio bod nifer o heriau rydym yn eu hwynebu yn deillio o derfysgaeth ryngwladol—ymosodiadau a bygythiadau o’r math yna—a ydy hi’n fwriad gan y comisiwn i drafod gyda Llywodraeth San Steffan, a’r Swyddfa Gartref yn benodol, i weld oni ddylen nhw hefyd ysgwyddo rhan o’r baich am gadw’r lle yma, y Senedd hon, yn lle diogel i staff, Aelodau ac ymwelwyr?