Dyrannu Costau Diogelwch

Part of 2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 25 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:31, 25 Hydref 2017

Wel, y flaenoriaeth, wrth gwrs, yw sicrhau yr hyn yr ydych chi wedi ei amlinellu, sef diogelwch y cyhoedd a diogelwch y ddemocratiaeth sydd ar waith yma. Mae hynny’n wir pa un ai ydy heddlua wedi ei ddatganoli ai peidio. Yr arferiad, wrth gwrs, a’r hyn sy’n digwydd yw ein bod ni yn ysgwyddo y cyfrifoldeb ariannol o ariannu Heddlu De Cymru i ddarparu’r gwasanaeth yna i ni. Mae hynny, mae’n wir, yn bolisi cyffredin. Mae Tŷ’r Cyffredin yn gwneud yr un fath, a Senedd yr Alban hefyd yn gwneud yr un fath, ac yn ariannu’n ychwanegol y gofynion ychwanegol sydd gan senedd-dai o’r math yma.

Rwy’n derbyn y pwynt rydych chi wedi ei godi yn y Pwyllgor Cyllid, sef nad yw heddlua wedi ei ddatganoli, ac o bosibl bod angen edrych yn wahanol o safbwynt y Comisiwn yma a’r Senedd yma. Ond, ar hyn o bryd, y sefyllfa yw ein bod ni yn gweld hynny yn gyfrifoldeb arnom ni, a dyna’r sefyllfa yr ydym ni’n ei derbyn ar hyn o bryd.