5. 5. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 25 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:49, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’r cynnig deddfwriaethol rwy’n gobeithio y bydd y Cynulliad yn ei gefnogi heddiw yn galw am Fil i ddiwygio’r system gynllunio fel bod yna ragdybiaeth yn erbyn caniatâd cynllunio ar gyfer hollti hydrolig neu ffracio. Diben hwn yw diogelu iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd a thirwedd Cymru.