– Senedd Cymru am 2:49 pm ar 25 Hydref 2017.
Eitem 5 ar ein hagenda yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod a galwaf ar Simon Thomas i gynnig y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’r cynnig deddfwriaethol rwy’n gobeithio y bydd y Cynulliad yn ei gefnogi heddiw yn galw am Fil i ddiwygio’r system gynllunio fel bod yna ragdybiaeth yn erbyn caniatâd cynllunio ar gyfer hollti hydrolig neu ffracio. Diben hwn yw diogelu iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd a thirwedd Cymru.
Y sefyllfa ar hyn o bryd, yn dilyn cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru ym mis Chwefror 2015, yw bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu moratoriwm yn erbyn cynllunio ar gyfer ffracio. Mae llawer yn dadlau bod y sefyllfa hon yn agored i her gyfreithiol ond bydd hynny’n newid yn fuan beth bynnag, oherwydd o dan Ddeddf Cymru 2017, bydd gan y Cynulliad Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru bwerau mewn perthynas â phetrolewm. Yn bwysig, mae petrolewm wedi’i ddiffinio yn adran 1 o Ddeddf Petrolewm 1998 i gynnwys nwy naturiol sydd yn ei gyflwr naturiol mewn strata, megis nwy siâl, a gaiff ei echdynnu drwy ffracio.
Mae’r sefyllfa anfoddhaol sydd gennym ar hyn o bryd, fodd bynnag, wedi ei thanlinellu gan y ffaith bod drilio prawf yn parhau i ddigwydd. Cafodd cais cynllunio i ddrilio prawf am nwy siâl ger Pont-rhyd-y-fen, ger Port Talbot, ei gymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ôl ym mis Ionawr 2016. Rydym—. Mae’n ddrwg gennyf, Mike Hedges. Rwy’n fodlon ildio.
Onid yw’n bwysicach, i ddechrau, i wahardd drilio prawf? Oherwydd nid yw pobl yn drilio prawf oherwydd eu bod wedi diflasu neu’n chwilio am rywbeth i’w wneud; maent yn drilio prawf oherwydd eu bod yn credu y byddant yn gallu ffracio ar ryw adeg yn y dyfodol.
Mae hwnnw’n bwynt pwysig, a gwn fod caniatáu drilio prawf yn yr Alban, lle y maent yn erbyn ffracio, yn golygu bod achosion cyfreithiol ar y ffordd yn awr, ac ni ddylech roi anogaeth i bobl, os mynnwch, neu wario arian, fel bod ganddynt fodd o roi camau cyfreithiol ar waith yn eich erbyn wedyn. Mae’n well gwahardd yn gyfan gwbl, ac rwy’n derbyn y pwynt hwnnw.
Rydym ni, ym Mhlaid Cymru, wedi gwneud ein safiad yn erbyn ffracio’n gwbl glir, ac wedi gwneud hynny’n gyson. Mae hwn, yn awr, yn gyfle gwirioneddol i’n Cynulliad Cenedlaethol anfon neges glir cyn ennill y pwerau llawn fis Ebrill nesaf. Nid ydym eisiau ffracio yng Nghymru, nid ydym angen ffracio yng Nghymru, ac ni ddylem ganiatáu ffracio yng Nghymru.
Yn ogystal â bod yn hynod amhoblogaidd, mae yna bryderon y gallai ffracio gael effaith andwyol ar iechyd dynol a’r amgylchedd. O dan amgylchiadau o’r fath, buaswn yn dadlau y gellid ac y dylid cymhwyso’r egwyddor ragofalus yn llawn. Rydym bellach yn deall effaith llygredd aer ar iechyd cyhoeddus yn well—rhywbeth y nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei fod yn argyfwng iechyd cyhoeddus—ac mae’n rhaid i ni roi’r gorau i losgi a defnyddio tanwydd ffosil er mwyn mynd i’r afael â hynny.
O’r cemegau a ddefnyddir wrth ffracio, gall 75 y cant ohonynt effeithio ar y croen, y llygaid, organau synhwyraidd eraill, y system anadlol, y system gastroberfeddol a’r afu. Mae mwy na hanner y cemegau yn dangos effeithiau ar yr ymennydd a’r system nerfol. Gall mwy na 25 y cant o’r cemegau achosi canser a chellwyriadau. Nid oes rhyfedd fod y Canolfannau ar gyfer Rheoli ac Atal Clefydau yn yr Unol Daleithiau wedi adrodd yn ddiweddar, er bod cyfraddau canser y fron yn yr Unol Daleithiau wedi bod yn gostwng yn araf am flynyddoedd lawer, eu bod ar gynnydd eto mewn nifer o siroedd lle y mae echdynnu nwy naturiol yn digwydd. Rwy’n ildio i’r Aelod.
A gaf fi ganmol yr Aelod am gyflwyno’r ddadl hon ar y cynnig deddfwriaethol hwn? Yn yr Unol Daleithiau lle’r roeddent yn edrych ar y dechnoleg hon fesul talaith, a fuasai’n nodi bod y rhai a ganiataodd iddo ddatblygu i fod yn ffyniant wedi gorfod lleihau a chyfyngu ar eu deddfwriaeth amgylcheddol er mwyn gwneud i hynny ddigwydd? Cawsant wared ar amddiffyniadau i wneud i hynny ddigwydd mewn gwirionedd, a chafodd hynny effaith ar iechyd y cyhoedd hefyd.
Rwy’n siŵr fod yr Aelod yn gywir, ac rydym yn wynebu’r her hon o adael yr Undeb Ewropeaidd a chadw ein safonau amgylcheddol uchel, ac rwy’n credu bod honno’n her i wlad sydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 fel canolbwynt i’w deddfwriaeth.
O ran gwarchod yr amgylchedd, ni fydd ffracio yn ein helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd na’n rhoi diwedd ar ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil. Mae nwy siâl yn newyddion drwg ofnadwy i’n hinsawdd. Bydd ffracio’n creu mwy o nwyon sy’n newid yr hinsawdd, nid yw’n gydnaws â’n targedau newid hinsawdd, a bydd nwy siâl yn cynnal ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil ac yn tynnu ein sylw oddi ar atebion go iawn y dyfodol: defnydd effeithlon o ynni ac ynni adnewyddadwy. Rwyf hefyd yn awgrymu y buasai caniatáu ffracio yng Nghymru yn nacáu’r cyhoeddiad diweddar am darged y Llywodraeth i sicrhau bod 70 y cant o’n trydan yn dod o ffynonellau adnewyddadwy.
Mae perygl hefyd y gallai ffracio halogi dŵr. Mae Asiantaeth Amgylchedd y DU wedi canfod bod yr hylif gwrthlifol o nwy siâl Swydd Gaerhirfryn yn cynnwys, ac rwy’n dyfynnu, lefelau arbennig o uchel o sodiwm, clorid, bromid a haearn, yn ogystal â lefelau uwch o blwm.
Buasai’r effaith ar ein tirwedd yn enfawr. Er mwyn i ffracio gael ei ddatblygu’n llawn, gallem weld 10,000 i 20,000 o ffynhonnau’n cael eu gwasgaru o amgylch y wlad mewn clystyrau o chwech i saith ar yr hyn a elwir yn badiau drilio. Rwy’n nodi, gydag eironi dwfn, mai cefnogwyr cryfaf ffracio sy’n tueddu i wrthwynebu ffermydd gwynt yn y modd cryfaf posibl hefyd.
Gall hefyd fod yn wir na fuasai daeareg y DU yn cynnal ffracio. Ym mis Awst 2017 dywedodd yr Athro John Underhill, prif wyddonydd Prifysgol Heriot-Watt:
Nid yw cymhlethdod cynhenid y basnau gwaddodol wedi cael ei werthfawrogi na’i ddiffinio’n llawn ac o ganlyniad mae’r cyfle wedi cael ei orliwio.
Rhybuddiodd yn erbyn dibynnu ar nwy siâl, ac rwy’n dyfynnu, i ddiwallu anghenion y DU am nwy a darganfod ein bod 55 miliwn o flynyddoedd yn rhy hwyr.
Mae Plaid Cymru eisiau rhoi diwedd ar ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil, ac mae hyn yn cynnwys gwahardd ffracio’n llwyr. Rydym yn cydnabod mai newid yn yr hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf sy’n wynebu’r ddynoliaeth, ac mae angen i ni ddatgarboneiddio ein sector ynni. Ein huchelgais o hyd yw cynhyrchu cymaint o drydan ag a ddefnyddir yng Nghymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Mae ffracio’n tynnu sylw’r sector ynni, ac o bosibl, yn dargyfeirio cyllid cyhoeddus hefyd oddi wrth ffynonellau ynni cynaliadwy ac adnewyddadwy. Yn hytrach na buddsoddi mewn tanwyddau ffosil, dylai Llywodraeth y DU fod yn buddsoddi mewn technoleg adnewyddadwy lân. Mae gan forlyn llanw bae Abertawe botensial enfawr i economi Cymru a gallai greu mwy o swyddi heb y peryglon i iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd ehangach.
Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynnig hwn heddiw fel ymrwymiad i ddefnyddio’r pwerau, pan fyddant yn dod i rym fis Ebrill nesaf, i wahardd ffracio yng Nghymru. Yn lle hynny, dylem ymroi i ddiwygio deddfwriaeth cynllunio defnydd tir i gyflymu cynlluniau ynni sy’n eiddo i gymunedau ac sy’n eiddo i ffermwyr, gyda rhagdybiaeth o blaid datblygu. Buasem wedyn yn trawsnewid ein polisi ynni i sicrhau bod buddiannau cymunedau Cymru yn ganolog i bopeth a wnawn.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), nid wyf wedi dethol y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig. David Melding.
Diolch i chi, Llywydd. A gaf fi ddweud ein bod yn hapus i nodi’r cynnig heb ei gymeradwyo o reidrwydd? Mae gennyf safbwynt amodol ar hyn. Hefyd, mae’r sefyllfa ar hyn o bryd, sef, yn ei hanfod, moratoriwm ar geisiadau hyd nes y bydd y maes wedi’i ddatganoli, yn rhywbeth y credwn ei fod yn briodol fel bod Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad hwn, i bob pwrpas, yn cael eu caniatáu i ddatblygu dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae gennyf rai amheuon ynglŷn â dull sy’n dweud y dylid ei wahardd yn eang ar bob sail oherwydd credaf fod tystiolaeth fel arfer yn galw am ddefnydd ychydig yn fwy cynnil na hynny, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn datblygu ein polisïau cyhoeddus yn ôl y dystiolaeth.
Mae rhywfaint o fanteision posibl—o leiaf, mae’r rhai sydd o blaid ffracio yn sôn amdanynt: defnyddio nwy yn hytrach na glo, os yw hynny’n ein hatal rhag troi at ynni adnewyddadwy mor gyflym ag y dymunwn, gallaf weld sut y mae’n tynnu sylw, ond mae’n fwy caredig na glo, rydym yn gwybod hynny; a’r incwm a’r buddsoddiad posibl mewn hen gymunedau glofaol, nid wyf yn credu y gellir rhoi’r pethau hyn i’r naill ochr. Fodd bynnag, mae llawer o wrthwynebiad cyhoeddus, ac mae’n ymyriad aflonyddol iawn—neu mae’n ymddangos felly, beth bynnag—ac mae’n cael effaith fawr ar ein tirwedd. Felly, nid wyf yn credu y gellir rhoi’r ffactorau hynny i’r naill ochr yn hawdd iawn, ac maent yn sicr yn peri pryder i gymunedau ledled Cymru.
Ond rwy’n dod yn ôl at yr angen am ddull sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac mae angen i ni wneud asesiad teg o’r dechnoleg hon i weld a ellir manteisio arni i ryw raddau. Gwn fod llawer o ddadleuon wedi bod, o ddaeargrynfeydd i dapiau fflamllyd, ac os ydynt yno, a’i bod yn ffaith gadarn eu bod yn berygl go iawn, yna mae’n rhaid i ni, yn amlwg, roi sylw i hynny a gweithredu arno. Ond rwy’n credu bod rhai o’r ystod o straeon a glywch yn ei gwneud yn ofynnol i ni, beth bynnag, edrych—
A wnewch chi ildio?
[Yn parhau.]—yn drylwyr ar yr honiadau hynny. Rwy’n fodlon ildio.
Diolch i’r Aelod am dderbyn ymyriad. Rwy’n deall y sylfaen dystiolaeth rydych yn gofyn amdani, ond mae hefyd yn broblem nad oes unrhyw sylfaen dystiolaeth i gefnogi—i ddadansoddi’r effeithiau ar yr amgylchedd. Dyna beth rydym ei angen. Mae angen i ni edrych ar yr effeithiau ar yr amgylchedd, ac yn anffodus, nid ydym wedi cyrraedd y fan honno eto, felly nid oes gennym hynny, ond nid oes gennym y problemau a ddangoswyd chwaith.
Rwy’n credu y dylem symud ymlaen mewn ffordd sy’n deg i bob technoleg, yn y bôn. Felly, rwy’n credu mai dyna beth sydd angen i ni ei gofio pan fyddwn yn edrych ar ddatblygu ffynonellau ynni, ein bod yn defnyddio’r un meini prawf.
Rwy’n credu mai un o’r cwestiynau mawr y buasai’n rhaid i ffracio ei wynebu yw pa un a ellir ei gysoni o gwbl â’n hamcanion strategol ehangach, yn enwedig yn Neddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Nawr, rwy’n derbyn bod hwnnw’n bwynt perthnasol iawn. Rwyf hefyd yn derbyn y gallai’r modd y gwnaed defnydd o’r dechnoleg hon ym Mhrydain fod wedi ei or-ddweud. Rwy’n credu, yn gyffredinol, ei fod yn fwy dichonadwy mewn ardaloedd sy’n bell o’r boblogaeth ac mewn ardal ehangach. Rydym yn siarad am safleoedd gweddol gyfyngedig, felly mae’r rheini’n ffactorau mawr iawn.
Felly, rwy’n falch o nodi hyn ac yn edrych ymlaen at ddull llawn a phriodol sy’n seiliedig ar dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad hwn. Rwy’n amau y buasai pobl Cymru yn disgwyl—neu angen, beth bynnag—llawer o sicrwydd pe bai’r math hwn o dechnoleg yn cael ei defnyddio ar unrhyw raddfa o gwbl.
I mi, nid yw hyn yn ymwneud â thapiau fflamllyd na daeargrynfeydd. Mae’r rhain yn amlwg yn faterion y buasai angen eu datrys pe bai ffracio byth yn cael ei ganiatáu, ond rwy’n credu bod yna bwynt llawer ehangach y mae’r ddadl hon yn ei wneud sy’n torri drwy, rwy’n credu, rhai o’r dadleuon ystumiedig y mae David Melding newydd eu gwneud.
Mae ein ffordd o fyw, ers yr ail chwyldro diwydiannol, wedi cael ei adeiladu ar fynediad at ynni sy’n deillio o danwyddau ffosil, ac rydym wedi adeiladu cymdeithas ffyniannus yn faterol ar hynny. Fodd bynnag, fel mater o resymeg, os yw’n seiliedig ar adnoddau naturiol cyfyngedig, yna yn sicr fe ddaw amser pan fydd hwnnw’n dod i ben.
Nawr, nid wyf yn wrth-dechnoleg—o bell ffordd. Rwy’n agored iawn i’r syniad fod arloesedd yn gallu ein helpu i ddod o hyd i ffyrdd o wella ein ffordd o fyw sy’n gyson â pharchu ffiniau’r blaned, ond rwy’n poeni bod y rhan fwyaf ohonom yn gwadu’r effaith y mae ymddygiad dynol wedi’i chael ar ein hamgylchedd a’m modd y mae wedi effeithio ar ei allu i’n cynnal yn y ffordd o fyw rydym bellach yn ei hystyried yn hawl. Yn hytrach na derbyn yr awgrym ein bod yn cyrraedd y pen o ran ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil, fy mhroblem gyda ffracio yw ein bod yn ceisio chwythu’r darn olaf o nwy o’r ddaear er mwyn cynnal ffordd ddiwydiannol o fyw, yn hytrach na wynebu’r ffaith bod angen i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o wneud pethau.
Nawr, mae’n bosibl nad yw’r nwy a gynhyrchir drwy ffracio ond yn allyrru hanner cymaint o garbon deuocsid â glo, ond nid yw hyn yn ystyried y gollyngiadau methan a nwyon tŷ gwydr eraill yn ystod y broses. Wrth ychwanegu’r rhain, mae astudiaethau’n dangos y gall nwy siâl greu mwy o lygredd na glo hyd yn oed, ac nid wyf yn gweld sut y mae rhyddhau nwyon niweidiol iawn i’r aer sy’n cyfrannu’n sylweddol tuag at nwyon tŷ gwydr a’r cynnydd mewn tymheredd yn gyson â’n polisi datganedig o leihau allyriadau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Clywais David Melding yn galw am gynildeb a pholisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Wel, mae’r dystiolaeth ar newid yn yr hinsawdd yn sylfaenol glir ac nid oes lle i gynildeb o’i gwmpas. Mae hwn yn fygythiad i’n ffordd o fyw ac i ffordd o fyw cenedlaethau’r dyfodol, ac mae’n rhaid i ni fynd i’r afael ag ef gydag eglurder nad yw’n caniatáu ar gyfer cynildeb. Felly, nid wyf yn gweld sut y gallwn gymeradwyo sancsiynu ffracio yng Nghymru, ac am y rheswm hwnnw rwy’n cefnogi’r Bil.
Buaswn yn dweud, Llywydd, bod angen i ni roi’r gorau i geisio dod o hyd i ffordd o gwmpas hyn i blesio buddiannau corfforaethol. Mae angen i ni ganolbwyntio ar ddatblygu ein heconomi mewn ffordd sy’n parchu anghenion a llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Dylai ein ffocws fod ar leihau faint o ynni rydym ei angen drwy arloesi ac adeiladu ein capasiti ynni adnewyddadwy fel ei fod yn gallu darparu ynni gwyrdd y gallwn ei werthu a’i allforio yn ogystal â diwallu ein hanghenion ynni. Gadewch i ni roi diwedd ar gysylltiad Cymru ag egni budr a’n gwneud yn arweinwyr mewn ynni glân.
Gadewch i mi ddweud yn gyntaf, fel y mae pethau ar hyn o bryd, buaswn yn bryderus iawn o weld unrhyw ffracio yng Nghymru. Nid oes neb wedi profi ei fod yn ddiogel, ond nid oes neb ychwaith wedi profi na ellir ei wneud yn ddiogel. Rwyf hefyd yn cytuno â llawer o’r hyn y mae Simon Thomas a Lee Waters wedi’i ddweud ynglŷn â pheryglon ffracio, a dyna pam fod y cysyniad o ffracio yng Nghymru yn fy mhoeni’n fawr. Cyn caniatáu ffynonellau ynni fel ffracio a allai effeithio ar yr amgylchedd ecolegol neu ddaearyddol, mae angen i ni gael gwybodaeth a sicrwydd am ei ganlyniadau i’n hamgylchedd a phobl sy’n byw yn agos ato.
Mae’r rhai sydd o blaid ffracio yn dweud bod ffracio’n caniatáu i gwmnïau ddrilio er mwyn cael mynediad at ffynonellau olew a nwy sy’n anodd eu cyrraedd. Rwy’n siŵr fod hynny’n wir. Yn yr Unol Daleithiau, mae wedi rhoi hwb sylweddol i gynhyrchiant olew domestig ac wedi gostwng prisiau nwy. Amcangyfrifir ei fod wedi cynnig diogelwch nwy i’r Unol Daleithiau a Chanada am tua 100 mlynedd, ac mae wedi darparu cyfle i gynhyrchu trydan sy’n allyrru hanner cymaint o garbon deuocsid â glo. Mae’r diwydiant yn awgrymu y gallai ffracio nwy siâl gyfrannu’n sylweddol tuag at anghenion ynni’r DU yn y dyfodol, ac mae’r tasglu ar nwy siâl, corff a ariennir gan y diwydiant, wedi dweud bod angen i’r DU ddechrau ffracio er mwyn sefydlu effaith economaidd bosibl nwy siâl, gan ddweud y gallai greu miloedd o swyddi. Fodd bynnag, mae’r rhai sydd yn erbyn ffracio yn nodi rhai pryderon amgylcheddol sydd at ei gilydd heb eu hateb.
Mae ffracio’n defnyddio llawer iawn o ddŵr sy’n rhaid ei gludo i’r safle ffracio ar gost amgylcheddol sylweddol. Mae amgylcheddwyr yn dweud bod cemegau carsinogenaidd posibl a ddefnyddir yn gallu dianc a halogi dŵr daear o gwmpas y safle ffracio. Mae’r diwydiant ei hun yn awgrymu bod digwyddiadau llygru yn deillio o arferion gwael yn hytrach na thechneg sy’n gynhenid beryglus. Ond er ei bod yn bosibl y gallai arferion da atal llygredd, mae’n rhaid i ni gofio, pan fo elw a cholled yn rhan o bethau, gallai’r demtasiwn i dorri corneli fod yn un hollbwysig. Ceir pryderon hefyd y gall y broses o ffracio achosi tirgryniadau bach, fel y digwyddodd ger Blackpool yn 2011.
Mae gwrthwynebwyr hefyd yn nodi bod ffracio yn tynnu sylw cwmnïau ynni a Llywodraethau rhag buddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy ac annog dibyniaeth barhaus ar danwyddau ffosil, sydd eisoes wedi cael ei grybwyll y prynhawn yma. Ond er y gall hynny fod yn wir, rwy’n credu y dylai unrhyw gyfyngiadau neu reolaethau ar ffracio fod yn seiliedig ar ddiogelwch a chynaliadwyedd y broses yn unig, yn hytrach na ffordd o annog pobl i archwilio ffynonellau ynni amgen. Wrth gwrs, dylem archwilio ynni adnewyddadwy, ac rydym yn gwneud hynny. Ond buasai’n synhwyrol ac yn ddoeth cael cymysgedd iach o ffynonellau ynni, ac mae’n ddigon posibl y gallai ffracio fod yn rhan ddiogel a derbyniol o’r gymysgedd honno.
Felly, gan droi at y cynnig, rwy’n credu ei bod yn bosibl y daw adeg pan allai fod yn briodol cyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn ffracio. Fodd bynnag, mae’r cynnig hwn yn achub y blaen ar ganfyddiad na all ffracio fod yn ddiogel. Gŵyr pawb ohonom fod dod o hyd i ffynonellau ynni’n dod ar draul yr amgylchedd i ryw raddau, boed yn danwyddau ffosil neu ddatblygu neu osodiadau ynni adnewyddadwy. Felly, ni allwn ddisgwyl na fydd unrhyw broblem gyda ffracio neu unrhyw ffynhonnell ynni arall. Ond ein dyletswydd i bobl Cymru yw darganfod, i’r graddau mwyaf posibl, beth yw goblygiadau ffracio, a pha un a all ffracio fod yn ddiogel ai peidio. Credaf fod angen i ni gasglu ac astudio’r dystiolaeth yn ofalus ac yn briodol, efallai drwy’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a allai ddod yn ôl i’r lle hwn i gyflwyno canfyddiadau gwrthrychol ac argymhelliad dysgedig yn seiliedig ar dystiolaeth ynglŷn ag a ddylem ragdybio o blaid neu yn erbyn cymeradwyo ffracio. Mae’n ddigon posibl y byddwn yn canfod y dylem ragdybio yn erbyn cymeradwyo, ac nid oes gennyf broblem gyda chefnogi’r safbwynt hwnnw os yw’r dystiolaeth yn pwyntio i’r cyfeiriad hwnnw. Ond hyd nes y byddwn wedi cael yr astudiaeth briodol honno, rydym yn dibynnu ar ddarnau o wybodaeth gan y lobi o blaid neu’r lobi yn erbyn, ac mae’n bosibl fod gan eu haelodau fuddiannau breintiedig.
Felly, yn gryno, nid wyf yn dweud na ddylem ragdybio yn erbyn. Rwy’n dweud ei bod yn gwbl bosibl y dylem ragdybio yn erbyn. Ond nid oes gennym ddigon o wybodaeth o ffynonellau dibynadwy a gwrthrychol i ffurfio’r farn honno ar hyn o bryd. Pan fyddwn wedi penderfynu a ddylid rhagdybio y naill ffordd neu’r llall, polisi UKIP o hyd yw y dylai unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud gan y bobl sy’n byw yn yr ardal leol drwy refferendwm. Er y gall rhai geisio tanseilio’r polisi hwn drwy gwyno am gost refferendwm lleol, dylem roi llais cryfach i bobl leol ar faterion mor bwysig yn eu hardal. Gallai costau pleidlais o’r fath fod yn rhan o gost ceisiadau’r cwmnïau rhyngwladol a fuasai’n chwilio am ffrac dda. Diolch.
Rwy’n cefnogi Bil Simon Thomas am yr holl resymau sydd eisoes wedi’u hamlinellu ar sail amgylcheddol, ac mae angen i ni symud oddi wrth y tanwyddau ffosil ac at ynni adnewyddadwy. Mae yna un agwedd yr hoffwn holi Simon Thomas yn ei chylch, sef sut rydym yn cyflawni ein cyfrifoldebau byd-eang yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Oherwydd mae’n rhaid i ni gadw mewn cof fod Centrica, sef y cyflenwr ynni mwyaf yn y DU, eisoes wedi buddsoddi £40 miliwn mewn cyfran 25 y cant o drwydded fforio Bowland. Felly, sut y buasech yn fframio eich deddfwriaeth i sicrhau bod pobl yn ymwybodol, er eu bod yn credu ein bod mewn gwlad lle nad oes ffracio’n digwydd, os ydym yn ei fewnforio gan gyflenwr ynni arall sy’n ffracio dros y ffin neu yn rhywle arall, ein bod yn llosgi’r carbon y dylem fod yn ymdrechu i’w arbed? Felly, credaf fod hwn yn bwynt arbennig o bwysig. Rwy’n pryderu bod Centrica yn dweud un peth ac yn gwneud rhywbeth arall. Oherwydd mae’n honni ei fod yn arweinydd byd o ran technolegau newydd a glanhau’r byd, ond mewn gwirionedd, mae’n un o’r rhoddwyr mwyaf i rywbeth a elwir yn Texas Public Policy Foundation, sy’n swnio’n ddiniwed iawn, ond lobi tanwydd ffosil ydyw sy’n gwadu newid yn yr hinsawdd. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a fuasech yn gallu mynd i’r afael â hynny yn eich ymateb.
A gaf fi ddiolch i Simon Thomas am gyflwyno hwn heddiw? Oherwydd rwy’n credu ei fod yn cyflwyno cynnig pwysig, a chymerais ran yn y ddadl ar ffracio ym mis Chwefror 2015. Mae Michelle Brown wedi amlinellu bod angen cymysgedd o ffyrdd o gynhyrchu ynni ac rwy’n cytuno â hi. Mae pawb ohonom yn derbyn hynny. Ond mae hefyd yn bwysig, pan fyddwn yn gwneud hynny, ein bod yn cydbwyso hynny â diogelwch yr amgylchedd. Felly, mae’n rhaid i ni edrych ar yr ystyriaethau hynny, ac rwy’n gwyro tuag at y diffyg tystiolaeth o blaid ffracio diogel ar y pwynt hwn, ac mae hynny’n arbennig o bwysig, oherwydd dyna rydym yn siarad amdano, hollti hydrolig—ffracio, fel rydym i gyd yn ei adnabod—a goblygiadau hynny. Ar draws y byd, mae grwpiau amgylcheddol wedi cynnal nifer sylweddol o brotestiadau yn erbyn ffracio, gan nodi’r ffaith y gallai’r effaith amgylcheddol niweidiol y gall echdynnu nwy siâl ei chael fod yn sylweddol. A dyna ni: nid ydym yn gwybod, a buasai’n well gennyf fod yn or-ofalus.
Nid oes amheuaeth fod yna bryder cyhoeddus sylweddol ynglŷn â ffracio a’r prosesau diwydiannol cysylltiedig. Fel y nododd Simon Thomas, mae yna un cais sydd o bosibl yn aros i ddod i mewn, o fewn—. Nid ym Mhont-rhyd-y-fen y mae mewn gwirionedd; mae yng Nghwmafan, yn dechnegol, oherwydd mae wedi’i leoli yn fy ward fy hun—ond mae’n bryder. Ac mae tyllau turio wedi cael eu cymeradwyo, gan nad oes rheolaeth ar dyllau turio. Felly, dylem edrych ar—. Os ydych am edrych arno, ehangwch, edrychwch y tu hwnt i’r ffracio ei hun; edrychwch ymlaen llaw ar y tyllau turio a’r prosesau a all arwain at bryderon cymunedau, nid ceisio deall y broses gyfan. Torrwch ef yn syth, a byddwn yn well ein byd.
Dirprwy Lywydd—Llywydd, sori—mae llawer o fylchau yn y llenyddiaeth wyddonol mewn perthynas â’r effeithiau hyn ac o ganlyniad mae trafodaeth gyhoeddus yn aml yn dibynnu ar wybodaeth a ffynonellau anecdotaidd. Mae angen i ni gael y dystiolaeth. Roedd David Melding yn llygad ei le: mae tystiolaeth yn bwysig. Ond mae angen inni gael tystiolaeth o ddiogelwch neu ddiffyg diogelwch, ac nid yw hwnnw yno. A dadansoddi strwythurau daearegol—fel y dywedodd Simon Thomas, mae ein strata’n wahanol yma yng Nghymru o gymharu â—Bro Morgannwg, efallai, o’i gymharu â Blackpool. Mae angen i ni gael yr ymchwiliad hwnnw. Mae gwyddonwyr o Global Responsibility a Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd wedi cyhoeddi adroddiadau sy’n adolygu’r dystiolaeth gyfredol, ac mae pob un yn cyhoeddi’r ffaith bod yna bryderon.
Mae’r amryw o beryglon amgylcheddol eisoes wedi cael eu crybwyll—nid wyf am grybwyll pob un. Ond rydym hefyd yn sôn am agweddau iechyd a diogelwch. Rydym yn anghofio weithiau fod gweithwyr ar y safleoedd hyn, ac mae Prifysgol Cornell yn yr Unol Daleithiau wedi gwneud gwaith ymchwil a ddangosai fod dod i gysylltiad â gweithgarwch drilio nwy yn chwarae rhan fawr mewn effeithiau difrifol ar iechyd pobl ac anifeiliaid. A rhyddhaodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol rybudd perygl ar ddata a gasglwyd y gallai gweithwyr ddod i gysylltiad â llwch gyda lefelau uchel o silica crisialog anadladwy—silicon deuocsid—yn ystod y broses o ffracio. Felly, mae goblygiadau iechyd difrifol i weithwyr. Gall y rhain gael eu trosglwyddo i bobl o gwmpas y cymunedau oherwydd, yn wahanol i America, mae gennym ofodau cyfyngedig. Ac yn wahanol i America, mae gennym gyfle yn awr, o bosibl, i wneud pethau.
Cafodd ei grybwyll gan Huw Irranca-Davies fod mannau yn America yn newid cyfreithiau Americanaidd. Ond mae talaith Efrog Newydd wedi gwahardd ffracio. Mae Maryland wedi gwahardd ffracio. Mae yna wledydd a rhanbarthau sydd wedi gwahardd ffracio, ac er nad ni fydd yn arwain y tro hwn, rwy’n credu’n bendant y dylem ddilyn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Simon Thomas am gyflwyno’r cynnig hwn. Ac rwy’n nodi telerau’r cynnig ac yn cydnabod y pryderon y mae nifer o’r Aelodau wedi’u codi yn y Siambr heddiw mewn perthynas â ffracio.
Ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, gwneuthum ddatganiad ar ein polisi a oedd yn datblygu ar ynni. Nodais dair blaenoriaeth: defnyddio ynni’n fwy effeithlon, lleihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwyddau ffosil, a hybu’r newid ynni i sicrhau’r manteision mwyaf posibl i Gymru. Y mis diwethaf, cyhoeddais dargedau ymestynnol ar gyfer ynni adnewyddadwy, sy’n cynnwys cael Cymru i gynhyrchu 70 y cant o’r trydan y mae’n ei ddefnyddio o ynni adnewyddadwy erbyn 2030. Bydd hyn yn ein helpu i ddatgarboneiddio ein system ynni. Er mwyn gallu symud tuag at ynni glân mae gofyn i ni weithredu er mwyn newid o barhau i echdynnu tanwyddau ffosil, yn ogystal â gwneud gwaith pellach i annog a chymell cynhyrchiant ynni adnewyddadwy. Ac wrth gwrs, roedd yn ymrwymiad allweddol ym maniffesto Llafur Cymru i barhau ein gwrthwynebiad cadarn a diamwys i ffracio. Felly, rwy’n credu bod Llywodraeth Cymru wedi dangos yn glir ein bod yn cefnogi’r teimladau sy’n sail i’r cynnig.
Mae’n adeg dda i gymryd camau i atal Cymru rhag cael ei chlymu i echdynnu tanwydd ffosil pellach drwy olew a nwy anghonfensiynol ar y tir, megis siâl neu fethan gwely glo. Mae gennym eisoes fframwaith cynllunio rhagofalus drwy ddau hysbysiad cyfarwyddo a gyhoeddwyd mewn perthynas ag echdynnu olew a nwy anghonfensiynol. Fodd bynnag, rwy’n cydnabod bod angen gwneud mwy. Rwyf eisoes wedi dechrau adolygiad o ‘Polisi Cynllunio Cymru’ er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â bwriadau ein nodau llesiant yn y ffordd orau bosibl a’i fod yn cefnogi cynnydd o ran ein hagenda datgarboneiddio. Fel rhan o’r adolygiad hwn o bolisi cynllunio cenedlaethol, byddaf yn cryfhau polisi cynllunio mewn perthynas ag echdynnu olew a nwy anghonfensiynol ar y tir, a byddaf yn ymgynghori ar newidiadau yn gynnar y flwyddyn nesaf. Rwyf wedi ysgrifennu at brif swyddogion cynllunio yn rhoi gwybod iddynt fy mod yn bwriadu ymgynghori ar newidiadau o’r fath. Rwy’n hyderus y bydd y newidiadau rwy’n bwriadu ymgynghori arnynt drwy fy adolygiad cyffredinol o ‘Polisi Cynllunio Cymru’ yn cyflawni amcanion y cynnig heb fod angen newidiadau i’r gyfraith ar unwaith. Fodd bynnag, nid wyf yn diystyru’r posibilrwydd o gyflwyno deddfwriaeth rywbryd yn y dyfodol os bydd yn rhaid gwneud hynny.
Galwaf ar Simon Thomas i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd. Roeddwn i ar fin ymyrryd ar y Gweinidog yn fanna pan wnaeth hi bennu ei sylwadau. Fe wna i ddweud beth roeddwn i’n mynd i’w ddweud fanna nawr. Rydw i’n ddiolchgar ei bod hi newydd gadarnhau ei bod hi am gadw’r moratoriwm presennol, ond hefyd ei bod hi’n cydnabod pan fydd y pwerau pellach yn dod atom ni yn y Cynulliad y bydd modd i’r Llywodraeth, os oes angen, gymryd camau cyfreithiol, statudol pellach i sicrhau bod y sefyllfa bresennol yn parhau. Nid ydw i’n meddwl ei bod hi’n delio â rhai o bryderon pobl eraill ynglŷn â’r profi ac ynglŷn â’r tyllu, ac rydw i’n meddwl efallai dyna lle y bydd angen i’r Llywodraeth edrych yn y dyfodol.
A gaf i jest ymateb i’r ddadl yn fwy eang drwy ddweud fy mod i’n ddiolchgar i bob Aelod a wnaeth gymryd rhan yn y ddadl? Rydw i’n synhwyro bod mwyafrif yma o blaid gwahardd ffracio yng Nghymru yn llwyr, am y rhesymau sydd wedi cael eu gosod yn glir iawn gan bobl fel David Rees a Lee Waters yn benodol, a Jenny Rathbone yn ogystal. Rydw i’n cydnabod y dilema sydd gan David Melding, mae’n rhaid i mi fod yn onest, achos roedd y Blaid Geidwadol yng Nghymru yn 2016 yn dweud y dylid cadw at y moratoriwm ar ffracio, ac wrth gwrs blwyddyn wedyn, yn etholiad cyffredinol eleni, roedd y Blaid Geidwadol Brydeinig yn dweud:
We will develop the shale industry in Britain.’
Rydw i’n credu bod David Melding wedi gwneud gwyrth o ran llwyddo i ddadlau yn y ffordd roedd e wedi’i wneud, ond rydw i’n dweud wrtho fe, a hefyd wrth bobl eraill yma, bod y teimlad ymysg pobl mor gryf yn erbyn ffracio bod hwn yn gyfle. Rydw i’n ei ddweud mewn ffordd bositif. Mae’n gyfle i ni ailddatgan y ffordd rŷm ni’n gallu datblygu technoleg amgen a thechnoleg adnewyddol yn lle ffracio yng Nghymru. Yn hynny o beth, rydw i’n sefyll gyda Lee Waters. Nid ydym ni yn erbyn technoleg newydd. A dweud y gwir, rydw i eisiau gweld datblygiad technoleg newydd yng Nghymru, er enghraifft yn y modd lle mae yna £100 miliwn o arian Ewropeaidd ac arian Llywodraeth Cymru yn cael ei fuddsoddi nawr o gwmpas moroedd Cymru i ddatblygu ynni o’r môr. Dyma lle rydym ni eisiau gweld y diwydiant a gwaith a buddsoddiad yn mynd yng Nghymru, ac nid o dan ddaear ar gyfer ffracio mewn daeareg, os caf i ddweud, sydd, yn fwyfwy clir, yn anaddas ar gyfer y math yma o ddatblygiadau—boed nhw wedi’u gweld yn yr Unol Daleithiau a Canada neu beidio. Nid yw ein daeareg ni na’n cymunedau ni yn addas ar gyfer y math yna o reibio’r nwy sydd dan ddaear.
Y pwynt olaf rydw i eisiau ei ateb yw’r pwynt a godwyd gan Jenny Rathbone. Nid yw’n bosibl i ni ddatgysylltu ein hunain yn llwyr oddi wrth ffracio. Fe wna i ateb y cwestiwn drwy ofyn cwestiwn arall, mewn ffordd, os caf i. Mae yna nwy yn dod mewn i Aberdaugleddau nawr, heddiw. Mi fydd yna tancer enfawr yn aros tu fas i Aberdaugleddau. LPG yw hwnnw. Ond mae ble mae’r LPG yn mynd yn dibynnu ar bris y nwy wedi’i ffracio yn yr Unol Daleithiau. Er nad ydym ni’n mewnforio’r nwy yna yn uniongyrchol, mae pris y nwy, a ble mae’r nwy yn mynd—ac a ydy e’n mynd o ynysoedd y gorllewin atom ni, neu a ydy e’n mynd o Qatar, neu Dde Korea—mae hynny i gyd yn dibynnu ar bris rhyngwladol y nwy. Nid ydym ni’n gallu datgysylltu o hynny.
Ond rydw i yn cloi gan ategu geiriau David Rees, rydw i’n meddwl: er nad ni fyddai’r cyntaf i fanio ffracio, mae mor glir, gyda’r hanes sydd gyda ni o nwy neu ynni dan ddaear, bod modd i ni gydio yn yr hanes yna a gwneud safiad, a’i wneud yn glir iawn: nid yw Cymru yn wlad lle mae ffracio yn cael ei ganiatáu.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi’r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio, felly.