Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 25 Hydref 2017.
Gadewch i mi ddweud yn gyntaf, fel y mae pethau ar hyn o bryd, buaswn yn bryderus iawn o weld unrhyw ffracio yng Nghymru. Nid oes neb wedi profi ei fod yn ddiogel, ond nid oes neb ychwaith wedi profi na ellir ei wneud yn ddiogel. Rwyf hefyd yn cytuno â llawer o’r hyn y mae Simon Thomas a Lee Waters wedi’i ddweud ynglŷn â pheryglon ffracio, a dyna pam fod y cysyniad o ffracio yng Nghymru yn fy mhoeni’n fawr. Cyn caniatáu ffynonellau ynni fel ffracio a allai effeithio ar yr amgylchedd ecolegol neu ddaearyddol, mae angen i ni gael gwybodaeth a sicrwydd am ei ganlyniadau i’n hamgylchedd a phobl sy’n byw yn agos ato.
Mae’r rhai sydd o blaid ffracio yn dweud bod ffracio’n caniatáu i gwmnïau ddrilio er mwyn cael mynediad at ffynonellau olew a nwy sy’n anodd eu cyrraedd. Rwy’n siŵr fod hynny’n wir. Yn yr Unol Daleithiau, mae wedi rhoi hwb sylweddol i gynhyrchiant olew domestig ac wedi gostwng prisiau nwy. Amcangyfrifir ei fod wedi cynnig diogelwch nwy i’r Unol Daleithiau a Chanada am tua 100 mlynedd, ac mae wedi darparu cyfle i gynhyrchu trydan sy’n allyrru hanner cymaint o garbon deuocsid â glo. Mae’r diwydiant yn awgrymu y gallai ffracio nwy siâl gyfrannu’n sylweddol tuag at anghenion ynni’r DU yn y dyfodol, ac mae’r tasglu ar nwy siâl, corff a ariennir gan y diwydiant, wedi dweud bod angen i’r DU ddechrau ffracio er mwyn sefydlu effaith economaidd bosibl nwy siâl, gan ddweud y gallai greu miloedd o swyddi. Fodd bynnag, mae’r rhai sydd yn erbyn ffracio yn nodi rhai pryderon amgylcheddol sydd at ei gilydd heb eu hateb.
Mae ffracio’n defnyddio llawer iawn o ddŵr sy’n rhaid ei gludo i’r safle ffracio ar gost amgylcheddol sylweddol. Mae amgylcheddwyr yn dweud bod cemegau carsinogenaidd posibl a ddefnyddir yn gallu dianc a halogi dŵr daear o gwmpas y safle ffracio. Mae’r diwydiant ei hun yn awgrymu bod digwyddiadau llygru yn deillio o arferion gwael yn hytrach na thechneg sy’n gynhenid beryglus. Ond er ei bod yn bosibl y gallai arferion da atal llygredd, mae’n rhaid i ni gofio, pan fo elw a cholled yn rhan o bethau, gallai’r demtasiwn i dorri corneli fod yn un hollbwysig. Ceir pryderon hefyd y gall y broses o ffracio achosi tirgryniadau bach, fel y digwyddodd ger Blackpool yn 2011.
Mae gwrthwynebwyr hefyd yn nodi bod ffracio yn tynnu sylw cwmnïau ynni a Llywodraethau rhag buddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy ac annog dibyniaeth barhaus ar danwyddau ffosil, sydd eisoes wedi cael ei grybwyll y prynhawn yma. Ond er y gall hynny fod yn wir, rwy’n credu y dylai unrhyw gyfyngiadau neu reolaethau ar ffracio fod yn seiliedig ar ddiogelwch a chynaliadwyedd y broses yn unig, yn hytrach na ffordd o annog pobl i archwilio ffynonellau ynni amgen. Wrth gwrs, dylem archwilio ynni adnewyddadwy, ac rydym yn gwneud hynny. Ond buasai’n synhwyrol ac yn ddoeth cael cymysgedd iach o ffynonellau ynni, ac mae’n ddigon posibl y gallai ffracio fod yn rhan ddiogel a derbyniol o’r gymysgedd honno.
Felly, gan droi at y cynnig, rwy’n credu ei bod yn bosibl y daw adeg pan allai fod yn briodol cyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn ffracio. Fodd bynnag, mae’r cynnig hwn yn achub y blaen ar ganfyddiad na all ffracio fod yn ddiogel. Gŵyr pawb ohonom fod dod o hyd i ffynonellau ynni’n dod ar draul yr amgylchedd i ryw raddau, boed yn danwyddau ffosil neu ddatblygu neu osodiadau ynni adnewyddadwy. Felly, ni allwn ddisgwyl na fydd unrhyw broblem gyda ffracio neu unrhyw ffynhonnell ynni arall. Ond ein dyletswydd i bobl Cymru yw darganfod, i’r graddau mwyaf posibl, beth yw goblygiadau ffracio, a pha un a all ffracio fod yn ddiogel ai peidio. Credaf fod angen i ni gasglu ac astudio’r dystiolaeth yn ofalus ac yn briodol, efallai drwy’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a allai ddod yn ôl i’r lle hwn i gyflwyno canfyddiadau gwrthrychol ac argymhelliad dysgedig yn seiliedig ar dystiolaeth ynglŷn ag a ddylem ragdybio o blaid neu yn erbyn cymeradwyo ffracio. Mae’n ddigon posibl y byddwn yn canfod y dylem ragdybio yn erbyn cymeradwyo, ac nid oes gennyf broblem gyda chefnogi’r safbwynt hwnnw os yw’r dystiolaeth yn pwyntio i’r cyfeiriad hwnnw. Ond hyd nes y byddwn wedi cael yr astudiaeth briodol honno, rydym yn dibynnu ar ddarnau o wybodaeth gan y lobi o blaid neu’r lobi yn erbyn, ac mae’n bosibl fod gan eu haelodau fuddiannau breintiedig.
Felly, yn gryno, nid wyf yn dweud na ddylem ragdybio yn erbyn. Rwy’n dweud ei bod yn gwbl bosibl y dylem ragdybio yn erbyn. Ond nid oes gennym ddigon o wybodaeth o ffynonellau dibynadwy a gwrthrychol i ffurfio’r farn honno ar hyn o bryd. Pan fyddwn wedi penderfynu a ddylid rhagdybio y naill ffordd neu’r llall, polisi UKIP o hyd yw y dylai unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud gan y bobl sy’n byw yn yr ardal leol drwy refferendwm. Er y gall rhai geisio tanseilio’r polisi hwn drwy gwyno am gost refferendwm lleol, dylem roi llais cryfach i bobl leol ar faterion mor bwysig yn eu hardal. Gallai costau pleidlais o’r fath fod yn rhan o gost ceisiadau’r cwmnïau rhyngwladol a fuasai’n chwilio am ffrac dda. Diolch.