Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 25 Hydref 2017.
Erbyn hyn 18 mis yn unig sydd i fynd nes y daw Cymunedau yn Gyntaf i ben yn gyfan gwbl. Ac o ran trosglwyddo darpariaeth a chyllid etifeddol, mae’n rhaid i ni fod yn hyderus fod y cyrff statudol a fydd yn cymryd rheolaeth dros gyflawni prosiectau cyfredol yn cael y cyllid sydd ei angen i gyflawni’r prosiectau hynny, a bod arian yn cael ei glustnodi yn unol â hynny. Rwy’n dweud hynny heddiw oherwydd bod rhai cwestiynau wedi codi mewn perthynas ag uno rhai ffrydiau cyllido sy’n gysylltiedig â Cefnogi Pobl, a gallai rhai ohonynt gynnwys agweddau ar gynlluniau cyfredol Cymunedau yn Gyntaf. Felly, mae angen i mi ddeall yma heddiw a fydd y broses o ddyrannu’r gyllideb sydd ar y gweill yn awr yn cynnwys gostyngiad cyffredinol yn y swm sy’n cael ei wario ar Cymunedau yn Gyntaf ar hyn o bryd. A fyddwch yn bendant yn diystyru hynny fel Ysgrifennydd y Cabinet?
Mae yna nodyn yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i’r pwyllgor sy’n dweud na fydd unrhyw oblygiadau ariannol, gan na fydd gwariant ar raglenni yn y dyfodol yn dod o gyllidebau presennol, ond nid yw’n dweud pa gyllidebau, nac yn dweud a fydd y cyllidebau y bydd Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei uno â hwy yn cael cynnydd cyfatebol o ran arian. Rwy’n credu bod angen egluro hynny. Mae’n dweud mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor y bydd strategaethau unigol ar gyfer agweddau penodol ar dlodi yn cael eu gwrthod gan y Llywodraeth yn y dyfodol. Wrth gwrs, rydym yn deall fel plaid fod angen cael dull gweithredu trawsbynciol, gan dalu sylw i sut y mae gwahanol agweddau yn cael eu cysylltu, ond beth am ddull gweithredu ar wahân ar gyfer tlodi plant?
Rwyf fi a Sian Gwenllian, fy nghyd-Aelod, wedi codi’r mater droeon—yn y pwyllgor, ac yma yn y Siambr—y dylid ystyried strategaeth tlodi plant bwrpasol, fel sydd gan lawer o wledydd eraill, gan fod agweddau ar dlodi plant yn drawsbynciol y tu hwnt i faterion economaidd, yn enwedig mewn perthynas â llywodraeth leol, gwasanaethau cymdeithasol a thai, er enghraifft, ac addysg, cydraddoldebau addysg, ac ymyrraeth ar gyfer plant mewn argyfwng, er enghraifft. Felly, nid ydym yn fodlon nad oes angen y strategaeth unigol honno mewn perthynas â thlodi plant.
Mewn perthynas â Dechrau’n Deg, rydym yn cydnabod bod yna loteri cod post i’r rhaglen hon, ac mae’r Llywodraeth yn derbyn nad yw hyn yn ddelfrydol. Fodd bynnag, er bod yna opsiynau ar gyfer hyblygrwydd, ni allaf weld, o ymateb y Llywodraeth, i ba raddau y manteisir arnynt—rwy’n credu mai’r term yw ‘allgymorth’—faint o ardaloedd lleol sy’n manteisio ar y cyfle allgymorth hwnnw i ymhelaethu ar Dechrau’n Deg, a pha gyfleoedd sydd ar y gweill.
Rwy’n deall—ac rydych wedi fy nghlywed yn dweud hyn o’r blaen hefyd—fod angen gwella monitro ac adrodd gydag unrhyw arian newydd yn y dyfodol sy’n deillio o Cymunedau yn Gyntaf. Rydym wedi cael tystiolaeth sy’n dangos, pan fydd rhywun yn dechrau mewn swydd, fod diffyg gwybodaeth ynglŷn â pha mor hir y byddant yn aros yn y swydd honno, a’r hyn sy’n dilyn mewn perthynas â chymorth i’r unigolyn dan sylw. Mae gennyf bryder personol hefyd fod Cymunedau am Waith yn cael ei sefydlu’n amlwg mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf. Os mai dyna yw un o’r atebion i ddisodli Cymunedau yn Gyntaf, drwy liferi economaidd Ewropeaidd cyfredol, sut y bydd hwnnw’n cael ei ymestyn yn y dyfodol, o ystyried ei fod, ar hyn o bryd, yn darparu ar gyfer ardal ddaearyddol lai?
Roedd ein rhwystredigaeth fel pwyllgor hefyd—a na, ni allaf siarad ar ran pawb ar y pwyllgor—yn deillio o’r ffaith bod llawer o bwyslais yn cael ei roi ar y cynllun cyflogadwyedd, y strategaeth gyflogadwyedd, wrth symud ymlaen, sydd yn nwylo Julie James AC rwy’n credu, ond mae’n anodd iawn dadansoddi sut y buasai hwnnw’n ymateb i Cymunedau yn Gyntaf, pan nad ydym wedi gweld y manylion o gwbl, ac mae wedi cael ei addo i ni dro ar ôl tro. Felly, ar hyn o bryd, ni allwn fod yn sicr y gall hwnnw fod yn ateb hollgynhwysol i Cymunedau yn Gyntaf yn mynd i mewn i ffrydiau ariannu eraill, gan nad oes gennym y wybodaeth a’r manylion o’n blaenau.
Yn y pen draw, nid wyf wedi deall yn union beth yw’r sail resymegol ynddi ei hun dros ddod a Cymunedau yn Gyntaf i ben. Gallai fod yn fuddiol inni gael sgwrs agored am y ffaith mai’r rheswm, o bosibl, yw oherwydd ei fod, yn y pen draw, wedi methu cyflawni yr hyn roedd wedi bwriadu ei gyflawni. Ni allwn wastraffu arian fel hyn yn y dyfodol, oherwydd mae’n llawer o arian sydd wedi mynd tuag at rywbeth nad yw wedi bod yn llwyddiant. Er ei bod yn bosibl fod prosiectau unigol wedi bod yn llwyddiannus, ni lwyddodd fel cysyniad. Felly, mae angen sicrwydd, nid yn unig fel pwyllgor, ond fel Aelodau Cynulliad, y bydd unrhyw gynlluniau yn y dyfodol yn mynd ati i wneud yr hyn y maent yn bwriadu ei wneud ac y gellir cynnwys pobl leol gymaint ag sy’n bosibl.
Nid oes gennyf lawer o amser ar ôl, ond fy nghasbeth arall oedd yr holl gysyniad hwn o rymuso. Mae’n dweud eich bod yn diffinio grymuso, ac rwy’n dyfynnu, fel
‘sicrhau bod cymunedau’n cymryd diddordeb ac yn cael eu grymuso i fynegi eu llais yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.’
Nid yw hynny’n dweud llawer. Nid yw’n dweud sut y byddant yn dangos diddordeb, sut y byddant yn cymryd rhan yn y broses. Gallwn daflu’r geiriau hyn o gwmpas gymaint ag y mynnwn—fel y gwnaethom gyda ‘phlygu rhaglenni’ am ba hyd bynnag pan gefais fy ethol yn gyntaf—ond mae angen trawsnewid geiriau’n weithredoedd. Gobeithiaf y byddwch yn gwrando ar y sylw hwnnw ac yn gwneud yn siŵr fod dinasyddion yn cael eu cynnwys mewn unrhyw gyfansoddiad yn y dyfodol mewn ffordd ragweithiol ac ystyrlon wrth feddwl am y dyfodol o ran helpu’r rhai mewn ardaloedd tlawd yng Nghymru.