Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 25 Hydref 2017.
A gaf fi ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei ddatganiad, ac yn wir, am onestrwydd ei adroddiad? Yn 2001, lansiodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth adfywio ar gyfer Cymoedd de Cymru. Ymysg y mentrau niferus a ragwelwyd, y cynnig blaenllaw oedd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Roedd hwn, fel yr awgryma’r enw, i fod yn gyfres o ymyriadau yn seiliedig ar gymunedau a gynlluniwyd i drechu tlodi ar draws yr hyn a arferai gael ei alw’n faes glo de Cymru. 16 mlynedd yn ddiweddarach, a chyda £432 miliwn wedi’i fuddsoddi yn y prosiect, mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi penderfynu o’r diwedd fod ei effaith wedi bod yn ddibwys. Pam? Oherwydd bod y Cymoedd yn parhau ar frig y tablau cynghrair o ran anghydraddoldebau tlodi, iechyd ac addysg.
Er bod y prosiect hwn i fod i gael ei lywio gan y gymuned, y Llywodraeth ac awdurdodau lleol oedd yn rheoli’r cyllid. Mewn llawer o achosion, roedd y byrddau llywodraethu a sefydlwyd i weinyddu’r rhaglenni o dan y cynllun yn cynnwys cynghorwyr lleol i raddau helaeth, a olygai fod llawer o benderfyniadau’n cael eu gwneud yn ôl agendâu pleidiau gwleidyddol. Roedd hyn felly’n lleihau’r ymgysylltiad â’r gymuned yn helaeth. Mae’n rhaid cydnabod bod yna enghreifftiau o arferion da a rhai llwyddiannau sylweddol, yn enwedig mewn perthynas â phlant a phobl ifanc, ond roedd y rhain yn anghyson ac yn sicr nid oeddent yn gyffredinol.
Mae’n rhaid ystyried methiant cyffredinol Cymunedau yn Gyntaf yng nghyd-destun oddeutu £1.2 biliwn o’r hyn a elwir yn gyllid Ewropeaidd a wariwyd ar fentrau eraill yn y Cymoedd. ‘Partneriaethau strategol’, ‘cynyddu capasiti’, ‘meddwl cydgysylltiedig’ a ‘chynlluniau gweithredu lleol’ oedd geiriau allweddol y cyfnod—a’r cyfan yn rhethreg gymhellgar, ond yn brin o gyflawniad. Mae’r gallu i edrych yn ôl, wrth gwrs, yn offeryn pwerus, ond mae llawer am y prosiect Cymunedau yn Gyntaf y dylid bod wedi gweld na allai gyflawni’r nodau gofynnol. Efallai y gellid bod wedi osgoi methiannau’r cynllun drwy gychwyn prosiect peilot ar ei ben ei hun i werthuso ei ganlyniadau posibl, y gellid bod wedi ei gyflwyno wedyn mewn ffordd fwy cydlynol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud camgymeriadau sylweddol yn y strategaethau adfywio—gyda Cymunedau yn Gyntaf ymhlith y rhai mwyaf amlwg. Ond mae’n galondid mawr i weld ei bod yn ymddangos ei bod wedi dysgu o’r methiannau hyn a’i bod bellach i’w gweld yn cofleidio ideoleg newydd sbon mewn perthynas â threchu tlodi. Ymddengys bod yna sylweddoliad go iawn o fewn Llywodraeth Cymru mai’r unig ffordd y gellir trechu tlodi yw drwy economi gref sy’n seiliedig ar ddiwydiant. Y gwir amdani yw mai swyddi da sy’n talu’n dda yw’r unig ffordd o gyrraedd y nod o drechu tlodi a dyna pam y byddwn ni yn UKIP yn cefnogi unrhyw strategaeth gan y Llywodraeth i adeiladu economi ddiwydiannol gref a gwydn yng Nghymoedd de Cymru.