Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 25 Hydref 2017.
Felly, yn ôl at y dreth dwristiaeth. Nid yw amheuaeth wedi ei gyfyngu i Aelodau’r Cynulliad. Mae hyd yn oed Sefydliad Bevan, sydd wedi cefnogi’r dreth yn gyhoeddus, i fod yn deg iddynt, o leiaf ar ei ffurf embryonig, wedi cyfaddef nad ydynt yn gwybod beth fyddai effaith treth dwristiaeth yng Nghymru. Rwy’n siwr y byddai hyd yn oed Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud ar hyn o bryd nad oes gennym asesiad o beth fyddai’r effaith honno. Mae’r argymhelliad hwn wedi cael ei feirniadu’n helaeth gan y sector twristiaeth yng Nghymru. Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi nodi’n glir eu gwrthwynebiad i’r dreth, gan ddadlau
Er nad yw Cynghrair Twristiaeth Cymru’n gwrthwynebu trethiant teg, mae’n gwrthwynebu Treth Dwristiaeth ar y sail y byddai’n niweidio’r sector lletygarwch a thwristiaeth ac yn syml iawn, nid yw’n dreth deg.
Rydym yn credu bod Cynghrair Twristiaeth Cymru yn iawn: nid yw treth dwristiaeth yn dreth deg, ac fel sail i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer trethi newydd yng Nghymru, dywedwyd wrthym yn y gorffennol mai tegwch, cydraddoldeb a blaengaredd oedd wrth galon eu strategaeth. Nid yw hynny’n ymddangos yn y cynigion ar gyfer y dreth hon.
Gallai treth dwristiaeth olygu y bydd yn rhaid i’r busnesau hyn gynyddu cost eu cyfleusterau i wneud iawn am unrhyw godiadau, a gallai effeithio’n niweidiol ar economïau lleol ledled Cymru. Gwyddom fod y sector twristiaeth yng Nghymru yn cyfrannu’n enfawr i economi Cymru, ac rwy’n siŵr, drwy gydol y ddadl hon, y bydd Aelodau o wahanol rannau o Gymru yn tynnu sylw at y cyfraniad real iawn y mae twristiaeth yn ei wneud i’w hetholaethau a’u rhanbarthau. Rwyf wedi cael fy ngohebiaeth fy hun, fel y gwn fod Aelodau Cynulliad eraill wedi cael. Mae un e-bost yma gan berchennog parc carafannau yn fy etholaeth sy’n bryderus iawn am yr effeithiau y byddai treth a weithredir yma’n ei chael ar fusnesau ar y ffin, a’r ffordd y gallai twristiaid a fyddai fel arall yn dod i Gymru aros yr ochr arall i’r ffin. Rydym yn gwybod bod ffin fân-dyllog hir rhwng Cymru a Lloegr—mae’n dra gwahanol i’r ffin rhwng yr Alban a Lloegr—ac ni fuasem am weld unrhyw beth yn cael ei weithredu ar yr ochr hon i’r ffin a fuasai’n annog pobl i beidio â dod yma i wario’u harian ar fusnesau Cymru a’r sector twristiaeth yng Nghymru.
Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru felly yn diogelu ac yn cefnogi sector twristiaeth Cymru fel ei fod yn parhau i wneud cyfraniad iach i’n heconomi. Gadewch inni beidio ag anghofio bod y diwydiant twristiaeth yn farchnad gystadleuol ac mae busnesau yng Nghymru’n cystadlu ar lefel ddomestig gyda’n cymheiriaid ar draws gweddill y DU yn ogystal ag ar lefel fyd-eang. Os yw Llywodraeth Cymru’n bwrw ymlaen i gyflwyno treth dwristiaeth ar unrhyw ffurf, bydd yn gwneud lleoedd eraill yn y DU yn gynnig mwy deniadol o ran cost na dod ar wyliau yma i Gymru.
Mewn llefydd fel fy etholaeth fy hun, sydd, fel y dywedais, yn agos yn ddaearyddol at y ffin â Lloegr, gallai gael goblygiadau difrifol os yw pobl yn dewis aros yr ochr arall i’r ffin yn y dyfodol. Wrth asesu potensial treth dwristiaeth ymddengys na chafwyd unrhyw asesiad o gwbl o’r effaith ar etholaethau’r ffin, ac a dweud y gwir, mae’n destun pryder fod Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i’r cynigion hyn gael eu hystyried ymhellach.
Ac wrth gwrs nid gwestai a darparwyr llety’n unig a allai deimlo gwasgfa’r dreth newydd hon. Gwlad fach yw Cymru a chanddi gadwyni cyflenwi cymhleth, yn enwedig ym maes lletygarwch a thwristiaeth. Mae tafarndai, clybiau, caffis a siopau i gyd yn fusnesau a allai deimlo’r effaith pe bai’r cynigion hyn yn mynd yn eu blaen. Gallai treth dwristiaeth fod yn hynod o niweidiol o ran niferoedd ymwelwyr â llawer o’r busnesau hyn ledled Cymru, gyda llawer ohonynt yn dibynnu ar incwm twristiaeth i aros mewn busnes.
Fel y dywedaf, nid Aelodau Cynulliad yn unig sydd wedi bod yn mynegi’r pryderon hyn, mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach hefyd wedi cyflwyno eu safbwyntiau eu hunain a chytunaf yn llwyr â barn y Ffederasiwn Busnesau Bach y dylai Llywodraeth Cymru, ac rwy’n dyfynnu, osgoi cefnogi unrhyw ardoll sy’n cael ei thargedu bron yn llwyr at fusnesau bach.
Yr ardaloedd o Gymru sydd fwyaf dibynnol ar dwristiaeth i gefnogi’r economi leol yw’r ardaloedd sydd â’r economïau lleiaf amrywiol hefyd yn aml, ac mae’n rhaid inni fod yn ofalus fod effaith lawn bosibl ardoll newydd ar fusnesau twristiaeth bach yn cael ei deall.
Rydym yn ofni na fu unrhyw asesiad o anghydraddoldebau rhanbarthol a rôl y diwydiannau twristiaeth lleol, na dealltwriaeth o effaith bosibl hyn ar y diwydiant yn ei gyfanrwydd. Yn sicr, ni fydd y dreth, ynghyd ag effaith ailbrisio ardrethi yn ddiweddar ar rai busnesau, a’r ffaith bod y diwydiant eisoes yn talu 20 y cant mewn treth ar werth, yn gwneud dim i helpu’r diwydiant—[Torri ar draws.] Rwy’n clywed rhai sylwadau gan yr Aelodau sy’n eistedd gyferbyn ar sut y gallwn wrthwynebu hyn. Wel, yn amlwg nid ydych yn poeni am ei heffaith neu buasech o bosib wedi cyflwyno gwelliant a oedd hyd yn oed yn crybwyll y pwnc y mae’r cynnig hwn yn sôn amdano.