Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 25 Hydref 2017.
Rwyf wrth fy modd yn cael cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Yn yr ychydig wythnosau ers i’r syniad hwn gael ei wyntyllu gan Lywodraeth Cymru, rwyf i’n bersonol wedi cael llawer iawn o ohebiaeth gan fusnesau, unigolion a sefydliadau masnach sydd, yn ddieithriad, yn erbyn y syniad hwn. Gadewch imi fod yn glir: rwy’n falch fod gan y Cynulliad rywfaint o gyfrifoldeb am ei threthi bellach, ond os yw trethi’n mynd i gael eu gosod, yna mae’n rhaid iddynt fod, nid yn unig yn deg, ond hefyd yn cael yr effaith a fwriadwyd wrth eu cynllunio. Y math gwaethaf o dreth yw un sy’n effeithio ar fusnesau unigol ac sy’n lleihau incwm ac felly derbyniadau treth, ac o’r hyn a welaf, treth felly yw’r dreth dwristiaeth arfaethedig hon. Nid oes unrhyw dystiolaeth ei bod yn gweithio. Nid oes unrhyw dystiolaeth y byddai ei gweithredu’n gyffredinol ledled Cymru yn effeithiol. Ac mewn gwlad lle’r ydym yn rhannu ffin mor hir ar y tir â Lloegr ac yn cystadlu gyda Lloegr am lawer o dwristiaid, mae’n argoeli i fod yn wrthgynhyrchiol.
Rwy’n cynrychioli etholaeth sy’n cynnwys dwy sir lle y mae’r diwydiant twristiaeth yn allweddol i’n ffyniant economaidd. Yn Sir Benfro, mae twristiaeth yn werth £585 miliwn y flwyddyn, ac yn Sir Gaerfyrddin mae’n werth £370 miliwn y flwyddyn. Mae’r diwydiant twristiaeth yn creu’r hyn sy’n cyfateb i 5,683 o swyddi amser llawn yn Sir Gaerfyrddin yn unig. Er nad wyf yn honni y buasai’r diwydiant cyfan yn cael ei roi dan fygythiad, ni ellir gwadu y byddai treth dwristiaeth yn cael effaith ddifrifol ar nifer yr ymwelwyr a gwariant defnyddwyr.
Rwyf wedi edrych ar sut y mae treth neu ardoll feddiannaeth neu dreth wely o’r fath yn gweithio mewn gwledydd eraill yn Ewrop. Mae angen inni gofio er hynny, yn draddodiadol, fod cyfraddau meddiannaeth yn llawer uwch nag yn y DU, ac felly efallai na fyddwn yn cymharu tebyg at ei debyg, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae hynny’n rhywbeth yr hoffwn i chi fynd i’r afael ag ef mewn gwirionedd. Er enghraifft, yn yr Almaen, mae teithwyr busnes yn cael eu heithrio. Mae Gwlad Belg yn gostwng y TAW i holl westai a bwytai’r wlad o 21 y cant i 6 y cant, ond mae ganddi dreth dinas ar ben hynny wedyn. Rwy’n chwerthin braidd ar Blaid Cymru’n dweud eu bod am fod yn gyfrifol am eu pwerau cyllidol a’u bod yn edrych ymlaen at hynny. Wel, hwrê, rwy’n cytuno â hynny, heblaw’r ffaith eich bod wedi treulio’r rhan fwyaf o’ch dadl yn siarad am dreth nad oes gennym unrhyw gyfrifoldeb drosti mewn gwirionedd nac unrhyw ffordd o bwyso arni, sef y gyfradd TAW. Nid yw Portiwgal—[Torri ar draws.] Nid yw Portiwgal ond yn cymhwyso’r dreth ar y saith diwrnod cyntaf o deithio. Felly, yr hyn yr hoffwn ei ddeall, Ysgrifennydd y Cabinet, yw pa fath o fodelau y buasech yn edrych arnynt, sut y buasech yn eu harchwilio a sut y buasech yn eu gwerthuso yn erbyn y cefndir presennol sydd gennym yn y Deyrnas Unedig, oherwydd pa un ai Llafur neu’r Ceidwadwyr sydd yn San Steffan, mae TAW wedi bod ar y lefel hon ers peth amser ac nid wyf yn ei weld yn newid yn fuan ac mae angen inni ddeall hynny er mwyn gwneud yn siŵr nad ydym yn gordrethu ein pobl ein hunain.
Y sector twristiaeth yng Nghymru yw’r gyfran uchaf o weithlu unrhyw un o wledydd y DU: 12.7 y cant o gyfanswm y gweithlu, o’i gymharu â 10 y cant yn yr Alban, 8 y cant yn Lloegr a 4 y cant yn unig yng Ngogledd Iwerddon. Felly, mae twristiaeth yn hynod o bwysig i’n gwlad ac i’n heconomi. Mae 25 y cant o’r holl fusnesau a gofrestrwyd ar gyfer TAW yng Nghymru yn yr economi ymwelwyr.
O ran Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, rwy’n poeni y bydd yn taro pobl leol lawn cymaint â thwristiaid. Bydd yn gwneud i bobl feddwl ddwywaith am gael noson i ffwrdd mewn gwesty lleol, aros dros mewn priodas neu wyliau mewn rhannau cyfagos o Gymru. Bydd yn cael effaith ganlyniadol ar fusnesau lleol eraill. Yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, rydym wedi annog llawer iawn o ffermwyr i arallgyfeirio, a gwelwyd rhai llwyddiannau gwirioneddol ardderchog. Ond sut y bydd y dreth hon yn effeithio ar y busnesau sydd wedi arallgyfeirio?
Er mai’r tymor gwyliau mawr yw’r prif enillydd incwm ar gyfer y sector twristiaeth yng Nghymru, gwelwn hefyd fod y tymor rhwng y tymor brig a’r tymor allfrig yn gyfnod pwysig i’r diwydiant. Fodd bynnag, denu ymwelwyr o’r DU a wna hyn yn bennaf ac rwy’n pryderu ynglŷn â sut y bydd treth dwristiaeth yn effeithio ar y farchnad benodol honno. Byddwn yn llai deniadol nag Cernyw.
Ar hyn o bryd mae’r DU yn safle 140 allan o 141 o wledydd o ran cystadleurwydd pris, yn bennaf oherwydd lefel y dreth y mae ymwelwyr eisoes yn ei thalu. Mae’r DU yn codi cyfradd TAW lawn ar bob un o’r tair cydran o wariant ymwelwyr: llety, prydau bwytai ac atyniadau. Nid yw rhannau eraill o Ewrop yn gwneud hynny. Hefyd, mae ein TAW ddwywaith y cyfartaledd Ewropeaidd. Drwy ychwanegu treth bellach, bydd hyn wedyn yn gwneud Cymru hyd yn oed yn waeth ei byd ac rwy’n pryderu mai treth arall yw hon ar gyfer cyllideb gydgrynhöol Llywodraeth Cymru. A fydd yr arian hwn yn cael ei glustnodi? Pwy fydd yn ei gasglu? Sut y caiff ei ailfuddsoddi mewn twristiaeth? Ac yn wahanol i’r dreth ar fagiau plastig, a gynlluniwyd i newid diwylliant ac ymddygiad, Ysgrifennydd y Cabinet, mae hon i’w gweld i mi yn dreth ar gyfoeth a hamdden yn unig, a hoffwn wybod faint y byddai’n costio i’w gweithredu a’r canlyniadau parhaus.