Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 25 Hydref 2017.
Rwy’n ddiolchgar i Gadeirydd y pwyllgor rwy’n aelod ohono. Rwyf wedi ysgrifennu ato ac wedi nodi eich bod wedi camliwio’r hyn a ddywedais ar gyfres gyfan o achlysuron. Rydych newydd ddarllen y dyfyniad—beth oedd yn ei ddweud? Archwiliwch: yr un peth yn union ag y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, felly rhowch y gorau i ddychmygu pethau drwy ddweud ein bod yn ei gefnogi. Rydym yn dweud bod gennym feddyliau agored. Gadewch i ni edrych ar fanteision ac anfanteision pob syniad. Mae’r ateb yn yr hyn a ddywedais, nid yr hyn y dywedwch chi fy mod wedi ei ddweud.