Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 25 Hydref 2017.
Ydw. Felly, yn gyffredinol, rydym yn cytuno bod hon yn broblem enfawr. Y broblem arall nad oes neb wedi siarad amdani, ac nad oes gennyf amser i’w thrafod, yw nad oes unrhyw ffordd ystyrlon o ailhyfforddi pobl drwy’r system ar hyn o bryd, a dyna’r elfen hanfodol. Os ydych yn mynd i gael pobl i weithio, pam nad oes unrhyw bwyslais go iawn ar eu hailhyfforddi a’u cael i mewn i gyflogaeth ystyrlon? Diolch yn fawr iawn.