Part of the debate – Senedd Cymru am 12:32 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Diolch, Llywydd. Rwy'n sefyll y prynhawn yma i gofio Carl, fel gwleidydd, fel cydweithiwr, ac fel ffrind. Yn gyntaf, rwyf am estyn bob cydymdeimlad i Bernie a'r teulu. Iddyn nhw, mae wedi bod yn amser o golled annioddefol a thrawma ofnadwy. Rwyf innau'n dad ac yn ŵr, ac ni allaf ddechrau dychmygu eu dioddefaint. Rwy'n gobeithio eu bod wedi cael rhywfaint o gysur yn ei gilydd ac yn y llu o negeseuon o gefnogaeth o bob rhan o Gymru.
Roedd Carl yn rhywun yr oedd ei bresenoldeb yn y Siambr hon yn amlwg i bawb. Aeth â mwy o ddeddfwriaeth drwy'r lle hwn nag unrhyw Weinidog arall. Ac roedd ganddo'r ddawn o droi darnau anodd o ddeddfwriaeth yn rhywbeth gwerth chweil. Does dim enghraifft well o hynny na Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015—syniad a ddechreuodd fel dim mwy nag un llinell mewn maniffesto. Pan ddywedais wrtho mai ef a fyddai'n bwrw ymlaen ag ef, ei ymateb oedd, 'Diolch am hynny', ond fe lwyddodd i'w droi yn rhywbeth y mae pobl yn ei drafod o amgylch y byd.
Cyfarfûm gyntaf â Carl yng Nghlwb Llafur Cei Connah yn 2001. Roeddwn i wedi mynd i siarad â'r Blaid Lafur leol pan oedd Tom Middlehurst yn Aelod Cynulliad. Pan gafodd ei ethol yma yn 2003, daethom yn ffrindiau. Daeth ei ddoniau arbennig i'r amlwg pan oedd yn brif chwip, a gwelais â'm llygaid fy hun ei fod yn gallu dweud y drefn yn addfwyn pan oedd angen, ac rwy'n cofio un achlysur pan aeth ag AC amharod allan i fwydo'r hwyaid er mwyn perswadio'r aelod i bleidleisio y ffordd iawn. Gŵr dawnus dros ben. Yn yr holl flynyddoedd yr oeddem ni'n adnabod ein gilydd, ni fu erioed yr un gair croes rhyngom. Gwnaethom dreulio llawer o amser yn trafod heriau bod yn dad a phwysau gwleidyddiaeth, weithiau'n hel clecs am gydweithwyr yn y Cabinet. Ac roedd bob amser yn llawn cyngor. Dim ond y llynedd, dywedodd wrthyf nad oedd neb ond fe yn cael bod â barf llwyd yn y Cabinet, ac felly bod yn rhaid i mi eillio fy un i, Prif Weinidog Cymru neu beidio. Doedd gen i ddim dewis ond gwrando.
Roedd bob amser yn rhan o'r Cabinet, a hynny am reswm da. Fe'i penodais ef oherwydd ei fod yn un da am ddeddfwriaeth, am ei fod yn dda gyda phobl, ac am ei fod yn dod â llais Glannau Dyfrdwy i galon y Llywodraeth.
Yn 2003, roedd yn rhan allweddol o fy ymgyrch i ar gyfer yr arweinyddiaeth. Ei swyddogaeth ef oedd trefnu pethau yn y gogledd, ond doedd pethau ddim bob amser yn mynd yn esmwyth. Trefnodd noson gyri gydag aelodau'r blaid, mewn bwyty cyri yn ei etholaeth. Ac wrth i mi gael fy ngyrru yno, ffoniodd mewn panig, 'Paid â dod', ddywedodd e', 'mae'r bwyty'n cael ei archwilio gan yr Asiantaeth Ffiniau', neu eiriau i'r perwyl hwnnw. Byddem ni'n aml yn cwrdd yn ystafell Lesley Griffiths yn y Cynulliad, yn hwyr y nos yn ystod yr ymgyrch arweinyddiaeth honno, ac ef fyddai'r olaf i gyrraedd bob amser, a byddai'n gwneud sioe fawr o esgus edrych o'i gwmpas i wneud yn siŵr nad oedd neb wedi'i ddilyn. Fe wnai hynny bob tro yn y cyfarfodydd hynny.
Roeddwn yn falch o glywed ei lais fel arfer, ond nid bob tro. Aethom ni i Lundain gyda'n gilydd i barti Nadolig seneddol y Blaid Lafur rai blynyddoedd yn ôl, ac roeddem ni'n rhannu ystafell mewn gwesty yn Paddington. Mae'n rhaid imi gyfaddef imi adael yn gynnar, ond brwydrodd Carl ymlaen, a chefais fy neffro am dri o'r gloch y bore i glywed llais Carl ar fy ffôn yn dweud, 'Beth yw enw'r gwesty ry'n ni'n aros ynddo?'. Ar ôl fy neffro i, cyrhaeddodd wedyn a mynd i gysgu, dim ond i ni gael ein deffro gan y larwm tân am saith o'r gloch yn y bore. O leiaf doedd gan hynny ddim byd i'w wneud â ni.
Roedd Carl wrth ei fodd yn canu karaoke. Ym mharti Nadolig grŵp Llafur, ef oedd y DJ a brenin y karaoke bob amser, ac roedd yn dda iawn am wneud, ac fe daflodd e ni i gyd i'r cysgod yn ei barti pen-blwydd yn 40 oed. Roedd yn hoff iawn o'n hatgoffa ni, pan fyddai'n dweud, 'Allwch chi hwntws ddim canu', ac yn fy achos roedd hynny'n hollol wir. Mae'n anodd dychmygu sut fydd hi hebddo fe eleni, ac yn y blynyddoedd i ddod.
Ef hefyd, fel y bydd yr Aelodau'n cofio, oedd yr heclwr gorau yn y Siambr—byth yn gas, bob amser yn ffraeth. Mae'r meinciau Ceidwadol yn gwybod, pryd bynnag yr oedd arweinydd yr wrthblaid yn codi i siarad, y byddai yn ddieithriad yn galw enw rhywun arall. Ac felly, mae Paul Davies, Darren Millar, Angela Burns i gyd wedi'u galw yn eu tro i siarad fel arweinydd yr wrthblaid.
Ie, dyna oedd y dyn yr oeddem ni'n ei alw'n 'Sarge'. Yn annwyl gan bawb ac yn ymrwymedig, yn siriol ond yn benderfynol, yn gadarn ond yn llawn hwyl, a bydd hiraeth amdano gan ei deulu, y bobl yn y Siambr hon a'r genedl gyfan.