– Senedd Cymru am 12:30 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Rydym ni wedi ymgynnull yn y Senedd hon ar sawl achlysur i gofio ac i roi teyrnged i bobl yr ydym wedi eu hadnabod, ac eraill nad ydym wedi eu hadnabod. Heddiw, rydym yn ymgynnull i gofio un o'n plith ni ein hunain: Carl Sargeant, Aelod Cynulliad a chynrychiolydd trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Mae ei farwolaeth wedi ein hysgwyd i'n craidd, ac mae ei absenoldeb o'n plith yn boen enaid inni heddiw. Ond nid yw ein colled ni yn ddim o'i gymharu â cholled ei gymuned, ei ffrindiau, ei staff, ac yn arbennig, ei deulu, ac mae rhai ohonynt wedi ymuno â ni yma heddiw. Ar ein rhan ni i gyd, estynnaf y cydymdeimlad dwysaf i deulu Carl, yn enwedig ei wraig Bernie, ei blant Lucy a Jack, a'i rieni. Rydych chi yn ein meddyliau ni ac yn ein calonnau ni ar yr adeg hon. Hoffwn wahodd yr Aelodau a staff ac ymwelwyr ym mhob rhan o'n hadeiladau i sefyll ac ymuno â mi mewn munud o dawelwch er cof am Carl Sargeant.
Galwaf ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Diolch, Llywydd. Rwy'n sefyll y prynhawn yma i gofio Carl, fel gwleidydd, fel cydweithiwr, ac fel ffrind. Yn gyntaf, rwyf am estyn bob cydymdeimlad i Bernie a'r teulu. Iddyn nhw, mae wedi bod yn amser o golled annioddefol a thrawma ofnadwy. Rwyf innau'n dad ac yn ŵr, ac ni allaf ddechrau dychmygu eu dioddefaint. Rwy'n gobeithio eu bod wedi cael rhywfaint o gysur yn ei gilydd ac yn y llu o negeseuon o gefnogaeth o bob rhan o Gymru.
Roedd Carl yn rhywun yr oedd ei bresenoldeb yn y Siambr hon yn amlwg i bawb. Aeth â mwy o ddeddfwriaeth drwy'r lle hwn nag unrhyw Weinidog arall. Ac roedd ganddo'r ddawn o droi darnau anodd o ddeddfwriaeth yn rhywbeth gwerth chweil. Does dim enghraifft well o hynny na Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015—syniad a ddechreuodd fel dim mwy nag un llinell mewn maniffesto. Pan ddywedais wrtho mai ef a fyddai'n bwrw ymlaen ag ef, ei ymateb oedd, 'Diolch am hynny', ond fe lwyddodd i'w droi yn rhywbeth y mae pobl yn ei drafod o amgylch y byd.
Cyfarfûm gyntaf â Carl yng Nghlwb Llafur Cei Connah yn 2001. Roeddwn i wedi mynd i siarad â'r Blaid Lafur leol pan oedd Tom Middlehurst yn Aelod Cynulliad. Pan gafodd ei ethol yma yn 2003, daethom yn ffrindiau. Daeth ei ddoniau arbennig i'r amlwg pan oedd yn brif chwip, a gwelais â'm llygaid fy hun ei fod yn gallu dweud y drefn yn addfwyn pan oedd angen, ac rwy'n cofio un achlysur pan aeth ag AC amharod allan i fwydo'r hwyaid er mwyn perswadio'r aelod i bleidleisio y ffordd iawn. Gŵr dawnus dros ben. Yn yr holl flynyddoedd yr oeddem ni'n adnabod ein gilydd, ni fu erioed yr un gair croes rhyngom. Gwnaethom dreulio llawer o amser yn trafod heriau bod yn dad a phwysau gwleidyddiaeth, weithiau'n hel clecs am gydweithwyr yn y Cabinet. Ac roedd bob amser yn llawn cyngor. Dim ond y llynedd, dywedodd wrthyf nad oedd neb ond fe yn cael bod â barf llwyd yn y Cabinet, ac felly bod yn rhaid i mi eillio fy un i, Prif Weinidog Cymru neu beidio. Doedd gen i ddim dewis ond gwrando.
Roedd bob amser yn rhan o'r Cabinet, a hynny am reswm da. Fe'i penodais ef oherwydd ei fod yn un da am ddeddfwriaeth, am ei fod yn dda gyda phobl, ac am ei fod yn dod â llais Glannau Dyfrdwy i galon y Llywodraeth.
Yn 2003, roedd yn rhan allweddol o fy ymgyrch i ar gyfer yr arweinyddiaeth. Ei swyddogaeth ef oedd trefnu pethau yn y gogledd, ond doedd pethau ddim bob amser yn mynd yn esmwyth. Trefnodd noson gyri gydag aelodau'r blaid, mewn bwyty cyri yn ei etholaeth. Ac wrth i mi gael fy ngyrru yno, ffoniodd mewn panig, 'Paid â dod', ddywedodd e', 'mae'r bwyty'n cael ei archwilio gan yr Asiantaeth Ffiniau', neu eiriau i'r perwyl hwnnw. Byddem ni'n aml yn cwrdd yn ystafell Lesley Griffiths yn y Cynulliad, yn hwyr y nos yn ystod yr ymgyrch arweinyddiaeth honno, ac ef fyddai'r olaf i gyrraedd bob amser, a byddai'n gwneud sioe fawr o esgus edrych o'i gwmpas i wneud yn siŵr nad oedd neb wedi'i ddilyn. Fe wnai hynny bob tro yn y cyfarfodydd hynny.
Roeddwn yn falch o glywed ei lais fel arfer, ond nid bob tro. Aethom ni i Lundain gyda'n gilydd i barti Nadolig seneddol y Blaid Lafur rai blynyddoedd yn ôl, ac roeddem ni'n rhannu ystafell mewn gwesty yn Paddington. Mae'n rhaid imi gyfaddef imi adael yn gynnar, ond brwydrodd Carl ymlaen, a chefais fy neffro am dri o'r gloch y bore i glywed llais Carl ar fy ffôn yn dweud, 'Beth yw enw'r gwesty ry'n ni'n aros ynddo?'. Ar ôl fy neffro i, cyrhaeddodd wedyn a mynd i gysgu, dim ond i ni gael ein deffro gan y larwm tân am saith o'r gloch yn y bore. O leiaf doedd gan hynny ddim byd i'w wneud â ni.
Roedd Carl wrth ei fodd yn canu karaoke. Ym mharti Nadolig grŵp Llafur, ef oedd y DJ a brenin y karaoke bob amser, ac roedd yn dda iawn am wneud, ac fe daflodd e ni i gyd i'r cysgod yn ei barti pen-blwydd yn 40 oed. Roedd yn hoff iawn o'n hatgoffa ni, pan fyddai'n dweud, 'Allwch chi hwntws ddim canu', ac yn fy achos roedd hynny'n hollol wir. Mae'n anodd dychmygu sut fydd hi hebddo fe eleni, ac yn y blynyddoedd i ddod.
Ef hefyd, fel y bydd yr Aelodau'n cofio, oedd yr heclwr gorau yn y Siambr—byth yn gas, bob amser yn ffraeth. Mae'r meinciau Ceidwadol yn gwybod, pryd bynnag yr oedd arweinydd yr wrthblaid yn codi i siarad, y byddai yn ddieithriad yn galw enw rhywun arall. Ac felly, mae Paul Davies, Darren Millar, Angela Burns i gyd wedi'u galw yn eu tro i siarad fel arweinydd yr wrthblaid.
Ie, dyna oedd y dyn yr oeddem ni'n ei alw'n 'Sarge'. Yn annwyl gan bawb ac yn ymrwymedig, yn siriol ond yn benderfynol, yn gadarn ond yn llawn hwyl, a bydd hiraeth amdano gan ei deulu, y bobl yn y Siambr hon a'r genedl gyfan.
Galwaf ar arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Llywydd.
Mae hon yn achlysur na feddyliais i erioed y byddwn i'n siarad ynddi yn y Siambr hon, ac, yn wir, yn y 10 mlynedd ers i mi fod yn Aelod o'r sefydliad, mae Carl bob amser wedi eistedd gyferbyn â mi. P'un a oeddwn yn eistedd yn y gornel yn y fan yna, yn fy sedd gyntaf pan ddes i'r Siambr hon yn 2007, neu wrth i mi fynd ymlaen o amgylch y Siambr, roedd Carl bob amser yn eistedd gyferbyn â mi. Ac, ar ddydd Mawrth nodweddiadol, byddem ni'n edrych ar ein gilydd a byddai'n gwenu ac yn wincio, a byddwn i'n wincio yn ôl arno, ac fel y dywedodd y Prif Weinidog, pan fyddwn i'n cael fy ngalw i gymryd fy nghwestiynau i'r Prif Weinidog, yr hyn glywid bob tro oedd 'Paul Davies' neu 'Darren Millar.' Ond dyna Carl i chi. Roedd Carl yn gymeriad, ond roedd hefyd yn unigolyn difrifol a wyddai beth oedd ei swyddogaeth yn y sefydliad hwn. A'r swyddogaeth honno oedd siarad ar ran pobl Alyn a Glannau Dyfrdwy a siarad ar ran pobl ar hyd a lled Cymru nad oedd ganddynt lais, yn rhinwedd yr amryw swyddi gweinidogol a oedd ganddo yn Llywodraeth Cymru. Ac roedd yn cyflawni'r swyddi hynny â balchder ac angerdd enfawr. O safbwynt yr wrthblaid, yn aml iawn byddwch chi'n eistedd yma, ac weithiau gall y Siambr edrych yn eithaf gwag ar brynhawn dydd Mercher. Mae'n deg dweud bod Carl wedi bod yn ei sedd yn y Siambr hon bron bob tro, yn cymryd rhan yn y ddadl, yn cymryd rhan yn y drafodaeth, oherwydd ei fod yn credu'n angerddol yn yr hyn yr oedd yn dymuno ei gyflawni, sef Cymru well, cymuned well yn Alyn a Glannau Dyfrdwy ac, yn anad dim, etifeddiaeth y gallai ef edrych yn ôl arni â balchder a dweud, 'Fi ffurfiodd hynny.'
Wel, mae'n wir i ddweud y daeth yn ddeddfwr o fri yn y sefydliad hwn—pedwar darn pwysig o ddeddfwriaeth. Yn aml iawn, mae gwleidyddion yn lwcus i gael un darn o ddeddfwriaeth yn ystod eu hoes; cyflwynodd Carl bedwar darn o ddeddfwriaeth. Gŵr a ddechreuodd ar lawr y ffatri, a oedd yn deffro bob bore a gwisgo coler a thei a'r dolennau llewys, fydd â hyn yn etifeddiaeth—bydd pob darn o ddeddfwriaeth yn cael effaith enfawr ar y canlyniadau yma yng Nghymru o ran gwella bywydau pobl.
Rydym ni wedi colli cydweithiwr, rydym ni wedi colli ffrind, ond mae Bernie, Lucy a mab Carl wedi colli tad a gŵr, ac mae'n rhaid bod y boen a'r galar honno yn llosgi'n ffyrnig ar hyn o bryd. Ond yr hyn yr wyf i a llawer ohonom ar ein meinciau ar yr ochr hon, ac, rwy'n credu, ar draws y Siambr hon, yn ei obeithio, yw mai'r hyn a fydd yn disgleirio yng nghyflawnder amser yw'r atgofion melys niferus a fydd ganddynt o'r amseroedd gwych a gawsant gyda Carl, fel tad, fel mentor, ac fel ysbrydoliaeth.17
Rydych chi'n ffurfio'ch barn eich hun am bobl, ond mae'n rhaid imi ddweud mai ef oedd un o'r dynion mwyaf diffuant yr wyf i wedi cael y fraint o gyfarfod ag ef, ac mae'r darlun yna o Carl yn crynhoi'r dyn: bob tro â gwên ar ei wyneb, bob amser a gair caredig i'w ddweud, a phob tro â sylw ffraeth hefyd wrth i chi gerdded ar hyd y coridor, a phob tro byddwn i'n ei weld byddai'n dweud 'Be' sy', bos, be' sy'n digwydd, bos?' Rwy'n credu y byddai hynny'n wir am lawer o bobl yn y Siambr hon. Daw'r gair 'bos' o wreiddiau Carl: o lawr y ffatri. Oherwydd yn aml pan fydda' i ar fuarth y fferm a bydd pobl yn cyrraedd yno—'be' sy', bos?'—cewch yr un ateb ganddyn nhw hefyd.18
Bydd ei etifeddiaeth yn para blynyddoedd a degawdau lawer, o ran y gwaith a wnaeth fel Aelod Cynulliad, ac rwy'n gobeithio'n daer y daw'r heulwen hynny i ddisgleirio yn fuan iawn er lles teulu Carl, oherwydd yn y pen draw mae ganddo etifeddiaeth i fod yn falch ohoni a bu'n fraint ac yn anrhydedd i alw Carl yn gyd-Aelod Cynulliad o Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Rydym yn ymuno â'i deulu, ei ffrindiau a'i gydweithwyr yn eu galar amdano yma heddiw ac yn y dyddiau a'r wythnosau i ddilyn.
Galwaf ar arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i ychwanegu at y teyrngedau i Carl Sargeant, unwaith eto, ar ôl mynegi fy nghydymdeimlad a'm cyfarchion i'w deulu, ei ffrindiau a'i gydweithwyr yn y Siambr hon ac, yn wir, ledled y wlad. Cefais fy ethol i'r sefydliad hwn yn 2003, yr un flwyddyn â Carl Sargeant, ac, o'm safbwynt i, y peth rwyf i'n ei gysylltu ag ef yw ei gysylltiad cadarn â'i wreiddiau a'i ddiffuantrwydd. Roedd e'n wleidydd dosbarth gweithiol diffuant, roedd wedi ei wreiddio yn ei gymuned ac yn ymrwymedig iddi, yn byw ymhlith y bobl yr oedd yn eu cynrychioli, heb eu hanghofio byth, a bob amser yn gweithio drostyn nhw. Roedd e'n weithiwr ei hun, wrth gwrs, a ddaeth i wleidyddiaeth ar ôl gweld ei gyd-weithwyr yn ei etholaeth yn disgyn i galedi economaidd. Roedd Carl Sargeant yn wleidydd nad oedd modd ei gyhuddo o fod wedi colli cysylltiad. Mae ei golled yn ergyd i'r Cynulliad hwn ac rwyf i, a Plaid Cymru, yn rhannu'r golled a gaiff ei deimlo ar draws y Siambr hon a ledled y wlad.
Ni all fy nghyd-Aelod, Bethan Jenkins, fod yma heddiw i dalu ei theyrnged bersonol ei hun i'w ffrind Carl Sargeant, oherwydd ei bod hi wedi dioddef anaf. Byddai hi wedi siarad, felly rwyf i wedi cytuno i ddweud ychydig o eiriau gan Bethan ar ei rhan. Felly, mae hwn gan Bethan Jenkins:
'Roedd Carl Sargeant yn ffrind i mi o ochr arall y rhaniad gwleidyddol. Er i lawer o bobl ddweud wrthyf na ddylwn i fod â ffrindiau mewn gwahanol bleidiau, rwyf wedi credu erioed ein bod ni'n bobl yn gyntaf. Y cyfan y gwn i yw, pryd bynnag yr oedd angen cymorth neu rywun i siarad am unrhyw beth, roedd Carl ar ben arall y ffôn. Byddem ni'n cael jôc ar ôl i mi godi cwestiynau iddo yn y cyfarfod llawn er ein bod ni'n gwrthdaro yn wleidyddol, ei fod ef yn dal i'm parchu i, ac i'r gwrthwyneb. A gaf i ddweud ar goedd fy mod i wedi torri nghalon. Mae fy nghraig o gymorth yn y lle hwn wedi mynd. Gorwedd mewn hedd, Carl.'
Felly, dyna eiriau Bethan Jenkins, sy'n talu teyrnged i Carl Sargeant, gan ychwanegu at y teyrngedau gan bob un ohonom ni yma ym Mhlaid Cymru. Diolch yn fawr.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Llywydd. Roedd Carl Sargeant yn gawr addfwyn ac rwy'n hynod o drist yn sgil y drasiedi sydd wedi arwain at y deyrnged hon.
Nid ydym yn gwybod y stori lawn eto ond nid oedd Carl yn haeddu dioddef fel y gwnaeth. Gwn o brofiad personol chwerw y gofid a amgylchynodd Carl a'i deulu ychydig dros wythnos yn ôl yn sgil yr honiadau yn ei erbyn. Un ar bymtheg o flynyddoedd yn ôl, ces i a fy ngwraig ein cyhuddo o drais rhywiol, stori a achosodd gynnwrf mawr yn y papurau newydd tabloid. Nawr, os ydych chi mewn bywyd cyhoeddus, mae bywyd yn gyhoeddus, ond oni bai eich bod wedi cael profiad ohono, ni allwch chi fyth â gwerthfawrogi'n llawn y pwysau a ddaw yn sgil y cyhoeddusrwydd a'r ymdeimlad o unigedd sy'n deillio o hynny. Mae'r rhagdybiaeth o ddiniweidrwydd y mae gan bob person a gyhuddir hawl iddi o dan gyfraith Prydain yn aml yn cael ei chymylu. Mae'n hawdd i'r cyhoedd anghofio bod gwleidyddion yn bobl, sydd â theimladau, gobeithion, ofnau, emosiynau ac ansicrwydd. Nid cymeriadau opera sebon mohonynt, maen nhw'n bobl o gig a gwaed. Yr hyn y mae'r beirniaid sy'n rhuthro i feirniadu yn ei anghofio, yw teulu'r gwleidydd: gwŷr a gwragedd, plant, rhieni ac eraill, ac mae'n rhaid bod teulu Carl yn teimlo fel pe bai trên cyflym wedi'u taro. Rwy'n anfon fy nghydymdeimlad mwyaf diffuant atyn nhw yn eu gofid parhaus, oherwydd honno yw'r gost ddynol ddirdynnol o'r talwrn gwleidyddol.
Rwy'n falch y bydd y crwner yn edrych yn ofalus ar y camau a gymerwyd gan y Cynulliad i roi sylw i les meddwl Mr Sargeant cyn ei farwolaeth.
Rydym ni i gyd yn amlwg wedi methu ein diweddar gyd-Aelod yn hyn o beth.
Roedd Carl a minnau yn gwbl groes i'n gilydd yn wleidyddol, a byddem ni'n taflu cerrig at ein gilydd ar draws y Siambr yn llon, ond yr oedd yn ddyn gwâr a gweddus, ac yn ddigon o ddyn i gydnabod diffuantrwydd y gwrthwynebydd, ac nid oedd yn caniatáu i wahaniaethau gwleidyddol atal perthynas ddymunol y tu allan i'r Siambr. Yn wir, ces i sgwrs hwyliog ag ef ar y ffordd yn ôl i'n swyddfeydd ar ôl y cyfarfod llawn diwethaf, wythnos yn ôl ddydd Mercher diwethaf. Prin yr oeddwn i'n meddwl mai hwnnw oedd y tro diwethaf y byddwn i'n ei weld.
Fel un sy'n weddol newydd yma, nid oeddwn i'n ei adnabod yn dda iawn, ond roeddwn i'n ei hoffi am ei sirioldeb dymunol, ei gyfeillgarwch a'r ddiffuantrwydd—ei ddiffuantrwydd yn anad dim. Roedd e'n ddyn y bobl go iawn, heb golli ei gysylltiad â'i wreiddiau, ac rwy'n credu ei fod yn dal i fyw ar y stad cyngor lle cafodd ei fagu. Ni wnaeth fyth arddangos unrhyw feddwl uchel o'i hun, er gwaethaf ei ddyrchafu i swyddi uchel yn y Llywodraeth am flynyddoedd lawer. Byddwn i'n aml yn ei weld yn eistedd gyda staff arlwyo y Cynulliad neu'r staff diogelwch yn y ffreutur. Nid oedd yn ystyried ei hun yn bwysicach nag unrhyw un arall.
Roeddwn i'n ei edmygu hefyd am ei onestrwydd a'i ddidwylledd. Er enghraifft, gwnaeth argraff arnaf i am ei ffordd bendant o ymdrin â methiannau Cymunedau yn Gyntaf. Nid oedd ef yn un am wrthod ymateb neu hunan-gyfiawnhau. Yr oedd yn siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod ac yn cyflwyno pethau'n blaen. O ganlyniad i hynny, fe wnaeth ennyn fy mharch ac efallai torri blaen fy nghleddyf.
Mae teulu Carl wedi colli ei angor. Mae'r Cynulliad wedi colli Aelod teilwng. Mae Cymru wedi colli mab ffyddlon. Gorffwysed mewn hedd, a gadewch inni roi iddo bob dyledus glod.
Wythnos yn ddiweddarach, mae'n dal yr un mor anodd i brosesu ein bod ni yma heddiw i dalu teyrnged i Carl. Cyfarfûm i hefyd â Carl am y tro cyntaf 16 mlynedd yn ôl yn y Clwb Llafur yng Nghei Connah, neu 'Pencadlys Sargie', fel y'i gelwir yn lleol. Roedd yn falch o gael ei ethol i'r lle hwn yn 2003 gan bobl Alun a Glannau Dyfrdwy. Dilynais i yn 2007, a daethom yn ffrindiau mawr yn gyflym, yn teithio yn ôl ac ymlaen i'r gogledd y rhan fwyaf o wythnosau.
Roedd Carl yn byw yng nghanol ei gymuned yng Nghei Connah. Nid anghofiodd ei wreiddiau, ac roedd yn falch o'i gefndir dosbarth gweithiol. Ar y diwrnod yr ymunodd â'r Cabinet, a minnau â'r Llywodraeth, gwnaethom rannu'r daith adref yn llawn cyffro am y dyfodol, a'r hyn yr oeddem ni'n credu y gallem ni ei gyflawni dros bobl Cymru, ac fe wnaeth Carl gyflawni cymaint. Aeth ef â'r mwy o ddeddfwriaeth drwyddo nag unrhyw Weinidog arall. Ychydig iawn o Filiau a Deddfau a geir na wnaeth Carl gyfrannu atynt. Fe wnaeth hyrwyddo'r gwaith sy'n cael ei wneud i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, digartrefedd a chaethwasiaeth fodern. Daeth yn Gennad Rhuban Gwyn, gan ddweud sut y bu'n dyst i gam-driniaeth ddomestig am y tro cyntaf yn ei gymdogaeth ar ôl i waith dur Shotton gau, pan welodd ei gymuned yn cael ei chwalu. Bob blwyddyn, cefnogodd ddioddefwyr cam-driniaeth ddomestig drwy gerdded 'milltir yn ei hesgidiau', er ei fod bob amser yn cael trafferth i gerdded yn y sodlau uchel.
Roedd Carl yn wleidydd anhygoel, yn fedrus iawn wrth negodi, ond nid o reidrwydd yn y dull y byddech yn ei ddisgwyl gan uwch Ysgrifennydd y Cabinet. Gwyddai mai'r ffordd o gael y gorau allan o bobl oedd darbwyllo a dylanwadu dros baned o de a custard creams, neu weithiau rhywbeth cryfach. Roedd yn trin pawb yr un peth, wrth roi cyngor i etholwr, wrth sgwrsio â'r teulu brenhinol yn agoriad y Cynulliad Cenedlaethol, wrth siarad â Gweinidogion Llywodraeth y DU a oedd wedi'u haddysgu yn Eton, neu'r dyn yn eistedd wrth ei ymyl yn y bar yn Mischief's. Roedd yn llawn hwyl ac yn ddireidus iawn ar adegau, ond roedd yn cymryd ei swyddogaeth fel cynrychiolydd etholedig yn ddifrifol iawn, ac roedd yn falch o fod yn eiriolwr ar ran ei etholwyr, yn enwedig y rhai hynny nad oedd ganddynt lais.
Yma yn y Cynulliad hwn, ac yn Llywodraeth Cymru, roedd yn trin pawb yn gyfartal. Roedd yn gofalu am bob un ohonom ac yn ein cefnogi, ei gydweithwyr yr Aelodau Cynulliad, nid yn unig yn ein grŵp ni, ond ar draws y pleidiau gwleidyddol. Roedd wrth ei fodd â'r staff yn ei swyddfa etholaeth a'i swyddfa breifat gweinidogol. Roedd y staff yn ein ffreutur a'r staff diogelwch ymysg ei ffefrynnau. Roedd ganddo le arbennig yn ei galon ar gyfer ei gynghorwyr arbenigol ac arbennig. Yn y Llywodraeth, roedd yn parchu ei swyddogion a'r amryfal dimau Bil y bu'n gweithio gyda nhw. Ond rwy'n credu mai ei ffefrynnau absoliwt oedd y gyrwyr gweinidogol. Gallen nhw ysgrifennu llyfr yn llawn straeon am yr oriau lawer a dreuliasant yn teithio o amgylch Cymru yn ystod y 10 mlynedd y bu Carl yn y Llywodraeth.
Roedd gan Carl synnwyr digrifwch drygionus ac roedd yn hoff iawn o wneud imi ac eraill chwerthin, yn aml ar yr adegau mwyaf amhriodol. Roedd yn adnabyddus am dynnu coes ac roedd bob amser yn ennill gwobr heclwr y flwyddyn. Roedd yn bleser i eistedd wrth ei ymyl yn y Cabinet ac yma yn y Siambr, ac un o swyddi pwysicaf Carl yma oedd sicrhau bod y drôr yr oeddem yn ei rhannu bob amser yn llawn losin. Un diwrnod, daeth â rhai newydd i mewn a dywedodd wrthyf i roi cynnig ar un, ond yn fy null arferol gafaelais mewn llond llaw, dim ond i ganfod wrth eu bwyta eu bod yn losin tsilis poeth. Prin y gallai guddio ei lawenydd o weld fy anesmwythder.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, dechreuodd ddilyn hobi newydd a phenderfynodd ddysgu ei hun i wneud gwaith crosio. Byddai'n eistedd ar y trên adref yn gwylio fideo YouTube i ddysgu ei hun, gyda bachyn crosio a gwlân yn ei ddwylo. Nid oedd hyn heb ei rwystredigaeth; aeth popeth i'r llawr sawl gwaith. Ond, fel popeth yr oedd yn ei ddechrau, roedd yn ei feistroli'n gyflym ac fe greodd rai eitemau hardd. Gallech chi weld yr olwg syfrdan ar wynebau rhai o'r cyd-deithwyr wrth wylio'r dyn mawr, cadarn hwn yn crosio boned babi bach, pinc.
Roedd Carl yn un o'r bobl fwyaf hael i mi gyfarfod erioed, yn enwedig â'i amser, ac roedd wrth ei fodd yn cymdeithasu gyda'i deulu a'i ffrindiau. Tu ôl i'r tu allan cadarn a hwyliog roedd yna enaid hardd, sensitif a bregus. Roedd bob amser yn dweud wrth bobl pa mor arbennig ac unigryw oedden nhw, oherwydd bod sut yr oedd pobl yn ei deimlo yn bwysig iddo. Roedd yn garedig wrth bobl, ac mae caredigrwydd at bobl yn etifeddiaeth aruthrol i'w gadael ar ôl.
Ef oedd fy nghyfaill a'm cymrawd pennaf. Roeddwn yn ei garu fel brawd, ac er mai ei enw anwes i mi oedd 'mam'—er wrth gwrs nad oeddwn yn ddigon hen i fod yn fam iddo—gwn ei fod yn fy ngharu innau fel chwaer. Roedd yn gofalu amdanaf i a'm merched fel estyniad o'i deulu ei hun ac mae'r ffaith nad yw e gyda ni bellach yn torri ein calonnau ni. Ond ni allwn ni gymharu ein colled ni â'r galar annisgrifiadwy y mae Bernie, Lucy a Jack yn ei deimlo. Yr oedd yn eu caru'n angerddol ac yr oedd mor falch ohonynt.
Iddyn nhw, rhieni Carl, a'i holl deulu, estynnwn ein cariad a'n cefnogaeth dros yr wythnosau a'r misoedd anodd sydd i ddod. Carl, wna' i fyth dy anghofio di a byddaf yn gweld dy eisiau di'n ofnadwy. Gorffwysed mewn hedd, gymrawd.
Roedd Carl yn berson a oedd yn gwisgo ei galon ar ei lawes, ond roedd ganddo bethau eraill i fyny ei lawes, gan gynnwys tatŵ o'i hoff ddiod—tywyll a stormus, neu, fel y byddai ef wedi'i ddweud, tywyll a stormus, bos. Nid gwleidydd confensiynol mohono. Roedd e'n llawn carisma a chariad at fywyd. Ond ni chafodd fyth gyfle i ddilysu ei ddeallusrwydd academaidd â gradd o'r Brifysgol. Wedi dweud hynny, rwy'n credu bod ganddo fwy o ddeallusrwydd emosiynol na'r rhan fwyaf ohonom ni yn y Siambr hon heddiw, fwy na thebyg.
Cyfarfûm â Carl gyntaf yn ôl yn y 1990au, ar adeg pan oedd ganddo ef fwy o wallt ac roedd gen i fwy o bwysau. Roeddem ni'n llawn cyffro am wleidyddiaeth y dyfodol. Yn ystod ei etholiad cyntaf—. Mae'n werth nodi na gollodd etholiad na detholiad erioed. Yn ystod ei etholiad cyntaf, daeth yn amlwg bod ganddo ffordd unigryw o siarad ag etholwyr ar garreg y drws. Mae'n rhaid ei fod wedi cwrdd â degau o filoedd o bobl yn ystod ei etholiad cyntaf, yn curo ar gynifer o ddrysau ledled Alyn a Glannau Dyfrdwy. Byddai'n dod â phob sgwrs ag etholwyr i ben trwy ddweud yn gwta ac, o ystyried ei ffrâm, yn eithaf bygythiol, 'Hei', ac yna byddai'n ei ddilyn yn gynnes braf â 'cymerwch ofal'.
Byddai'n dweud hyn wrth bawb. Hyd y diwedd un, byddai'n dweud, 'cymer ofal, mêt. Cymer ofal, frawd. Cymer ofal, chwaer.' A'r bobl y byddai'n dymuno i ni ofalu amdanynt fwyaf yn awr yw ei deulu. Ei wraig, Bernie—Bernie, sydd â rhinweddau a sgiliau nad ydynt wedi'u dysgu drwy ddatblygiad proffesiynol ond sy'n reddfol—ei dirnadaeth, ei thosturi, dyna beth sy'n ei gwneud yn gydweithiwr ac yn ffrind mor dda i bawb mae hi'n eu caru. Ei ferch hyfryd, Lucy—unwaith eto, yn anhygoel o dosturiol, mae ganddi'r fath empathi a chadernid; rhywun sy'n rhannu synnwyr digrifwch gwych ei thad. Yna Jack—sy'n greadigol, yn arloesol ac yn ofalgar—ac unwaith eto, yn llawn cariad tuag at y bobl sy'n agos ato. Ac allwn ni ddim ag anghofio Joey—Joey bach. Does neb yn rhoi Joey yn y gornel—mi fydd yn mynd i'r angladd. Wedyn mae aelodau'r teulu ehangach a ffrindiau a'r gymuned. Roedd eu gwaed yn llifo drwy wythiennau Carl, ac roedd e'n hynod o falch o hyn.
Mae'n rhaid inni gydnabod pwysau'r amseroedd trist hyn, ond mae'n rhaid mynegi ein teimladau, yn hytrach na dweud yr hyn y dylem ni ei ddweud. Rwy'n credu bod Carl yn siarad yn aml am ei deimladau, ac am ei gariad at ei deulu a'i gariad at fywyd. Roedd Carl wrth ei fodd â cherddoriaeth. Roedd yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth ac yn hoffi dawnsio i gerddoriaeth—i ganeuon fel 'I Love to Love', 'Voulez-vouz' a llawer iawn o ganeuon eraill. Uwchben y fynedfa i'w ystafell i deulu a ffrindiau yn ei gartref—ystafell fawr lle y byddai'n chwarae'r DJ, yn rhannu diodydd, yn rhannu straeon, yn rhannu cariad—mae geiriau un o'i hoff ganeuon:
'Sometimes I feel like throwing my hands up in the air. / I know I can count on you. / Sometimes I feel like saying, "Lord, I just don't care." / But you've got the love I need to see me through.'
Rwy'n credu os oes yna etifeddiaeth, etifeddiaeth barhaol i Carl, yr etifeddiaeth honno yw i ni i gyd ddangos ychydig mwy o gariad a gofal at ein gilydd, dylem ni fod yn fwy caredig a bod â mwy o barch at ein gilydd, nid yn y fan yma yn unig, ond ym mhob rhan o'n cymdeithas, a newid ein diwylliant er gwell.
Yn olaf, Carl, hoffwn ddweud hyn wrthyt ti: dim ond un drws arall y mae'n rhaid i ti guro arno, ond, ar ran yr holl bobl hynny a agorodd eu drysau, a'u calonnau i ti—Carl, cymer di ofal.
Rwy'n codi i gofio Carl yn gyntaf ac yn bennaf fel y Prif Chwip, ag ef yn dod ar hyd y coridor bob bore Mawrth i weld a fyddwn i'n ufuddhau i'r chwip. Roedd fy ymchwilydd yn meddwl bod hon yn agwedd wirioneddol garedig a gofalgar gan y Prif Chwip. Ddyweda' i ddim wrthych chi beth fyddwn i'n ei ddweud wrtho, ond byddai'n gwybod o hynny pa un a oeddem ni'n barod i gweryla. Ond wnaeth Carl fyth codi ei lais. Fi fyddai'n gwneud hynny—roeddwn yn arfer codi fy llais i lawr y coridor. Rwy'n credu bod pobl wedi clywed yr hyn yr oeddwn i'n bwriadu ei wneud ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru).
Rwy'n cofio dod i'r bleidlais honno, a gofynnodd ef, 'Wel, beth wyt ti'n mynd i'w wneud, mêt? Tyrd ymlaen, mêt. Tyrd ymlaen, mêt—rwyt ti i fod gyda ni nawr, mêt. Beth wyt ti'n mynd i'w wneud?' A dywedais i, 'Aros i gael gweld'. Penderfynais wedyn y byddwn yn pleidleisio gyda'r chwip y tro hwnnw, a galwais ef i ddweud wrtho. Roedd e'n credu fy mod i'n mynd i ddweud wrtho na fyddwn i'n gwneud hyn. Roeddem ni'n sefyll yn yr hyn yr ydw i'n adnabod fel y coridor Richard Rogers, ac roedd y drws ar agor. Rwy'n credu mai cyd-aelodau o'r Blaid Geidwadol a ddywedodd, pan eisteddais i nôl lawr, 'O, doeddwn i ddim yn sylweddoli mai dyna sut fyddwch chi'n siarad â'ch Prif Chwip'. Felly, roedd honno'n wers i mi.
Ond doedd Carl byth yn dal dig. Gwnaeth Carl bob amser, bob amser yr hyn a allai dros Ddyffryn Clwyd. Dywedais yn gellweirus heddiw y byddwn i'n gofyn i rywun daflu bwced o ddŵr drosof i cyn imi sefyll i siarad, oherwydd does dim ots i ble y byddai Carl yn mynd yn ei bortffolio fel Gweinidog yr Amgylchedd, byddai'n siŵr o fod yn tywallt y glaw, yn gwynt yn chwythu'n arw a ninnau mewn mwd hyd at ein fferau. Roeddem ar lannau Afon Elwy, rwyf wedi dweud y stori hon, ac mae hi wedi fy helpu i fynd ymlaen, felly gobeithio y bydd yn helpu Bernie a'r teulu i fynd ymlaen hefyd. Mae'n sefyll ar y draethell ac yn dechrau llithro, ac rwy'n ceisio symud yn ôl. Mae'n fy nhynnu i, ac mae'n dweud 'Tyrd, tyrd—rydym ni'n gyda'n gilydd ar hyn', ac rwy'n mynd, 'na, dydyn ni ddim—rwy'n mynd yn ôl i fyny'.
Ac yna, fy hoff un i yw pan oeddem ni'n sefyll ar bromenâd y Rhyl i agor yr amddiffynfeydd môr. Mae Sir Ddinbych wedi rhoi rhuban hyfryd inni ei thorri, ac ymbarél a drodd y tu chwith allan yn syth. Felly, rhoddodd Carl hwn i'r neilltu, ac roedd y gyrrwr yn eistedd yno. Gwnaethom ni geisio torri'r rhuban, a dywedodd ef wrth y camerâu—y BBC ac ITV—dywedodd, 'Wel, mae hi'n galw'r lle 'ma yn Rhyl heulog; y tro nesaf y byddi di'n sôn am y Rhyl heulog yn y Siambr, byddaf yn dy atgoffa di nad ydyn ni erioed wedi bod yn y Rhyl â'r haul yn gwenu.' Ond roedd Carl yn arfer dod i'r Rhyl gyda'i deulu. Roedd Carl yn gwybod mwy am ddatblygiad y Rhyl na fi ar brydiau, oherwydd byddai'n cerdded o gwmpas y strydoedd hynny, a dyna sut ddyn oedd ef. Roedd Carl yn adnabod y bobl yn y Rhyl yn yr un modd ag yr oedd e'n adnabod y bobl yng Nghei Connah, oherwydd ein bod ni'n bobl debyg—yr un cymunedau—a dyna lle'r oedd calon Carl: yn y gymuned honno o bobl nad yw eu lleisiau'n cael eu clywed neu nad yw eu lleisiau i'w clywed yn ddigon uchel. Roedd Carl yn arfer dweud wrthyf, 'Gwranda mêt, paid byth ag anghofio—dal ati i wneud yr hyn yr wyt ti'n ei wneud ar gyfer dy ardal di, achos dyna sy'n bwysig'.
Byddaf yn cofio Carl am ddiogelwch tân domestig—dyma ni wedi dychwelyd at ddŵr eto—a systemau chwistrellu. Carl wnaeth fynd â'r rheoliadau hynny drwodd ac mae'n golygu bod gennym ni dai diogel yng Nghymru. Hyd yn oed ar ôl trychineb Tŵr Grenfell, roedd Carl hyd at y diwedd un yn chwilio am ffordd o ddiogelu'r cymunedau hynny nad oeddent efallai yn deall bod angen iddynt gael eu diogelu—ond y byddem ni yn eu hamddiffyn. Felly, dyna etifeddiaeth y dyn—dyn mawr, personoliaeth enfawr, a wnaeth i mi chwerthin, a wnaeth i mi grio, ac a'm gwnaeth i'n rhwystredig ar adegau. Ond, uwchlaw dim, roedd Carl, ac mae e' o hyd, yn ddyn ei gymuned ei hun, a byddaf yn gweld ei eisiau.
Bernie, rydym ni i gyd yn mynd i golli Carl yn fwy nag y byddwch chi'n ei gredu, ond fydd neb yn ei golli yn fwy na chi a'ch teulu—Jack a Lucy a phawb arall a oedd yn ei adnabod mor dda.
Cyfarfûm â Carl am y tro cyntaf pan gefais i fy ethol yn 2007 ac fe wnaeth rhywun, yn amlwg rhywun â thipyn o synnwyr digrifwch, fy rhoi a Lesley yn y swyddfa gyferbyn ag ef. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl gan Brif Chwip; yn sicr doeddwn i ddim yn disgwyl Carl, rwy'n credu ei bod yn deg dweud hynny. Rwy'n cofio dychwelyd lan llofft ar ôl pleidlais i lawr yn fan hyn, lan i'r coridor—roedd e' bob amser yn llwyddo i gyrraedd yno cyn fi; dydw i ddim yn gwybod sut oedd yn llwyddo i wneud hynny—a byddech chi'n clywed y gerddoriaeth yn canu'n uchel o'i swyddfa. Byddet ti'n gwybod hynny, Becks, gan dy fod di'n gweithio iddo ar y pryd. Byddech chi'n cerdded heibio'r swyddfa a byddai Carl yn eistedd yn dawnsio i'w gerddoriaeth a oedd yn dod o—wel, doeddwn i byth yn gwybod o le—a byddai Becks yn eistedd yna'n gwenu, a byddwn i a Lesley ac eraill yn cerdded i mewn ac yn sgwrsio a siarad, a phawb yn gwenu. Roedd yn gyflwyniad gwych i'r lle hwn ac i Carl, a phob tro y byddai'n meddwl am Carl, rwy'n meddwl am y wên yr ydym ni'n ei gweld o'n blaenau. Rwy'n gallu clywed ei lais weithiau: 'Bore da, frawd, ti'n hwyr ' neu 'Ble wyt ti, bos? Es i i 'nôl hwn i ti awr yn ôl; ble wyt ti wedi bod? Yfa fe'—a phob math o wahanol adegau pan wnaethom ni i gyd rannu bob mathau o bethau. Wyddoch chi, un peth sy'n brin iawn mewn gwleidyddiaeth yw ymddiriedaeth, ac roeddwn i'n ymddiried ynddo'n llwyr. Roeddwn i'n gwybod, os oedd unrhyw beth yn digwydd, gallwn i bob amser ffonio Carl, neu byddwn i'n cael neges destun oddi wrtho. Roedd e fel petai'n gwybod os oedd rhywbeth yn digwydd yn ein bywydau ni. Roedd e'n dweud, 'Sut wyt ti, frawd?', 'Sut wyt ti, bos?', 'Beth wyt ti'n ei wneud, bos?', 'Ble wyt ti, bos?', 'Wyt ti o gwmpas, bos?', 'Dere mas', 'Ble wyt ti?'—ac fe fyddai e' yno bob amser.
Wyddoch chi, pan fyddwn ni'n sôn am Carl, rydym ni'n sôn am ei gyflawniadau mewn gwleidyddiaeth. Rwyf bob amser yn ei gofio ef yn ffrind hoffus, anrhydeddus a diffuant iawn, iawn a mêt i mi. Yr ychydig eiriau diwethaf a ddywedodd wrthyf oedd, 'Ti'n iawn, mêt?', a dyna'r cyfan yr oeddwn i eisiau ei glywed ar y pryd. A wyddoch chi, roedd Carl yn ddyn a oedd yn ysgwyddo ei gyfrifoldebau yn ddidrafferth. Fyddech chi byth wedi dyfalu ei fod wedi cyflawni'r holl bethau a wnaeth. Ond roedd yn ofalgar iawn—yn ofalgar iawn—ac mae pob un ohonom sydd wedi cydweithio ag ef yn gwybod dyfnder ei ddaliadau, cymaint yr oedd yn credu yn yr hyn yr oedd e'n ei wneud a dyfnder ei gred mewn chwarae teg a chyfiawnder cymdeithasol. Roedd chwarae teg yn rhan annatod o gymeriad Carl. Roedd ynghlwm wrth bopeth a wnâi. Cafodd ei fagu yng Nghei Connah, ac roedd hynny yn rhywbeth a arhosodd gydag ef. A phryd bynnag byddem ni'n cael sgwrs, byddai'r sgwrs bob amser troi nôl at degwch a chwarae teg. A wyddoch chi, Bernie, byddwn ni bob amser yn cofio hynny, a byddwn ni bob amser yn sicrhau bod Carl yn cael chwarae teg. Ym mhopeth a wnawn a phopeth a ddywedwn wrth ei gofio ef, byddwn ni'n cofio'r wên yna.
Roeddwn i'n gwybod beth oedd e'n ei feddwl mewn cyfarfodydd gan y byddai'n anfon negeseuon testun ata' i. Hoffwn i pe na bai e' wneud gwneud hynny. Roedd pob math o gydweithwyr a chymheiriaid yn gwneud pwyntiau difrifol iawn a byddwn i'n ei weld yn edrych arnaf a byddwn i'n meddwl, 'Duw a'm helpo, nid neges destun arall.' Byddwn i'n agor y neges destun a byddwn i'n treulio amser yn gwrando ar ddadl ddifrifol yn ceisio cuddio fy mod i'n chwerthin oherwydd byddai Carl—a gallaf ei weld ef yn awr draw yn y fan yna—yn gwenu arnaf ac yn wincio, gan wybod ei fod wedi achosi i mi deimlo'n chwithig.
Wrth gofio ein ffrind, ein cyd-Aelod, rydym ni i gyd wedi defnyddio geiriau tebyg iawn, mewn gwirionedd. Rydym ni i gyd wedi ysgrifennu ein teyrngedau ar wahân ond rydym ni i gyd wedi dychwelyd at eiriau tebyg iawn: gonest a hael a charedig. Roeddem ni i gyd yn adnabod yr un dyn. Bernie, rwyt ti'n mynd i'w golli ef. Rwy'n gwybod dy fod mynd i'w golli ef ac rwy'n gwybod cymaint yr wyt ti'n mynd i'w golli ef, ynghyd â Jack a Lucy a phawb arall, ond rwyf eisiau i chi wybod y bydd y sefydliad hwn yn ei golli ef hefyd. Bydd ein gwlad yn ei golli ef. Rydym ni i gyd yn well ein byd o fod wedi'i adnabod ef. Diolch.
Pan gyrhaeddais i'r lle hwn am y tro cyntaf ryw 10 mlynedd a hanner yn ôl, roeddwn i'n disgwyl iddo fod yn blwyfol iawn a'r wleidyddiaeth yn bleidiol iawn. Yn naturiol, mewn rhai ffyrdd dyna sut oedd pethau. Fodd bynnag, y cawr diymhongar hwn wnaeth fy argyhoeddi i nad oedd fel hynny ac nid yw fel hynny y tu allan i'r Siambr hon. Cynhesrwydd, hoffter a charedigrwydd Carl a'm hargyhoeddodd i y dylai ein gwleidyddiaeth bleidiol aros yn y Siambr hon, a'r tu allan, ac mai ein dynoliaeth ni ddylai ddod yn gyntaf bob tro. Dyna pam yr oedd bob amser yn bleser cael bod yn ei gwmni ac roeddwn i bob amser yn mwynhau cael diod gyda'r dyn mawr.
Wrth gwrs, roedd yn amlwg bod ganddo gariad mawr tuag at y Blaid Lafur ac roedd yn amlwg bod ganddo gariad mawr at ei etholaeth ac at gynrychioli ei ardal leol. Roedd ei ymroddiad a'i ymrwymiad i'r bobl yr oedd yn eu cynrychioli bob amser yn amlwg yn yr holl drafodaethau a gefais i gydag ef. Roeddwn i'n cael hwyl yn ei gwmni ac roedd direidi yn ei lygaid bob amser. Bob tro y byddwn yn ei weld, roedd yn llawn o'r feddylfryd direidus hwnnw. Fyddech chi byth yn gwybod beth fyddai'n ei ddweud, ac roedd hynny'n gwneud ei gwmni'n fwy difyr byth.
Roedd yr hwyl honno yn sicr yn amlwg ychydig flynyddoedd yn ôl, pan wnaeth rhai ohonom ni yn y Siambr hon ddathlu pen-blwydd Lesley Griffiths. Rwy'n cofio inni gyrraedd tafarn adnabyddus ym Mae Caerdydd ac rwy'n cofio sefyll wrth y bar pan, yn sydyn, dyma fi'n clywed cyfeillion a chydweithwyr o'm cwmpas yn chwerthin. Edrychais draw, a'r cyfan a welais i oedd Carl yn pwyntio at ei siwmper. Wedyn, o edrych ar y dillad oedd amdanaf i, sylweddolais, er cryn fraw i mi, ein bod yn gwisgo'r un siwmper yn union. Ond nid dim ond hynny. Yn wir, roeddem ni'n dau yn gwisgo trowsus tywyll hefyd ac, wrth gwrs, fel y byddech yn ei ddisgwyl, dechreuodd rhywun ein galw ni'n efeilliaid. I'r rhai hynny ohonoch chi sydd wedi gweld y ffilm Twins o 1988, sy'n serennu Arnold Schwarzenegger a Danny DeVito—wel, mynnodd Carl am weddill y noson mai ef oedd Danny DeVito ac nid fi.
Dyna'r hyn y byddaf i bob amser yn ei gofio am Carl. Bob tro yr oeddwn gydag ef, byddem yn chwerthin. Ond roedd yn wleidydd difrifol ac ymroddedig a oedd yn gofalu am ei etholwyr, ac roedd yn deall pobl. Roedd yn deall pobl. Wedi'r cyfan, mae gwleidyddiaeth yn ymwneud â phobl ac roedd Carl yn sicr yn deall hynny.
Llywydd, yn bersonol, byddaf yn gweld eisiau'r gwrthwynebydd gwleidyddol. Byddaf yn gweld eisiau ei gellwair yn y lle hwn. Byddaf yn gweld eisiau ei sylwadau doniol yn y Siambr hon. Ond yn bwysicach na dim, byddaf yn gweld eisiau ffrind personol.
Diolch, Llywydd. Cyn imi ddechrau talu teyrnged, hoffwn gynnig fy nghydymdeimlad i Bernie, Jack, Lucy a'r teulu. Yn yr holl ddarllediadau am golli ein cyfaill Carl, mae un gair ac un gair yn unig yn cael ei ailadrodd yn barhaus, a'r gair hwnnw yw 'dilys'. Roedd popeth am Carl yn ddilys. Roedd yn amlwg i bawb a oedd yn ei gyfarfod bod Carl yn y maes gwleidyddiaeth am y rhesymau cywir. Yn ddeallusol, yn reddfol, y pen a'r galon, roedd yn deall, ac roedd y bobl a'r lleoedd yr oedd yn eu cynrychioli yn bwysig iawn iddo. Roedd pobl yn adlewyrchu'r cynhesrwydd hwnnw yn ôl ato, nid yn unig yng Nghei Connah ac yn y gogledd ond ble bynnag yr oedd yn mynd. Yn y pen draw, y dilysrwydd hwn a wnaeth Carl yn ymgyrchydd mor bwerus.
Mae Ymgyrch y Rhuban Gwyn, y byddwn yn ei nodi y mis hwn, yn ymwneud â dynion yn herio agweddau tuag at drais yn erbyn menywod. Roedd Carl yn rhan annatod o hyrwyddo'r ymgyrch fel dyn ac fel Gweinidog. Roedd wedi gweld effaith trais yn y cartref yn ei gymuned ei hun ac roedd am fynd i'r afael â hynny. Fel llais dilys ar ran dynion dosbarth gweithiol Cymru—dyna'r gair hwnnw eto—mae'n anodd gorbwysleisio effaith ei gefnogaeth.
Yn y Llywodraeth, gwnaeth hyrwyddo a llywio'n fedrus deddfwriaeth arloesol Cymru i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben, ac roedd hynny'n gamp aruthrol. Bydd, wrth gwrs, mae'n anochel ymgyrch eleni yn cael eu lliwio'n gan ein tristwch dwfn a cholli dwfn, ond ar y gwylnosau a digwyddiadau a fydd yn mynychu, yma yn y Cynulliad ac ar draws Cymru, yn Anrhydeddwn Carl gwaddol parhaol.
Ymhell cyn imi gael y fraint enfawr o wasanaethu fel dirprwy i Carl yn y Llywodraeth, bûm yn gweithio iddo ef yma fel ei ymchwilydd pan oedd yn dal ar y meinciau cefn. Hyd yn oed bryd hynny, roedd Carl yn rhoi ei stamp unigryw a lliwgar ei hun ar bopeth yr oedd yn ei wneud, ac nid oedd ein swyddfa ni yn wahanol. Rwy'n dawel hyderus mai ein swyddfa ni oedd y gyntaf, a hyd yn hyn, yr unig swyddfa lle'r oedd lamp ag iddi gysgod gwyn fflwffog, lamp lafa borffor a cherflun o Eeyore [Chwerthin.] Roedd y blynyddoedd hynny o weithio i Carl yn bleser pur, a byddaf bob amser yn ddiolchgar iddo am ei garedigrwydd a'i haelioni tuag ataf i a'm gŵr Paul.
Roedd gweithio i Carl, fel y gallwch ei ddychmygu, yn llawn hwyl. Ond y tu ôl i'r jôcs a thu ôl i'r chwerthin roedd Carl yn hollol ddifrifol ynghylch gwneud bywyd yn well i'w etholwyr ac roedd yn angerddol iawn dros gyfiawnder cymdeithasol. Byddaf bob amser yn cofio pa mor falch a llawn cyffro y teimlwn pan gafodd Carl ei ddyrchafu i'w swydd fel gweinidog. Ar ôl ychydig o wythnosau, gofynnais iddo, 'Felly, Carl, sut beth yw bod yn y Llywodraeth?' 'A mêt', meddai, 'rwy'n dweud wrth bawb i'm galw i'n Carl, ond mae pawb yn fy ngalw i'n Weinidog. Rwy'n dweud, "Galw fi'n Carl"; maen nhw'n dweud, "wrth gwrs, Gweinidog."' A dyna sut un oedd Carl; doedd e' byth yn hunanbwysig. Credai fod pawb yn gyfartal ac roedd yn trin pawb yr un fath.
Yn ystod y 14 blynedd yr oeddwn yn adnabod Carl roeddwn yn ei adnabod fel y dyn mawr â'r galon fawr, ac roedd yn gwisgo'r galon fawr honno ar ei lawes. Gwyddom i gyd am yr achosion yr oedd yn angerddol drostynt a'r pethau yr oedd wrth ei fodd â nhw: tegwch, cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a charedigrwydd.
Rydym yn galaru nawr oherwydd ein bod yn drist na fyddwn byth yn gweld ein cyfaill eto. Ond, ymhen amser, ein teyrnged orau ni iddo fydd gorffen y gwaith a ddechreuwyd ganddo.
Yn fy nheyrnged, hoffwn i rannu fy atgofion o Carl fel dyn a oedd yn ffraeth, cariadus, hoffus, egwyddorol iawn ac yn ffrind da, yn gydymaith ac yn gyd-Weinidog. Mae'r effaith a gafodd fel Gweinidog ac Ysgrifennydd Cabinet wedi'i gofnodi a chaiff ei rannu yma y prynhawn yma, a hoffwn ychwanegu fy nheyrnged o'm profiad i.
Penodwyd Carl yn Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol cyn i doriadau'r glymblaid ddechrau cael effaith ar ein cyllidebau. Roedd yn gwbl ymrwymedig i lywodraeth leol, cyfiawnder cymdeithasol, tai, adfywio a thrafnidiaeth—pob un o'r briffiau a fu ganddo yn ystod yr amseroedd anodd hynny i gyllid cyhoeddus. Fel Gweinidog Cyllid, roeddwn i eisiau gweithio gydag ef i'w helpu i gyflawni yr hyn yr oedd yn dymuno, ac roedd ef eisiau mwy o arian ar gyfer tai cymdeithasol. Y math hwnnw o bartneriaeth Gweinidogol sy'n rhoi'r boddhad mwyaf. Cefnogais i ef; cawsom yr arian allan pan gallem mewn cyfnod anodd, gan ddarparu cartrefi i'r rheini oedd fwyaf mewn angen. Dywedodd ef, 'Diolch Jane.' Dywedais i, 'Diolch Carl.'
Rwyf i hefyd eisiau dweud rhywbeth am Carl fel Prif Chwip. Mae eraill wedi gwneud sylwadau ar hyn. Teyrnasodd—rwy'n credu mai dyna yw'r ymadrodd. Teyrnasodd fel Prif Chwip, gyda hiwmor, deallusrwydd a doethineb. Aeth bod yn Brif Chwip i'w waed felly gallwn bob amser ddibynnu arno i'm cefnogi pan gymerais i'r rôl honno. Roedd bob amser yn Brif Chwip hyd yn oed pan oedd ef yn gwneud yr holl swyddogaethau gweinidogol eraill hyn. Ac os cofiwch, ar draws y Siambr hon, roedd bob amser yn barod i weiddi 'Gwrthwynebu' pan roedd yn ofni nad oeddwn i yn canolbwyntio— [Chwerthin.]—neu os oedd fy llais braidd yn betrus. Roedd hynny, wrth gwrs, ar ddiwedd dadl pan fyddem yn gwneud gwelliant neu'n wrthwynebu fel Llywodraeth—swyddogaeth hollbwysig yr oedd yn ei chyflawni.
Ond rwyf hefyd yn dod ag atgofion a rannwyd gan etholwyr ym Mro Morgannwg. Roedd Kay Quinn yn fy atgoffa i o ymweliad Carl ag Atal y Fro yn y Barri, sy'n dangos ei arweinyddiaeth aruthrol wrth fynd i'r afael â cham-drin domestig a thrais yn erbyn menywod. Yr ymateb gan BAWSO yr wythnos diwethaf, gan Mutale Merrill, oedd:
Rydym ni wedi colli hyrwyddwr.
Daeth i'r Barri i helpu i fwrw ymlaen â'r adfywio sydd wedi effeithio cymaint ar ein tref, a chafodd groeso cynnes pan lansiodd y gwaith o adnewyddu tai yn Gibbonsdown sydd wedi gweddnewid bywydau pobl sy'n byw ar yr ystad honno.
Ar y lefel ymgyrchu, cofiaf gerdded dros y clogwyni yn Nhrwyn yr As gyda Carl ar ddiwrnod rhewllyd o Chwefror yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol 2015, pan gyhoeddodd foratoriwm ar ffracio fel y Gweinidog dros yr amgylchedd. Ef wnaeth y penderfyniad hwnnw, ac ysgrifennodd at bob awdurdod lleol ar unwaith gyda'i gyfarwyddiadau—Gweinidog a oedd yn golygu yr hyn yr oedd yn ei ddweud ac yn gweithredu arno.
Diolch, Carl, wrth i ni dy gofio di, yn annwyl i dy deulu, yr ydym yn mynegi ein cydymdeimlad dwysaf â nhw heddiw, y prynhawn yma. Roeddem ni i gyd yma heddiw yn dy garu ac yn dy barchu di, dyn a Gweinidog a wasanaethodd Cymru mor dda, ac a oedd yn cael ei edmygu'n fawr ac a gaiff ei golli'n fawr.
Yn gyntaf oll, rwyf yn estyn fy nghydymdeimlad dwfn â theulu a chyfeillion Carl Sargeant, ac yn enwedig y rheini yn y Cynulliad a oedd yn ei adnabod yn dda iawn ac a oedd hefyd yn ffrindiau gydag ef. Gwnaf hynny ar ran fy hun ac ar ran fy nghydweithwyr ym Mhlaid Cymru yma, ond hefyd ar ran y cydweithwyr ym Mhlaid Cymru nad ydynt yma bellach ac a arferai weithio gydag ef yn y gorffennol.
Deuthum i adnabod Carl i ddechrau, fel llawer, rwy'n meddwl, yn 2007, pan ddaeth yn Brif Chwip i'r Blaid Lafur a phan gefais i fy mhenodi'n ymgynghorydd arbennig ar ran Plaid Cymru yn y Llywodraeth glymblaid. Ar ôl i'r glymblaid gael ei ffurfio'n ofalus, y peth cyntaf wnes i oedd sylweddoli bod Carl fel draenen yn yr ystlys i raddau, oherwydd roedd yn aelod ychwanegol o'r Cabinet na ddylai fod wedi bod yno. Beth oedd Prif Chwip yn ei wneud yn bresennol yn y Cabinet pan oeddem wedi rhoi ystyriaeth ofalus i nifer y Gweinidogion a'r Dirprwy Weinidogion a'r cydbwysedd rhwng y pleidiau? 'A oedd hyn yn mynd i fod yn broblem?', pendronais. Wel, fel y clywsom eisoes gan Ann Jones, a gafodd, rwy'n meddwl, ddigon i'w wneud â Carl yn ystod yr amser hwnnw, nid oedd hynny'n broblem, oherwydd er bod Carl yn gwbl gyfforddus ac yn gwbl fodlon yn ei deulu Llafur, gallai ymestyn y tu hwnt i hynny, nid yn unig i fod yn ffrind personol i bobl, ond i sicrhau cynghreiriaid gwleidyddol. Rydym eisoes wedi clywed teyrnged Bethan Jenkins—a byddai hi, wrth gwrs, wedi bod eisiau bod yma—ond mae'r ffaith ei bod hi a Carl, dim ond dwy neu dair wythnos yn ôl, yn sefyll ar y strydoedd yn gwerthu copïau o'r Big Issue gyda'i gilydd yn dangos ichi, rwy'n credu, y ffordd yr oedd yn gallu codi uwchlaw'r cysur hwnnw o fewn ei deulu Llafur, ac ymestyn y cysur hwnnw i eraill sy'n rhannu ei werthoedd ac sy'n rhannu ei amcanion. Felly, nid oedd, mewn gwirionedd, yn broblem fel Prif Chwip y Llywodraeth yn y Llywodraeth glymblaid honno; roedd yn rhan o'r mecanwaith a gyflawnodd Llywodraeth effeithiol. Yn gwbl briodol, yn fy marn i, fe'i penodwyd wedyn, yn Weinidog yn Llywodraethau'r dyfodol.
Ond rwyf hefyd yn ei gofio ar lefel bersonol. Deuthum i yn wreiddiol o Aberdâr; daeth ef o Gei Connah. Mae'n debyg mai prin yr oedd wedi bod i Gaerdydd cyn iddo gael ei ethol yma, eto gwyddai am leoedd yng Nghaerdydd nad oeddwn i'n gwybod amdanynt. [Chwerthin.] Roedd yn gwybod ble i fynd ar nos Fercher pan oeddem yn gadael y fan hon, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddo, ac yn dal i fod, ac rwyf eisiau ichi wybod, fel rhywun a oedd yn weddol newydd i'r Cynulliad ar yr adeg honno, roedd yn hael â'i amser gyda mi. Gwelais ef yn dawnsio mewn ffordd nad oeddwn wedi gweld unrhyw un yn dawnsio cyn hynny ac yn canu karaoke, yn sicr. Roedd yn ganwr ac yn ddawnsiwr llawer gwell na mi—yn well na'r rhan fwyaf ohonom, rwy'n credu. Ac nid oedd yn rhaid iddo fod yn hael â'i amser gydag un o gynghorwyr arbennig Plaid Cymru. Roedd yn hael, ac mae hynny'n dangos pa fath o ddyn oedd Carl.
Credaf hefyd ei fod yn fy atgoffa i o lawer o ddynion yn fy nheulu i—dynion dosbarth gweithiol, ychydig yn hŷn, efallai, na Carl—y genhedlaeth nesaf, a oedd mewn gwirionedd wedi'u gadael ar ôl gan ddad-ddiwydiannu ac a oedd wedi dioddef canlyniadau hynny. Roedd Carl yn codi uwchlaw hynny. A bydd y dilysrwydd y mae pobl wedi sôn amdano, ei allu i gymryd y cefndir hwnnw, ei ddefnyddio o'r newydd mewn amgylchedd cwbl newydd a bod yn driw i'w hun wrth wneud hynny, yn rhywbeth a fydd yn aros gyda mi.
Roedd ganddo hefyd archwaeth Stakhanovite, rwy'n credu—ac rwy'n golygu ar gyfer deddfwriaeth, wrth gwrs, fel y soniwyd eisoes. Ond roedd yn gwneud hynny hefyd gyda synnwyr digrifwch. Roeddwn i ar yr un pwyllgorau ag ef dros y blynyddoedd ac weithiau roeddwn i'n meddwl tybed a oedd e'n cymryd y ddeddfwriaeth hynny o ddifrif, mewn gwirionedd, oherwydd ei synnwyr digrifwch. Ond, wrth gwrs, roedd hyn yn rhan o'r ffordd yr oedd yn hwyluso'r broses o gyflwyno'r ddeddfwriaeth. Roedd yn hollol ddifrifol am yr hyn yr oedd yn ei gyflawni, ac roedd ei allu wrth lwyddo i basio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn fy marn i, yn un o gyflawniadau gorau unrhyw ddeddfwrfa, ac fe'i cyflwynwyd yma ac roedd yn gwneud y gwaith hwnnw ar gyfer ac ar ran pob un ohonom ni.
Nawr, rwy'n byw ar ystad cyngor fy hun—un a fabwysiadwyd gennyf; nid yr un y cefais fy ngeni ynddi. Yr ystad ym Mhenparcau yn Aberystwyth yw hon. Roedd Carl, ymhen pythefnos, yn dod i agor ein cyfleuster cymunedol diweddaraf. Roedd ei ymrwymiad i'r cyfleuster yn amlwg gan ei fod wedi fy holi yn gyson ynghylch ei ddatblygiad, ac roedd wedi bod yn agored ynghylch sut yr oedd y gymuned honno yn dod at ei gilydd ar ôl Cymunedau yn Gyntaf, ac yn gweithio ar ran y bobl dlotaf yn y gymuned honno. Dangosodd yr un faint o ofal, rhoddodd yr un sylw a holi'r un cwestiynau am gymuned fach y tu allan i Aberystwyth ag y gwnaeth am y gymuned yr oedd ef yn ei chynrychioli, ac rwy'n credu bod hynny'n destament i'w gyfraniad.
Cyfarfûm â Carl gyntaf pan gafodd ei ethol i'r Cynulliad yn 2003, ac fel y clywsom, roedd yn falch iawn o gynrychioli ei etholaeth. Ac fel y byddai rhai yma, rwy'n credu, yn cofio, pan fyddai materion lleol yn codi, roedd weithiau yn awyddus i sicrhau ei fod yn cael ei ystyried ar wahân i'r ACau rhanbarthol ar gyfer y gogledd a oedd, wrth gwrs, yn cwmpasu'r ardal gyfan. Ac yn aml, fel rhagymadrodd i'w gyfraniadau yn y Siambr byddai'n dweud 'fel yr Aelod a etholwyd yn uniongyrchol dros Alun a Glannau Dyfrdwy', cyn mynd ymlaen i wneud pwynt neu ofyn cwestiwn. Rwy'n credu bod hynny wedi taro llawer ohonom fod Carl yn benderfynol o gael effaith a gwneud cyfraniad sylweddol yma yn y Cynulliad o'r cychwyn cyntaf, ac wrth gwrs, fe wnaeth hynny. Mae gwneud y pontio hynny, y soniodd eraill amdano, o weithio ar lawr y ffatri ac ar gyngor tref i fod yn Aelod Cynulliad ac i Gabinet Llywodraeth Cymru, a gwneud y pontio hwnnw yn rhwydd—pan fyddwch chi'n dechrau meddwl am hynny, mae hynny'n eithaf ffenomen.
Ond rydym ni hefyd yn gwybod pan gyrhaeddodd Carl yn y Llywodraeth nad oedd yn fodlon mewn unrhyw ffordd ymlacio a myfyrio ar y daith honno. Roedd yn hollol benderfynol o wella bywydau pobl yng Nghymru drwy'r cyfle a oedd ganddo yn y Llywodraeth. Rwy'n credu y byddem ni i gyd yn dweud ei fod yn dangos gallu, ymrwymiad a brwdfrydedd gwirioneddol i wneud gwahaniaeth i bobl, i ddatblygu a gweithredu polisi ac yn y ddeddfwriaeth—Deddf cenedlaethau'r dyfodol, y ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd, y ddeddfwriaeth ar gam-drin domestig ac eraill. Ac rwy'n meddwl ei bod yn amlwg bob amser ei bod yn bwysig i Carl fod yn gwneud pethau mewn gwirionedd. Nid oedd yn ymwneud â'r swydd, roedd yn ymwneud â defnyddio'r swydd honno a gwneud pethau ystyrlon er lles cyfiawnder cymdeithasol ein cymunedau a'n pobl ni yma yng Nghymru.
Rwy'n sicr yn cyfrif Carl yn gydweithiwr ac yn gyfaill da. Fel Aelodau Cynulliad ac wrth wasanaethu gyda'n gilydd yn y Cabinet, roedd bob amser yn hawdd iawn gweithio gydag ef, ac roedd ganddo amser i siarad a thrafod. Fel Gweinidog yn datblygu polisïau trawsbynciol, ar draws portffolios polisi, nid oedd bob amser yn hawdd gweithio ar y cyd ag aelodau eraill y Llywodraeth. Ond pan oedd y dasg honno o'ch blaen ac roedd yn rhaid i chi gwrdd â Carl, roeddech chi'n gwybod y byddai bob amser yn brofiad adeiladol, ac rwy'n meddwl mai dyna oedd yn bwysig am Carl. Nid oedd yn ymwneud ag unrhyw fath o gystadleuaeth bersonol, roedd yn ymwneud â chyflawni pethau, cyflawni pethau ar y cyd a gweithio gyda'n gilydd.
Yn fwyaf diweddar, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, gweithiodd y pwyllgor a minnau ar y cyd ag ef, yn ei swyddogaeth fel Ysgrifennydd y Cabinet dros gymunedau, ar ein hadroddiadau ar graffu, trais domestig, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, Cymunedau yn Gyntaf a diogelwch tân, ac ar ddarnau o ddeddfwriaeth. Ac yn ôl y disgwyl, credaf ein bod wedi cael gan Carl yr union beth y byddem wedi ei ddisgwyl: roedd yn barod i wrando a chyfaddawdu, ond hefyd i sefyll yn gadarn os oedd yn argyhoeddedig o rinweddau neu ddiffyg rhinweddau gynnig neu awgrym penodol.
Fel y clywsom, mae pawb yn hoff iawn o rywun sy'n gymeriad, ac roedd Carl yn sicr yn gymeriad. Roedd bob amser yn llawn hwyl ac yn dangos cynhesrwydd, ac roedd hynny'n amlwg iawn pan wnaethom, ynghyd â ffrindiau AC Llafur a phartneriaid eraill, deithio i'r gogledd ar gyfer parti pen-blwydd Carl yn bedwar deg oed yng Nghlwb Llafur Cei Connah—gyda karaoke, wrth gwrs. Roedd yn glir ac yn amlwg yno fod Carl yn rhan annatod o'i gymuned ac roedd y bobl yn ei barchu a'i werthfawrogi—ac, wrth gwrs, roedd yn cael eu parchu ar draws y pleidiau gwleidyddol ac yn cael ei garu gan gynifer o fewn y Cynulliad a'r tu allan iddo: teulu a ffrindiau, ei gymuned, cyd-Aelodau Llafur yma, ym mhob rhan o'r blaid a'r mudiad yng Nghymru a thu hwnt, ac mewn grwpiau a sefydliadau y bu'n gweithio â nhw fel Gweinidog. Gwn fod ein staff arlwyo gwych a'r staff cyffredinol yma yn y Cynulliad yn hoff iawn o Carl, ac, fel y dywedodd Lesley, roedd yn ffefryn arbennig gan yrwyr Llywodraeth Cymru sydd, fel y dywedodd Lesley hefyd, â llawer o straeon i'w hadrodd.
Mae'n anodd iawn derbyn na fydd Carl yma mwyach—yn y Siambr hon, yn ein pwyllgorau, yn y Cynulliad, yn ei etholaeth yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Mae'n golled enfawr i ni i gyd, ond, wrth gwrs, yn bennaf oll, i Bernie, Jack, Lucy, ac i rieni Carl, ac estynnwn ein cydymdeimlad iddyn nhw ar yr adeg hon ac yn yr amser sydd i ddod.
Cofiaf y tro cyntaf y cyfarfûm â Carl: yn ôl yn 2003 mewn lifft. Roedd newydd ei ethol, ac mewn lifft yn Nhŷ Hywel, cyfarchodd fi drwy ddweud, 'Hi, comrade'. Ar ôl hynny, daethom yn ffrindiau da. Roedd bob amser yn fy ngalw i'n 'Comrade' neu 'mate', yn ôl ei ffordd ei hun
Rydym yn gwybod bod gwleidyddiaeth yn gallu bod yn fusnes oer, ond, ar y llaw arall, mae cyfeillgarwch yn mynd at wraidd dynoliaeth, ac roedd Carl yn un o'r eneidiau mwyaf dynol yr wyf wedi eu cyfarfod erioed. Roedd yn unigryw—ar ei ben ei hun. Roedd yn gyfeillgar, yn gynnes, yn serchog ac yn gefnogol. Roedd bob amser yn gefnogol pan oedd angen cymorth arnoch. Roedd yn ddyn sensitif, ac roedd wedi rhoi cynnig ar y rhan fwyaf o bethau yn ei fywyd llawn, gan gynnwys bod yn DJ, ac fel y dywedodd y Prif Weinidog, ni allai neb ei guro ar karaoke. Roedd wrth ei fodd â cherddoriaeth, yn enwedig ABBA ac, wrth gwrs, Motown. Pan ddaeth taith ddiwethaf Billy Ocean o amgylch y byd ag ef i Gaerdydd, roedd Carl yno, wrth gwrs, yn Arena Motorpoint Caerdydd y noson honno, yn dawnsio gyda'r gorau ohonynt. Fydda i byth yn gallu gwrando ar 'Red Light Spells Danger' yn yr un modd eto.
Y tro diwethaf i Jen a minnau weld Carl yn iawn oedd ar ôl ein priodas, yn y bar yng ngwesty'r Hilton, lle'r oeddem yn aros y noson honno. Roedd Carl wedi dweud y byddai'n ceisio ein gweld ni cyn diwedd y dydd, ac yn ôl ei air, ymddangosodd ef a'i deulu wrth fynedfa'r gwesty tua hanner nos. Yr unig broblem oedd bod staff y gwesty yn meddwl mai bownser ydoedd ac nid oeddent yn barod i'w adael i mewn heb negodi helaeth a fyddai'n deilwng o drafodaethau Brexit. Siaradodd ei ffordd i mewn yn y pen draw.
Datblygodd Carl enw am fod yn dipyn o drefnydd, yn gymaint felly fel bod fod yr ymadrodd, 'Drafft the Sarge', yn cael ei ddefnyddio'n gyffredin ym Mae Caerdydd. Pan gyhuddwyd Jen unwaith gan gard gorfrwdfrydig ar drenau Arriva o deithio heb docyn, am reswm na wnaf sôn amdano, Carl oedd yr un yr aeth ato i ofyn am help i ddatrys y broblem. Diolchodd iddo am hynny, a gwn fod llawer o bobl eraill wedi cael cymorth ganddo yn bersonol yn eu ffyrdd eu hunain. Nid oedd mor barod i'm helpu i bob amser. Daeth cyn-faer Wysg ataf unwaith gyda'r uchelgais o gael ei wneud yn borthfaer y dref—newid bach ond un a oedd yn gofyn am newid yn y gyfraith. Es i â'r cais bach hwn yn gydwybodol at Carl, ac edrychodd arnaf mewn penbleth llwyr am ei drafferthu â rhywbeth mor ddibwys. 'Na, Bos', oedd yr ymateb byr. Rhoddais gynnig arni eto, ychydig yn ddiweddarach, a dywedodd, 'Na, Bos' hyd yn oed yn gyflymach na'r tro cyntaf. [Chwerthin.] Gwyddai fod gwleidyddiaeth yn ymwneud â blaenoriaethau ac roedd amser yn fyr.
Bellach mae Carl wedi ein gadael ni, ond rydym ni'n dal yma i barhau â'r ymgyrchoedd a oedd yn agos at ei galon ac i weithredu'r newid yr oedd yn ei ddymuno. Fel y dywedodd Ken Skates yn gynharach, gadewch i ni edrych eto ar y ffordd yr ydym yn trin ein gilydd fel bodau dynol, a gadewch i hynny fod yn waddol Carl. Ffarwel, gydymaith, a diolch am y gerddoriaeth.
Fel rhywun a gynrychiolodd ogledd-orllewin gogledd Cymru roeddwn yn falch iawn pan ymddangosodd Carl i gynrychioli gogledd-ddwyrain gogledd Cymru, oherwydd fel y gŵyr cyd-Aelodau, yn y gogledd, un o'r triciau mawr yw ein cael ni i gyd i weithio gyda'n gilydd. Ond os oedd problem, byddai Sarge yn ei datrys.
Cawsom amser gwych ar drên cyflym y gogledd, ac mae'n rhaid inni gadw'r trên hwnnw i redeg, os yw hynny dim ond er mwyn dathlu bywyd gwych Carl fel gwleidydd ar y trên hwnnw. Byddai'n dod ar y trên, weithiau ar y trên brecwast—yn aml byddai Lesley yno hefyd—ac weithiau y trên swper, ac wrth gwrs roedd Carl ar y trên swper, nid wyf yn dweud ei fod yn syrcas deithiol, ond roedd yn sicr yn lolfa deithio, lle'r oedd pawb ar y trên, yn y dosbarth busnes, eisiau siarad â Carl a mynegi eu barn. Ac yn yr un modd, roedd y staff bob amser yn falch o weld Carl yn ymuno â ni. Ac ar y trên hwnnw y gwnaeth y cyfraniad mwyaf i fy mywyd i, ac i fywyd y bobl yr wyf yn eu cynrychioli.
Soniwyd am yr hyn a wnaeth ar gyfer cymunedau Cymru, ar gyfer y cymunedau trefol. Ond rwyf i am ddathlu a diolch iddo am yr hyn a wnaeth ar gyfer yr amgylchedd yng Nghymru, ac yn arbennig ar gyfer y tirweddau dynodedig, oherwydd roedd yn deall, fel rhywun a oedd yn ogleddwr o'r iawn ryw, a oedd wrth ei fodd â'r ardaloedd diwydiannol, yr ardaloedd gwledig a'r parciau cenedlaethol, a'r ardaloedd o harddwch naturiol, ei bod yn bwysig y dylai'r ardaloedd hyn ddysgu i fyw gyda'i gilydd ac i rannu eu llawenydd. Ac roedd hyn yn rhan o'i gamau i roi deddfwriaeth ar waith, gan mai dyma oedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2015, ar waith. A chymerodd Lesley, wrth gwrs, y cyfrifoldeb am y gwaith hwnnw ar dirweddau'r dyfodol, ac mae wedi digwydd erbyn hyn.
Daeth rhywun ataf mewn cyffro mawr ychydig fisoedd yn ôl, gan ddweud 'A oeddech chi yn y cyfarfod hwnnw yn Aberystwyth?' A dywedais, 'Pa gyfarfod oeddwn i fod ynddo yn Aberystwyth?' A dywedodd, 'Wel, am y tro cyntaf erioed, roedd y parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol ynghyd yn yr un ystafell.' A Carl oedd yn gyfrifol am hynny.
Y bore yma, yn ein eglwys gadeiriol yn Llandaf, yn ystod ein ewcarist yn Gymraeg ar gyfer Dydd Sant Dyfrig, gweddïodd y canon dros y Cynulliad Cenedlaethol hwn, Llywodraeth Cymru, a chi fel teulu. Gadewch iddo fod yn hysbys i chi y byddwch chi yn ein gweddïau ac y byddwn yn diolch am fywyd Carl cyhyd ag y bydd y sefydliad hwn yn bodoli.
Diolch, Llywydd. Roedd Carl Sargeant, yr Aelod Cynulliad dros Alun a Glannau Dyfrdwy yn ffrind i mi, mae yn ffrind i mi, a bydd yn ffrind i mi am byth. Nid oes geiriau yn ddigon trist i fynegi'r golled. Bernie, gwraig Carl, a Jack a Lucy, ei fab a'i ferch, rwyf eisiau ichi wybod nad ydych chi ar eich pen eich hunain. Mae llawer o Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru hwn a oedd yn caru ac yn parchu Carl. Fel ffeminist falch, rwyf yn dymuno iddo gael ei nodi yn y cofnod na fu unrhyw Aelod Cynulliad arall, yn y ddau ddegawd o ddatganoli yng Nghymru, mor angerddol i hyrwyddo cynnydd hawliau ac achosion menywod a phlant drwy ddeddfwriaeth na Carl Sargeant. Nododd un o ohebwyr blaenllaw Cymru, Martin Shipton, fod Carl, fel y Gweinidog dros gyfiawnder cymdeithasol, wedi dod yn adnabyddus fel hyrwyddwr cydraddoldeb a hawliau menywod a chefnogodd gyfres o fentrau gyda'r nod o fynd i'r afael â thrais yn y cartref.
Roedd Carl yn ffrind i mi ond roedd hefyd yn ffrind i'r bobl yr wyf yn eu cynrychioli, pobl Islwyn. Roedd Carl yn gwbl ddilys; yn wleidydd dosbarth gweithiol o'r iawn ryw, roedd yn siarad iaith y dyn a'r fenyw ar y stryd. A phan ymwelodd ag Islwyn, roedd yr hoffter yn amlwg. Roedd ei afiaith a'i gwrteisi yn amlwg i bawb a oedd yn cwrdd ag ef. Roedd Carl yn gwbl groes i'r gwleidydd caboledig, ffug. Ac fel ymgeisydd balch i Islwyn, pan gyfarfûm ag ef am y tro cyntaf, roeddwn yn meddwl beth ar y ddaear oedd wedi cyrraedd pan welais ef. Cefais fy nghyfarch gan ddyn mawr, mewn siwmper lwyd dywyll gyda thwll ynddi, a oedd wedi gweld dyddiau gwell. Yn ddiweddarach, sylweddolais ei fod ef a'i gyd-Aelod agos Ken Skates wedi bod yn gweithio'n ddiflino, yn teithio ar hyd a lled y wlad gyda'i gilydd, yn ymladd dros y Llywodraeth Lafur nesaf. Roedd yn gwbl ddilys.
Ac ym mis Mai 2016, pan ddeuthum yn Aelod Cynulliad, nid oedd neb yn fwy caredig, cyfeillgar ac awyddus i wneud yn siŵr fy mod i'n cynefino â bywyd yn y Senedd na Carl. Roedd yn negodwr ac yn gyfathrebwr dawnus. Nid oedd yn hunandybus nac yn falch, ond yn ddyn gostyngedig, hael ei ysbryd, ac—yn brin mewn gwleidyddiaeth—roedd Carl yn dod â gwên i'r ystafell a fyddai yn aml yn achosi chwerthin, pa bynnag faterion pwysig yr oedd yn bwrw ymlaen â nhw.
Gwn fod fy rhagflaenwyr Llafur, Aelodau Cynulliad Islwyn, Irene James a Gwyn Price, yn cytuno â mi a phobl Islwyn wrth ystyried Carl Sargeant yn gydymaith yng ngwir ystyr y gair. Rydym ni'n galaru amdano heddiw. Ac mae'n annioddefol bron i gredu y bu farw heb wybod faint yr oeddem yn ei garu a'i barchu, ac rwyf yn wirioneddol drist am hynny.
Roedd Carl yn ddyn ar gyfer pob achlysur: barn y bobl o ran beth ddylai gwleidydd fod, nid dim ond yn berson pobl, ond gwleidydd y bobl; sosialydd, nad anghofiodd byth ei wreiddiau, na'i gymuned, a garai gymaint.
Carl, roeddwn i'n dy ystyried yn ffrind, ac ni fydd y lle hwn byth yr un fath i mi heb dy bresenoldeb di. Bydd dy waddol deddfwriaethol blaengar ac arloesol, a'r atgof amdanat, yn parhau i ysbrydoli ac ysgogi pob un ohonom i greu gwell Cymru, gwell cymdeithas. Ac, ar yr adeg dywyllaf hon, rwy'n cofio geiriau Louise Haskins:
'Go out into the darkness and put your hand into the Hand of God. That shall be to you better than light and safer than a known way.'
Nid wyt ti ar ben dy hun; rydym ni'n sefyll gyda ti. A, Carl, rydym ni'n galaru amdanat yn fawr. Diolch.
Roedd yr wythnos ddiwethaf yn wythnos frawychus iawn, credaf, i wleidyddiaeth Cymru. O dan yr amgylchiadau mwyaf trychinebus, collodd teulu ŵr a thad ymroddedig, collodd Alun a Glannau Dyfrdwy, a'r gogledd, Aelod Cynulliad gweithgar ac effeithiol iawn, a chollais innau, ynghyd â llawer o rai eraill yn y Siambr hon, gyfaill caredig a thyner iawn.
Gallaf gofio cyrraedd yn y Senedd am y tro cyntaf, ar ôl imi gael fy ethol yn ôl yn 2007, a chymryd fy sedd yn y Senedd. Ac, wrth edrych draw at feinciau Llafur, gwelais Carl, a meddyliais ar unwaith y byddai'n fwy addas iddo weithio wrth ddrws clwb nos yn y Rhyl, na bod yn wleidydd. Ond, wyddoch chi, ni allai'r argraffiadau cyntaf hynny fod wedi bod yn fwy anghywir. Roedd yn wleidydd anhygoel. Roedd yn ddyn hyfryd, ac, fel yr ydym eisoes wedi dysgu y prynhawn yma, roedd ei record yn un o gyflawni—ie, ar gyfer Llywodraeth Cymru, ond hefyd ar gyfer y Blaid Lafur, ei etholwyr, a'r pethau yr oedd yn bersonol yn angerddol iawn drostynt. Ac er ei fod yn ymddangos fel ffigwr anghyffredin, am wleidydd, y tu ôl i'r ymddangosiad caled hwnnw roedd ganddo galon garedig iawn a oedd bob amser yn ceisio brwydro dros y gwannaf, pwy bynnag oedd y rhai gwannaf hynny.
Mae Sul y Cofio newydd fod, ac fe'm hatgoffodd nid yn unig am aberth y rhai a fu farw, ond hefyd pa mor wych oedd Carl Sargeant, a oedd â'r portffolio hwnnw, fel hyrwyddwr cymuned y lluoedd arfog a chyn-filwyr ledled Cymru, gan gynrychioli eu barn nhw wrth fwrdd y Cabinet, ac ar draws y wlad. Ac, wrth gwrs, nid oedd yn ffrind i'r lluoedd arfog yn unig, roedd yn ffrind aruthrol i gymunedau ffydd hefyd, ledled Cymru. Gwn fod y cymunedau ffydd, grwpiau ffydd—o bob crefydd—yn gwerthfawrogi'n fawr ei waith a'i ymgysylltiad trwy'r fforwm cymunedau ffydd.
Ac, wrth gwrs, roedd gan Carl wên heintus, a gallai wneud imi chwerthin. Fel cyd- ogleddwr, estynnodd ei gyfeillgarwch ataf, yn enwedig yn fy nyddiau cynnar yn y Cynulliad, a gallaf gofio ef yn gofyn imi un diwrnod, 'Ti'n iawn, bos? Sut wyt ti'n setlo i mewn?' Felly, dywedais wrtho fy mod wedi dod o hyd i fflat yn y bae, fy mod i'n brysur yn paratoi'r fflat, ac roedd yn digwydd bod yn yr un bloc â fflat Carl. 'Mae gen i fatres sbâr os wyt ti ei eisiau', meddai, 'Fe ddof ag e' draw nes ymlaen.' Ac yna dywedodd hyn: 'ni fydd o werth i ti—rwyt ti'n rhy dew.' Yna dywedodd, 'Ond bydd yn iawn i dy blant di.'
Ac roedd achlysur arall, wyddoch chi, yn ystod toriad y Cynulliad, roeddwn wedi dod a fy nheulu i lawr i Gaerdydd. Ac es i â nhw i nofio un bore, yn y bloc lle'r oedd y fflat. Dychmygwch fy syndod y prynhawn hwnnw, pan gefais neges destun gan Carl. Y neges oedd: 'Rwyt ti'n edrych yn ofnadwy yn y siorts nofio yna.' Heb i mi wybod, roedd wedi bod yn gwylio trwy'r ffenestr tra'r oeddwn yn y pwll. Roedd yn llawn direidi, ond roeddwn yn ei garu'n fwy oherwydd hynny.
Ac yna roedd y sgyrsiau. Byddem ni'n cael sgyrsiau, weithiau yn yr ystafell de, weithiau yn y coridor, weithiau yn Mischief's neu yn y Packet am fywyd teuluol. Roedd yn caru ei deulu'n fawr. Roedd yn sôn amdanynt yn aml ac roedd yn hynod falch ohonynt. Rwyf yn dymuno dweud hyn wrth Bernie, Lucy a Jack heddiw: diolch yn fawr am rannu Carl gyda ni, roeddem yn ei garu'n fawr ac rydym yn mynd i'w golli'n fawr.
Roeddwn am ddweud ychydig o eiriau, oherwydd ei fod yn adnabyddus ym Mhontypridd, Rhondda Cynon Taf a Thaf Elái, ac roedd yn deyrnged i Carl, fel gogleddwr balch, nad oedd pobl Pontypridd a Thaf Elái byth yn gallu dal hynny yn ei erbyn.
Roedd i lawr yn fy etholaeth i, yn Rhydyfelin, dim ond ychydig wythnosau yn ôl yn ymdrin â mater gofal plant, ac roeddem yno, mewn rhes, roedd y camerâu teledu yno ac roedd yn mynd i wneud cyhoeddiad. Roeddwn wedi gwisgo crys glân ac roeddwn yn gwisgo siwt ac roeddem ni i gyd yno'n aros. Yna dyma gar yn cyrraedd a daeth dyn blêr allan, ei wallt yn flêr, heb eillio, yn gwisgo siwmper frwnt. Carl oedd yno, a meddyliais, 'Duw, Carl, beth sydd wedi digwydd?' Dywedodd, 'O, dwi wedi bod yn gwerthu'r Big Issue am gwpl o oriau. Mae gen i ambell un ar ôl i'w gwerthu yn nes ymlaen.' Ac yna cododd ofn mawr arnom ein bod yn mynd i gael y cyhoeddiad ac yna byddai Carl yn sydyn yn dechrau gwerthu'r Big Issue i bawb.
Un o'r bobl gyntaf i gysylltu â mi ar ôl clywed y newyddion trasig oedd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae'n deyrnged iddo cymaint o bobl a oedd yn parchu ac yn edmygu Carl, yn gwybod amdano a'i waith, ac yn gwerthfawrogi'r cyfraniad a wnaeth i'n cymunedau. Felly, yr unig sylw mewn gwirionedd yr wyf i am ei wneud, ar ben popeth sydd wedi ei ddweud, yw bod llawer o gydnabyddiaeth i'r cyfraniad a wnest ti yn ardal Pontypridd a Taf Elái, ac ni fydd yn mynd yn angof.
Rydw i'n aelod gymharol ddiweddar o glwb cefnogwyr Carl. Cyfarfûm â Carl am y tro cyntaf fel ymgeisydd yn 2011, pan ddaeth i gefnogi fy ymgyrch i ailddatblygu canolfan siopa ddiflas a oedd wedi mynd a'i phen iddi. Roedd Carl yn ymgyrchydd gwych. Roedd hefyd yn wych wrth ddatrys problemau, fel y mae eraill wedi ei ddweud. Bydd Julie Morgan a minnau yn ddiolchgar am byth i Carl am sicrhau ateb i'r ymgyrch 15 mlynedd i achub cronfa ddŵr Llanisien. Cafodd y gronfa ddŵr ei draenio fel gweithred olaf o fandaliaeth gorfforaethol gan Western Power Distribution, a oedd eisiau ei gorchuddio dan goncrit a thai moethus, ond roedd yn amlwg nad oedd gan y perchnogion newydd, CELSA Group, yr arian na'r wybodaeth i adfer y gronfa ddŵr. Felly, camodd Carl i'r adwy a llwyddodd i berswadio Dŵr Cymru i gymryd yr awenau, a diolch i Carl bydd y gronfa ddŵr yn cael ei hail-lenwi a'i diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Roedd yn fraint cydweithio'n agos iawn â Carl dros y pedair blynedd diwethaf ar yr holl ddeddfwriaeth y bydd yn cael ei gofio amdani. Fel y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi ei ddweud, bydd Carl yn cael ei gofio fwyaf am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sef deddf sy'n torri tir newydd. Rwy'n cofio, pan gafodd ei benodi’n Weinidog Cyfoeth Naturiol yn gyntaf, mae'n deg dweud nad oedd yn frwdfrydig, oherwydd ei fod yn ansicr a fyddai'r Ddeddf yn cael unrhyw effaith y tu hwnt i edrych yn dda yn unig, ac nid oedd gan Carl unrhyw ddiddordeb mewn deddfau sy'n eistedd ar y silff yn casglu llwch. Roedd eisiau i bopeth a wnâi wneud gwahaniaeth. Fodd bynnag, unwaith i'r Cabinet ei ddarbwyllo eu bod o ddifrif am y Bil arloesol hwn, aeth yn ei flaen â holl awch a brwdfrydedd a ymrwymwyd ganddo'n flaenorol i achos trais domestig. Llwyddodd i greu Bil ag iddo gefnogaeth gyhoeddus, ac un y gallai pawb ei ddeall. Yn wir, mae'r rhaglen lywodraethu yn sôn am wneud Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn rhan o'r gyfraith, ac am ein hymrwymiad i ddatblygu polisi a gwneud penderfyniadau a fydd yn sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl ar lesiant hirdymor ein gwlad, a dylai Carl bob amser gael ei gofio am hynny. Roedd wir yn Weinidog gwych i gydweithio ag ef, oherwydd ei fod yn gwrando. Byddai'n ystyried yr hyn yr oedd gan Aelodau'r meinciau cefn i'w ddweud ac os nad oedd ganddo ateb yn y pryd a'r lle, gallaf ei glywed yn dweud, 'Dof yn ôl atoch ynglŷn â hynny', a dyna y byddai'n ei wneud bob amser.
Gall tenantiaid sy'n rhentu'n breifat ddiolch i Carl am gofrestru landlordiaid, gan sicrhau bod modd iddynt gael gafael ar eu landlordiaid mewn argyfwng. Roedd eisoes wedi dechrau'r broses ddeddfwriaethol i gael gwared ar ffioedd asiantaethau gosod, sy'n achosi cymaint o drafferthion ariannol i gynifer o denantiaid preifat. Ac ar 24 Hydref, y tro diwethaf iddo gyflwyno unrhyw fentrau gweinidogol, cyhoeddodd Carl ei fod wedi cael cynifer o geisiadau o safon ar gyfer ei raglen dai arloesol roedd wedi llwyddo i berswadio Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid bron i ddyblu'r cronfeydd cyfalaf i ddarparu cartrefi carbon isel o safon sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Roedd Carl yn wir arweinydd, yn gynrychiolydd arbennig dros Alun a Glannau Dyfrdwy ac yn Weinidog rhagorol.
Y ddelwedd o Carl yr ydw i eisiau ei thrysori am byth yw'r ddelwedd ohono mewn bwa pluog pinc a phâr o sbectol binc enfawr, yn sefyll wrth ymyl ei ffrind da, Lesley Griffiths, Aelod Cynulliad yr etholaeth gerllaw. Aeth ati'n fwriadol i ddewis y propiau mwyaf hurt posibl gan nad oedd ofn arno fod yn destun chwerthin er lles achos da, ac roedd eisiau i chi chwerthin gydag ef er mwyn cefnogi'r ymgyrch sy’n codi ymwybyddiaeth o ganser y fron, Wear it Pink. Creodd gymaint o chwerthin yn ein bywydau, a chyffwrdd â phobl a oedd yn gweithio ar bob agwedd ar waith y Cynulliad. Ond nid yw ein colled ni yn ddim o gymharu â'r boen a ddioddefir gan ei deulu a'i gymuned.
Diolch i chi gyd am eich cyfraniadau gwresog a diffuant sy'n adlewyrchu'r hoffter a'r parch aruthrol a deimlir tuag at Carl Sargeant ar draws y Siambr hon. Mae eraill ohonoch a fyddai wedi hoffi siarad y prynhawn yma, ond nid wyf wedi gallu galw ar bob un. Byddaf yn sicrhau bod y rhestr o siaradwyr y prynhawn yma yn cael ei rhannu â'r teulu.
Mae cyflawniadau Carl fel Gweinidog ac fel Aelod Cynulliad yn niferus, ac, fel y cyfryw, bydd ei etifeddiaeth yn parhau i ddylanwadu ar fywydau llawer o bobl ledled y wlad am flynyddoedd i ddod. Rydym yn dod i'r Cynulliad hwn o gefndiroedd niferus ac amrywiol, sy'n cynrychioli pob cymuned yng Nghymru. Gall y lle hwn ein newid ni weithiau. Ni wnaeth newid Carl Sargeant. Parhaodd yn driw i'w gymuned a'i gefndir. Yr un oedd y Carl y gwnes i gyfarfod ag ef gyntaf yn 2003 â'r Carl a oedd yn y Siambr hon bythefnos yn ôl. Fe ddylanwadodd arnom ni, nid i'r gwrthwyneb, ac nid oedd hyrwyddwr gwell nag ef i'w etholwyr a'i achosion yn y lle hwn.
Rwyf nawr yn dirwyn y sesiwn hon i ben. Bydd y gloch yn canu bum munud cyn i ni ailgynnull. Gofynnaf ichi adael y Siambr hon yn dawel a gwneud hynny er cof cynnes a pharhaol am ein ffrind, ein cymrawd, ein cyfaill, Carl Sargeant.