Part of the debate – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Rydw i'n aelod gymharol ddiweddar o glwb cefnogwyr Carl. Cyfarfûm â Carl am y tro cyntaf fel ymgeisydd yn 2011, pan ddaeth i gefnogi fy ymgyrch i ailddatblygu canolfan siopa ddiflas a oedd wedi mynd a'i phen iddi. Roedd Carl yn ymgyrchydd gwych. Roedd hefyd yn wych wrth ddatrys problemau, fel y mae eraill wedi ei ddweud. Bydd Julie Morgan a minnau yn ddiolchgar am byth i Carl am sicrhau ateb i'r ymgyrch 15 mlynedd i achub cronfa ddŵr Llanisien. Cafodd y gronfa ddŵr ei draenio fel gweithred olaf o fandaliaeth gorfforaethol gan Western Power Distribution, a oedd eisiau ei gorchuddio dan goncrit a thai moethus, ond roedd yn amlwg nad oedd gan y perchnogion newydd, CELSA Group, yr arian na'r wybodaeth i adfer y gronfa ddŵr. Felly, camodd Carl i'r adwy a llwyddodd i berswadio Dŵr Cymru i gymryd yr awenau, a diolch i Carl bydd y gronfa ddŵr yn cael ei hail-lenwi a'i diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Roedd yn fraint cydweithio'n agos iawn â Carl dros y pedair blynedd diwethaf ar yr holl ddeddfwriaeth y bydd yn cael ei gofio amdani. Fel y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi ei ddweud, bydd Carl yn cael ei gofio fwyaf am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sef deddf sy'n torri tir newydd. Rwy'n cofio, pan gafodd ei benodi’n Weinidog Cyfoeth Naturiol yn gyntaf, mae'n deg dweud nad oedd yn frwdfrydig, oherwydd ei fod yn ansicr a fyddai'r Ddeddf yn cael unrhyw effaith y tu hwnt i edrych yn dda yn unig, ac nid oedd gan Carl unrhyw ddiddordeb mewn deddfau sy'n eistedd ar y silff yn casglu llwch. Roedd eisiau i bopeth a wnâi wneud gwahaniaeth. Fodd bynnag, unwaith i'r Cabinet ei ddarbwyllo eu bod o ddifrif am y Bil arloesol hwn, aeth yn ei flaen â holl awch a brwdfrydedd a ymrwymwyd ganddo'n flaenorol i achos trais domestig. Llwyddodd i greu Bil ag iddo gefnogaeth gyhoeddus, ac un y gallai pawb ei ddeall. Yn wir, mae'r rhaglen lywodraethu yn sôn am wneud Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn rhan o'r gyfraith, ac am ein hymrwymiad i ddatblygu polisi a gwneud penderfyniadau a fydd yn sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl ar lesiant hirdymor ein gwlad, a dylai Carl bob amser gael ei gofio am hynny. Roedd wir yn Weinidog gwych i gydweithio ag ef, oherwydd ei fod yn gwrando. Byddai'n ystyried yr hyn yr oedd gan Aelodau'r meinciau cefn i'w ddweud ac os nad oedd ganddo ateb yn y pryd a'r lle, gallaf ei glywed yn dweud, 'Dof yn ôl atoch ynglŷn â hynny', a dyna y byddai'n ei wneud bob amser.
Gall tenantiaid sy'n rhentu'n breifat ddiolch i Carl am gofrestru landlordiaid, gan sicrhau bod modd iddynt gael gafael ar eu landlordiaid mewn argyfwng. Roedd eisoes wedi dechrau'r broses ddeddfwriaethol i gael gwared ar ffioedd asiantaethau gosod, sy'n achosi cymaint o drafferthion ariannol i gynifer o denantiaid preifat. Ac ar 24 Hydref, y tro diwethaf iddo gyflwyno unrhyw fentrau gweinidogol, cyhoeddodd Carl ei fod wedi cael cynifer o geisiadau o safon ar gyfer ei raglen dai arloesol roedd wedi llwyddo i berswadio Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid bron i ddyblu'r cronfeydd cyfalaf i ddarparu cartrefi carbon isel o safon sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Roedd Carl yn wir arweinydd, yn gynrychiolydd arbennig dros Alun a Glannau Dyfrdwy ac yn Weinidog rhagorol.
Y ddelwedd o Carl yr ydw i eisiau ei thrysori am byth yw'r ddelwedd ohono mewn bwa pluog pinc a phâr o sbectol binc enfawr, yn sefyll wrth ymyl ei ffrind da, Lesley Griffiths, Aelod Cynulliad yr etholaeth gerllaw. Aeth ati'n fwriadol i ddewis y propiau mwyaf hurt posibl gan nad oedd ofn arno fod yn destun chwerthin er lles achos da, ac roedd eisiau i chi chwerthin gydag ef er mwyn cefnogi'r ymgyrch sy’n codi ymwybyddiaeth o ganser y fron, Wear it Pink. Creodd gymaint o chwerthin yn ein bywydau, a chyffwrdd â phobl a oedd yn gweithio ar bob agwedd ar waith y Cynulliad. Ond nid yw ein colled ni yn ddim o gymharu â'r boen a ddioddefir gan ei deulu a'i gymuned.