13. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 4:58 pm ar 14 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:58, 14 Tachwedd 2017

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, rwy'n symud ymlaen yn syth i'r bleidlais. Mae'r bleidlais gyntaf ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg. Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, pedwar yn ymatal a 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

NDM6560 - Gwelliant 2: O blaid: 19, Yn erbyn: 27, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 520 NDM6560 - Gwelliant 2

Ie: 19 ASau

Na: 27 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: 4 ASau

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:58, 14 Tachwedd 2017

Galwaf, felly, am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Julie James. 

Cynnig NDM6560 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2016-17, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.

2. Yn nodi datblygiadau cadarnhaol yn nefnydd y Gymraeg o dan y gyfundrefn safonau iaith, a reolir gan Gomisiynydd y Gymraeg, ar ôl dim ond blwyddyn iddynt ddod i rym, sy'n cynnwys:

a) bod 76 y cant o siaradwyr Cymraeg o’r farn bod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella;

b) bod 57 y cant o bobl yn credu bod cynnydd yn y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg;

c) cynnydd o 50 y cant yn 2015-16 i 96 y cant yn 2016-17 yn nifer y gwasanaethau ffôn lle gynigir dewis Iaith yn ddiofyn; a

d) cynnydd o 32 y cant yn 2015-16 i 45 y cant yn 2016-17 yn nifer y cynghorau sy’n cynnig pob tudalen ar eu gwefan yn Gymraeg.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:59, 14 Tachwedd 2017

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal a neb yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig.

NDM6560 - Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2016-17 (Cynnig wedi'i ddiwygio): O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Rhif adran 521 NDM6560 - Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2016-17 (Cynnig wedi'i ddiwygio)

Ie: 50 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:59, 14 Tachwedd 2017

Mae'r bleidlais nesaf, felly, ar y cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol. Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Carwyn Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 14 yn ymatal a neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM6561 - Cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol: O blaid: 36, Yn erbyn: 0, Ymatal: 14

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 522 NDM6561 - Cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol

Ie: 36 ASau

Wedi ymatal: 14 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:59, 14 Tachwedd 2017

Dyna ddiwedd ar ein trafodion am y dydd hwn.

Daeth y cyfarfod i ben am 16:59.