Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Rwy'n credu ei bod hi'n hynod o bwysig, ar adeg pan nad yw benthyg erioed wedi bod, wel, nid mor rhad ag yr oedd tua wythnos yn ôl—ond mae benthyg yn rhatach nag erioed—mae'n rhesymol ac yn gyfrifol i Lywodraethau fenthyg arian er mwyn pwmpio'r arian hwnnw i mewn i'r economi. Bydd ef yn anghytuno; mae'n arianyddwr, rwy'n siŵr. Dydw i ddim; rwy'n cyd-fynd ag egwyddorion Keynes ac o'r farn mai dyma'r amser i Lywodraeth fenthyg yr arian hwnnw, rhoi'r arian hwnnw i mewn i'r economi, creu'r swyddi sydd eu hangen arnom ni, ac yna, wrth gwrs, creu derbyniadau treth a fydd yn ad-dalu'r benthyciad hwnnw.