2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Tachwedd 2017.
2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae rhaglen cyni Llywodraeth y DU wedi'i chael yng Nghymru? OAQ51268
Gan fod gennym dros £1 biliwn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, mae'n amlwg bod llawer iawn o bwysau. Wrth gwrs, rydym ni wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi terfyn ar y cyfnod hwn o gyni cyllidol ac mae hwnnw, rwy'n gobeithio, yn neges a fydd yn cael ei glywed gan Ganghellor y Trysorlys ddiwedd y mis hwn.
Diolch, Prif Weinidog. Bydd Canghellor Llywodraeth Dorïaidd y DU, Philip Hammond, yn cyflwyno ei gyllideb ar 22 Tachwedd yn siambr Tŷ'r Cyffredin. Yn ddiweddar, cafodd Gweinidogion cyllid Cymru a'r Alban gyfarfod ar y cyd gyda swyddogion y Trysorlys yn y cyfarfod cyllid pedair ochrog yn Llundain. Yn y cyfarfod hwnnw, gwnaeth Weinidogion cyllid Cymru a'r Alban alwad eglur a diamwys i Lywodraeth Dorïaidd y DU gyflwyno cynlluniau i ddiddymu cap cyflogau'r sector cyhoeddus a gwrthdroi'r £3.5 biliwn o doriadau ychwanegol heb eu neilltuo arfaethedig i wariant yn 2019-20. Pa neges sydd gan y Prif Weinidog i'r Canghellor cyn y gyllideb am yr angen i'r Llywodraeth Doraidd gefnu ar ei hobsesiwn ideolegol gyda chyni cyllidol, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi gweld gostyngiad o 7 y cant i'w chyllideb mewn termau real ers 2010?
Yn gyntaf oll, mae'n hynod o bwysig bod y £3.5 biliwn o doriadau heb eu neilltuo yn cael eu diddymu, i wneud yn siŵr ein bod yn gallu bod mewn sefyllfa lle nad ydym yn wynebu maint y toriadau hynny. Yn ail, mae'n hynod bwysig nawr, rwy'n credu, pwmpio mwy o arian i mewn i'r economi, er mwyn sicrhau bod mwy o arian ar gyfer buddsoddi, i wneud yn siŵr y gellir creu swyddi o ganlyniad, ac, wrth gwrs, i alluogi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn wir, i allu buddsoddi yn y seilwaith sydd ei angen ar Gymru a'r Alban.
Prif Weinidog, fe wnaethoch ddisgrifio eich agwedd at gyllid cyhoeddus ar 23 Ebrill, pan ofynnwyd i chi,
Dywedodd Canghellor yr Wrthblaid John McDonnell bod angen benthyg £500 biliwn yn ychwanegol er mwyn rhoi ychydig o hwb i'r economi—byddech chi'n cyd-fynd â hynny, fyddech chi?
Cafwyd yr ateb, 'Byddwn, mi fyddwn' gennych. A ydych chi'n dal i gredu y byddai benthyg £500 biliwn—10 gwaith diffyg presennol y DU—yn synhwyrol, a sut y byddai'n cael ei ad-dalu?
Rwy'n credu ei bod hi'n hynod o bwysig, ar adeg pan nad yw benthyg erioed wedi bod, wel, nid mor rhad ag yr oedd tua wythnos yn ôl—ond mae benthyg yn rhatach nag erioed—mae'n rhesymol ac yn gyfrifol i Lywodraethau fenthyg arian er mwyn pwmpio'r arian hwnnw i mewn i'r economi. Bydd ef yn anghytuno; mae'n arianyddwr, rwy'n siŵr. Dydw i ddim; rwy'n cyd-fynd ag egwyddorion Keynes ac o'r farn mai dyma'r amser i Lywodraeth fenthyg yr arian hwnnw, rhoi'r arian hwnnw i mewn i'r economi, creu'r swyddi sydd eu hangen arnom ni, ac yna, wrth gwrs, creu derbyniadau treth a fydd yn ad-dalu'r benthyciad hwnnw.
Os yw hynny'n wir—ac rwy'n cytuno â chi, Prif Weinidog, oherwydd y cyfraddau llog is nag erioed yr ydym ni'n dal i'w hwynebu, er y penderfyniad diweddar i gael cynnydd bach—pam nad ydym ni'n benthyg y swm llawn sydd ar gael i ni? Hynny yw, nid ydym ni hyd yn oed yn manteisio dros y tair blynedd ariannol nesaf ar y £425 miliwn llawn y gallem ni ei fenthyg. Rydym ni £50 miliwn yn brin o hynny, a gallem ni fod yn gwneud mwy drwy'r model buddsoddi cydfuddiannol hefyd. Pam nad ydym ni'n defnyddio'r pwerau benthyg sydd gennym ni i gael y fantais fwyaf?
Wel, yr ateb i hynny yw ein bod ni. Mae'n rhaid i ni gydbwyso, wrth gwrs, y pŵer sydd gennym ni i fenthyg arian yn erbyn yr angen i ad-dalu'r arian hwnnw a'r pwysau a fydd ar y gyllideb refeniw yn y blynyddoedd i ddod. Rydym ni'n symud ymlaen â'r model buddsoddi cydfuddiannol, fel y mae'r Aelod wedi dweud, a byddwn yn edrych ar bob model benthyg ariannol darbodus er mwyn cyflawni dros bobl Cymru.