Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 14 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:10, 14 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Yr hyn y gallaf ei ddweud yw yr ymdriniwyd ag unrhyw faterion y tynnwyd fy sylw atynt bryd hynny. Dyna'r ateb a roddwyd—ac mae'r ateb hwnnw'n gywir—yn ôl yn 2014. Os, fodd bynnag, oes materion eraill y mae pobl eisiau eu codi, yna mae croeso iddyn nhw wneud hynny. Ond gofynnodd gwestiwn uniongyrchol i mi: a ymdriniwyd ag unrhyw faterion a godwyd gyda mi? Yr ateb i hynny yw: do ymdriniwyd â nhw.