2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Llywydd. Prif Weinidog, yn ddiweddar, rydym ni wedi clywed honiadau gan gyn-Weinidog cabinet a chan uwch-gynghorydd arbennig bod, yn y Llywodraeth Cynulliad diwethaf yr oeddech chi'n Brif Weinidog arni, bwlio, gemau meddwl, ffafriaeth, tanseilio personol bwriadol, ac y caniatawyd i'r diwylliant hwnnw ffynnu heb gael ei atal. Hefyd, dywedodd y cynghorydd arbennig bod yr ymddygiad yn 'wenwyn pur'. A gaf i ofyn i chi wneud sylwadau ar yr honiadau hynny, Prif Weinidog, oherwydd, os ydyn nhw'n wir, yna nid dyna'r ffordd i redeg Llywodraeth, nage?
Wel, yn gyntaf oll, a gaf i ddweud fy mod i wedi clywed yr honiadau o fwlio gan Leighton Andrews? Rwyf wedi gwrando ar yr hyn sydd ganddo i'w ddweud. Clywais yr hyn yr oedd gan Steve Jones i'w ddweud, a dywedaf hyn: os yw pobl yn dymuno dod ataf i ac esbonio pethau i mi am eu profiad, yna rwy'n fwy na pharod i hynny ddigwydd a gallant gysylltu â mi naill ai drwy fy swyddfa neu drwy'r Ysgrifennydd Parhaol.
Prif Weinidog, mae'r honiadau wedi eu cyfeirio'n bendant at eich swyddfa chi, ac mae'r honiadau, neu'r bobl sy'n gwneud yr honiadau, yn datgan yn gwbl eglur eu bod wedi codi'r honiadau hyn gyda chi ar sawl achlysur cyn rhoi'r ffidil yn y to. Fe roesant y ffiidil yn y to ; roedden nhw'n credu nad oeddent yn cael eu cymryd o ddifrif ac nad oedd y materion hyn yn cael sylw. Yn wir, mewn cwestiwn ysgrifenedig yn y Cynulliad i'm cyd-Aelod, Darren Millar, a ofynnodd gwestiwn yn ôl ym mis Hydref/Tachwedd 2014, fe wnaethoch ymateb iddo trwy ddweud nad oedd unrhyw honiadau wedi eu gwneud. Sut gall pobl fod yn ffyddiog y byddant yn cael eu cymryd o ddifrif os byddant yn dewis codi'r pryderon difrifol hyn gyda chi ? Ac os nad yw'r ffydd hwnnw ganddynt, a wnewch chi ymrwymo i atgyfeirio'r honiadau hyn ar gyfer ymchwiliad gan drydydd parti annibynnol fel y gallwn ddeall yn llawn pa un a ydyn nhw'n honiadau difrifol sy'n dal dŵr, gyda chamau gweithredu gofynnol, neu nad oes unrhyw sylwedd iddynt ac y gellir eu rhoi o'r neilltu?
Rwy'n credu ei bod hi'n hynod bwysig, pan fydd gan bobl bryderon, eu bod nhw'n gallu mynegi'r pryderon hynny trwy broses gyfrinachol. Nid wyf i'n credu mai yn y parth cyhoeddus y dylid gwneud y pethau hyn, ac rwy'n gwahodd pobl i ddod ymlaen gydag unrhyw bryderon y gallai fod ganddynt a chysylltu â'm swyddfa i neu gysylltu â'r Ysgrifennydd Parhaol fel y gallaf wneud asesiad o'r hyn y dywedwyd oedd yn digwydd bryd hynny.
Mae'n deg dweud, fodd bynnag, Prif Weinidog, y codwyd yr honiadau hyn gyda chi ar y pryd? Oherwydd mae'r ddau unigolyn—unigolion uwch o fewn y Llywodraeth—yn bendant yn eu honiadau eu bod wedi cael eu codi ar sawl achlysur gyda chi, nid dim ond ar achlysuron unigol, ond fe'u codwyd sawl tro gyda chi, ac yn wir eu bod wedi cael eu gwneud yn erbyn eich swyddfa, do. Nid oeddent yn cael eu gwneud yn erbyn strwythur ehangach y Llywodraeth—roedden nhw'n cael eu gwneud yn erbyn Swyddfa'r Prif Weinidog. Felly, a allwch chi gadarnhau, yn wahanol i'r ateb a roesoch i Darren Millar yn ôl yn 2014, y codwyd yr honiadau hyn gyda chi a'ch bod chi wedi ymchwilio iddynt ar y pryd? Ac, fel y dywedais, os oes rhinwedd iddynt, a wnewch chi ymrwymo i'w hatgyfeirio i unigolyn annibynnol fel y gellir ymchwilio iddynt, ac mewn gwirionedd, rhoi sylw i'r gweithredoedd hyn?
Yr hyn y gallaf ei ddweud yw yr ymdriniwyd ag unrhyw faterion y tynnwyd fy sylw atynt bryd hynny. Dyna'r ateb a roddwyd—ac mae'r ateb hwnnw'n gywir—yn ôl yn 2014. Os, fodd bynnag, oes materion eraill y mae pobl eisiau eu codi, yna mae croeso iddyn nhw wneud hynny. Ond gofynnodd gwestiwn uniongyrchol i mi: a ymdriniwyd ag unrhyw faterion a godwyd gyda mi? Yr ateb i hynny yw: do ymdriniwyd â nhw.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Llywydd. Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog wedi gweld y bore yma, ar WalesOnline, bod Martin Shipton wedi ysgrifennu darn ar y pwnc y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei godi. Dywedodd ei fod wedi cael ei wahodd i ginio ar ddiwedd 2014 yng nghartref ffrind, lle rhoddodd Carl Sargeant a phobl uwch eraill Llafur Cymru olwg annymunol iddo ar agwedd ar Lywodraeth Cymru nad oedd yn gyfarwydd â hi. Dywedodd ei fod yn synnu clywed gan Carl ac eraill am yr awyrgylch wenwynig a oedd yn bodoli wrth wraidd Llywodraeth Cymru, a'r honiadau am achosion o danseilio a mân feirniadu a oedd yn digwydd—eich bod chi wedi cael eich hysbysu am y problemau hyn ond nad oeddech chi wedi gwneud dim amdanynt. Felly, onid yw hynny'n mynd yn groes i'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud wrth arweinydd yr wrthblaid?
Nid yw'n bosibl i mi wneud sylwadau ar faterion nad wyf yn gwybod dim amdanynt, ond os yw'r newyddiadurwr dan sylw neu eraill eisiau dod ymlaen a rhannu'r hyn y maen nhw wedi ei ddweud, heb yn wybod i mi, gyda mi, byddwn yn fwy na pharod i wrando arnynt.
Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno, allan o drasiedi y dyddiau diwethaf, ei bod hi'n bwysig y dylem ddysgu gwersi sy'n deillio o ddiswyddiad Carl Sargeant a'r prosesau a oedd ynghlwm â hynny. Dywedodd y Prif Weinidog, fel bargyfreithiwr â phrofiad o gyfraith a gweithdrefn droseddol, ei fod wedi gweithredu yn unol â'r rheolau. Nawr, ni roddwyd unrhyw gyfle i Carl Sargeant ateb iddo fe yr honiadau a wnaed, oherwydd na roddwyd unrhyw fanylion. Mae hynny'n mynd yn groes i un o egwyddorion mwyaf sylfaenol cyfiawnder naturiol—i glywed ochr arall y ddadl cyn bod rhywun yn cael ei roi dan anfantais. Hefyd, gan fod y diswyddiad yn gyhoeddus, yn anochel, a'r ffaith bod cyhuddiadau, er nad oeddent wedi eu datgan, wedi eu gwneud o anweddustra rhywiol, roedd y cyhoeddusrwydd a gynhyrchwyd trwy hynny yn rhagfarnu, yn anochel, sydd unwaith eto yn peryglu'r rhagdybiaeth o ddiniweidrwydd. Felly, os gweithredodd y Prif Weinidog yn unol â'r rheolau yn yr achos penodol hwn, a yw'n credu erbyn hyn y dylid cael gwared ar y rheolau hynny a chael rhai newydd sydd wedi eu llywio gan egwyddorion tegwch?
Credaf fod dau beth yn y fan yma: yn gyntaf oll, gyda'r ymchwiliad annibynnol a'r cwest, rwy'n meddwl ei bod yn hynod bwysig bod y stori gyfan yn cael ei hadrodd ar yr un pryd ac nid mewn rhannau. Felly, nid wyf yn gallu gwneud sylwadau ar amryw o bethau a ddywedwyd—nid wyf yn credu bod hynny'n briodol i neb. Mae'n hynod bwysig bod y stori gyfan yno i bawb ei gweld, yn hytrach na'i bod yn dod allan mewn tameidiau—nid wyf yn credu mai dyna fyddai'r broses gywir o gwbl.
Yn ail, a wyf i'n credu bod gwersi i bob parti eu dysgu? Efallai bod. Credaf ei bod hi'n bwysig ein bod ni, fel pleidiau gwleidyddol, yn gwneud hynny. Mae gwleidyddiaeth yn fusnes anodd iawn, rydym ni'n gwybod hynny. Gall pobl gael eu diswyddo o gabinetau, gellir eu rhoi mewn cabinetau, heb unrhyw reswm. Gall pobl fynd i gyfrif etholiad a gallant ganfod eu hunain mewn swydd, a wedyn canfod eu hunain heb swydd, tra bod torf aflafar yn cymeradwyo'r ffaith nad ydyn nhw mewn swydd. Mae, yn yr ystyr hwnnw, yn fusnes creulon iawn. Ond un o'r pethau a wnaeth fy nharo i yn gynharach heddiw yw efallai y dylem ni, fel pleidiau, ystyried sut i beidio â chymryd nid y min, nid yr angen am archwiliad fforensig, nid y ddadl, nid y craffu, allan o wleidyddiaeth, ond gweld sut y gallwn ni ei wneud yn llai creulon nag ydyw. Credaf fod hynny'n rhywbeth, fel pob plaid, efallai y byddwn ni eisiau ei ystyried yn y dyfodol.
Mae gen i, wrth gwrs, brofiad personol o gael fy niswyddo, a gallaf gadarnhau nad yw'n ddymunol, ond ni all neb ym myd gwleidyddiaeth gwyno gydag unrhyw gyfiawnder am gael eu diswyddo, gan nad oes unrhyw gyfiawnder ynghylch penodiadau yn y lle cyntaf. Ond y pwynt yn yr achos penodol hwn oedd bod y diswyddiad yn gysylltiedig â chyhuddiadau a wnaed yn ei erbyn.
Mae ffordd arall y gallai'r Prif Weinidog fod wedi ymdrin â hyn, gan fod Carl Sargeant, fel Gweinidog y Goron, yn cael ei lywodraethu gan y cod ymddygiad gweinidogol hefyd, sy'n dweud bod disgwyl i Weinidogion y Goron ymddwyn mewn ffordd egwyddorol sy'n cynnal y safonau uchaf o wedduster.
Ac mae Damian Green, y Prif Ysgrifennydd Gwladol, wedi bod yn destun honiadau o ymddygiad rhywiol amhriodol, ac mae'r rheini'n cael eu hymchwilio nid gan ymchwiliad mewnol gan ei blaid, ond gan Sue Gray, sef cyfarwyddwr cyffredinol tîm gwedduster a moeseg y gwasanaeth sifil. Ar y llaw arall, y trywydd a ddewiswyd gan y Prif Weinidog oedd anfon ei gynghorydd arbennig i siarad â'r achwynwyr. Dywed y cyfreithwyr sy'n gweithredu ar ran teulu Carl Sargeant erbyn hyn bod penodi ymgyrchydd gwleidyddol o dan yr amgylchiadau hyn, heb unrhyw arbenigedd penodol o ran cynnal ymchwiliad disgyblu rhagarweiniol, mewn gwirionedd yn rhagfarnu canlyniad y broses hon, ac mor annheg i'r rheini sy'n gwneud y cyhuddiadau ag i'r rheini sy'n destun iddynt. Oherwydd os oes ansicrwydd nawr ynghylch hygrededd unrhyw dystiolaeth a achosir gan hynny, oherwydd, fel y mae cyfreithwyr teulu Carl Sargeant wedi ei ddweud, ceir posibilrwydd gwirioneddol bod tystiolaeth tystion yn cael ei chamddefnyddio ac oherwydd bod sgyrsiau niferus gyda thystion gan Swyddfa'r Prif Weinidog yn creu ansicrwydd ynghylch yr hygrededd hwnnw, mae wir yn tanseilio'r broses gyfan i bawb sy'n gysylltiedig â hi. Felly, oni fyddai'n well yn y dyfodol i'r pethau hyn gael eu harchwilio yn annibynnol ar y broses wleidyddol ei hun?
Rwy'n meddwl bod rhaid i ni fod yn ofalus iawn o ran awgrymu—. Mae'r geiriau y mae wedi eu defnyddio—. 'Posibilrwydd gwirioneddol o gamddefnyddio' yn awgrym difrifol dros ben a byddai angen tystiolaeth gref iawn i'w gefnogi. Mae'r teulu wedi gofyn am ymchwiliad annibynnol. Rwyf i wedi sicrhau bod camau yn cael eu cymryd bellach i'r ymchwiliad annibynnol hwnnw gael ei gynnal. Ni fyddai'n iawn i'r teulu pe bawn i'n trafod manylion y digwyddiadau oherwydd byddai'n ymddangos yn gyfleus i mi wneud hynny—nid wyf yn fodlon gwneud hynny— yn hytrach na chaniatáu i'r ymchwiliad gael ei gynnal yn llawn ac yna, wrth gwrs, i bob digwyddiad gael ei ystyried bryd hynny. Rwy'n sylweddoli bod rhai pobl yn credu fy mod i'n osgoi'r mater o ganlyniad i ddweud hynny, ond rwyf yn meddwl ei bod hi'n hynod bwysig bod hyn i gyd yn cael ei archwilio. Rwyf wedi dweud bod hyn yn bwysig. Rwy'n deall hynny. Mae'n bwysig i'r teulu. Ond mae'n bwysig bod hyn i gyd yn cael ei archwilio a bod darlun llawn yn cael ei gyflwyno ar yr adeg iawn. Rwy'n credu bod y teulu'n haeddu hynny.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwyf i eisoes wedi mynegi fy marn dros y penwythnos ynglŷn â'r sefyllfa anodd sy'n wynebu Llywodraeth Cymru ac, wrth gwrs, gwleidyddiaeth Cymru yn gyffredinol. Nid yw Plaid Cymru yn fodlon gwneud datganiadau cynamserol ynghylch dyfodol gwleidyddol unrhyw un; nid yw'r materion wedi cael eu datrys eto ac nid yw'r penderfyniadau a wnaed wedi eu harchwilio eto. Rydym ni yn credu bod cwestiynau y mae'n rhaid eu hateb ac rydym ni wedi galw am yr ymchwiliad annibynnol ac yn cefnogi hynny. Gyda'r cwest wedi dechrau eisoes, a allwch chi gadarnhau'r amserlen ar gyfer yr ymchwiliad annibynnol i'r amgylchiadau yn arwain at farwolaeth Carl Sargeant?
Y peth cyntaf i'w wneud, wrth gwrs, yw penodi Cwnsler y Frenhines, i'r cylch gorchwyl gael ei bennu, ac yna, wrth gwrs, mae'n fater i'r Cwnsler yn gyfan gwbl, a bydd yn gweithredu ar hyd braich. Bydd angen i'r broses honno fynd rhagddi cyn gynted â phosibl bellach. Sylwais mai un o'r sylwadau a wnaeth y crwner ddoe oedd bod—. Roedd yn ymddangos ei fod yn awgrymu y byddai'r ymchwiliad yn dylanwadu ar un o ganlyniadau ei gwest. Mae angen i ni gael eglurhad beth yn union y mae hynny'n ei olygu, pa un a yw'n dymuno i'r ymchwiliad ddod i ben cyn y cwest ai peidio. Rwy'n credu fod hynny'n rhywbeth y mae angen ei egluro, ond, o'm safbwynt i, rwyf i eisiau gwneud yn siŵr bod materion yn mynd rhagddynt mor gyflym â phosibl nawr.
Ac rwy'n credu y gallwn ni dybio, Prif Weinidog, cyn gynted ag y bydd yr wybodaeth yn dod ar gael, y byddech chi'n barod i'w rhannu gyda'r Cynulliad hefyd. Ar ôl yr wythnos diwethaf, ceir cwestiynau ynghylch sut y gallwn ni sicrhau yr ymdrinnir â datgeliadau mewn ffordd sy'n deg i bawb dan sylw. Nawr, rwyf wedi canfod fy hun yn gofyn: sut mae gennym ni fel pleidiau gwleidyddol yr adnoddau a'r personél sydd wedi'u hyfforddi i ymdrin â honiadau ac i weithredu mewn ffordd dryloyw, neu a ellid ymdrin â nhw mewn ffordd fwy annibynnol yn y dyfodol? Efallai y byddai mwy o ymddiriedaeth mewn awdurdod niwtral ac annibynnol, a fyddai'n fwy diduedd, yn fwy tryloyw nag y gall pleidiau gwleidyddol fod.
Nawr, efallai na fydd gan swyddfa'r Comisiynydd Safonau yr adnoddau ar hyn o bryd i ymdrin â datgeliadau o aflonyddu neu gamymddwyn arall yn llawn. Ceir cwestiwn hefyd ynghylch cosbau—pa fath o gosbau y gellid eu rhoi ar bobl. A ydych chi'n credu y gellid rhoi adnoddau gwell i swyddfa'r Comisiynydd Safonau, ac y dylai hefyd ystyried cosbau ystyrlon i ymdrin â datgeliadau o'r fath?
Rwy'n credu bod arweinydd Plaid Cymru wedi codi pwynt eithriadol o bwysig, sef: sut gallwn ni greu proses gwynion sy'n wahanol—nid yn wannach, ond yn wahanol—proses gwynion sy'n cefnogi pob parti? Mae'n rhaid i ni fod yn onest: gwlad fach ydym ni a phleidiau bach ydym ni i gyd. Credaf fod rhinwedd mawr mewn ymchwilio, gyda'r Llywydd, sut y gallai'r Comisiynydd Safonau newid swyddogaethau o'r swyddogaeth bresennol. Rwy'n credu fod hynny'n rhywbeth y gellid cael trafodaeth ddefnyddiol yn ei gylch ymhlith y pleidiau.
Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod bod aflonyddu rhywiol yn digwydd mewn mannau eraill ym myd gwleidyddiaeth ac mewn diwydiannau eraill hefyd. A dweud y gwir, gallwn ddweud ei fod yn bodoli mewn bron pob agwedd ar fywyd. Mae'n dal i fod yn broblem a ddioddefir gan lawer o bobl—ac, nid yn unig, ond yn bennaf, gan fenywod. Ac mae'n dal i fod yn broblem y mae angen mynd i'r afael â hi. Un pwynt y mae angen i ni ei ystyried—pob un ohonom ni, rwy'n credu—yw sut y gallwn ni greu'r amodau a'r diwylliant i'r rheini sydd wedi dioddef aflonyddu rhywiol allu gwneud datgeliadau yn ddiogel yn y dyfodol. Gan edrych y tu hwnt i'r mater o ddatgeliadau ac anhysbysrwydd, a allwch chi ddweud wrthym pa gamau y gellid eu cymryd i sicrhau bod agweddau'n newid, fel y gellir atal aflonyddu rhag digwydd yn y lle cyntaf?
Credaf fod hwnnw'n gwestiwn i'r holl bleidiau, yn gweithio gyda'i gilydd, i'w ddatrys. Mae'n rhaid i ni greu sefyllfa lle nad yw achwynwyr yn teimlo nad ydynt yn gallu dod ymlaen. Mae'n rhaid i ni greu system—ydym, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod pob system yn deg; mae pawb yn deall hynny. O'm safbwynt i, rwyf i eisiau gwneud yn siŵr, gan weithio gyda'n gilydd fel pleidiau gwleidyddol, y gallwn ni greu'r awyrgylch iawn a hefyd gwneud yn siŵr, wrth gwrs, ein bod ni'n gallu sicrhau bod y prosesau—os bydd prosesau newydd yn cael eu dilyn yn y dyfodol, eu bod nhw'n berthnasol i bob parti yn gyfartal.
Ceir nifer o gwestiynau, rwy'n credu, a fydd yn cael eu gofyn. Mae arweinydd Plaid Cymru yn llygad ei lle i ddweud ei bod yn sicr y bydd cwestiynau. Rwy'n derbyn hynny, ac mae'r rheini'n gwestiynau y mae pobl eisiau'r atebion iddynt, ac rwy'n derbyn hynny hefyd. Rwy'n credu, fel pleidiau gwleidyddol, bod angen i ni weld a oes ffordd o newid y ffordd y mae'r Cynulliad yn ymdrin â'r materion hyn ac mae'r rheini'n sgyrsiau y mae'n bosibl iawn y bydd angen i ni eu cael dros yr ychydig wythnosau nesaf.
Cwestiwn 3—Jenny Rathbone.