Rhaglen Cyni

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 14 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:06, 14 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, yr ateb i hynny yw ein bod ni. Mae'n rhaid i ni gydbwyso, wrth gwrs, y pŵer sydd gennym ni i fenthyg arian yn erbyn yr angen i ad-dalu'r arian hwnnw a'r pwysau a fydd ar y gyllideb refeniw yn y blynyddoedd i ddod. Rydym ni'n symud ymlaen â'r model buddsoddi cydfuddiannol, fel y mae'r Aelod wedi dweud, a byddwn yn edrych ar bob model benthyg ariannol darbodus er mwyn cyflawni dros bobl Cymru.