Blaenoriaethau Caffael Cyhoeddus

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 14 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:01, 14 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Gwn fod ei phlaid hi wedi mynegi safbwyntiau cryf iawn—safbwyntiau yr wyf i'n cytuno â nhw—na ddylid atal pobl rhag cael triniaeth dros y ffin. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, pan fo'r driniaeth ar gael, y dylai bobl allu gwneud defnydd ohoni. Ni ddylem geisio creu sefyllfa lle'r ydym ni'n ceisio sicrhau bod pob triniaeth ar gael yng Nghymru. Bydd rhywfaint o driniaeth arbenigol y bydd rhaid cael gafael arni o ddinasoedd mwy. Pan allwn ni ddarparu triniaeth, byddwn yn gwneud hynny. Un enghraifft o hynny yw'r ganolfan gofal dwys newyddenedigol isranbarthol, pan mai'r argymhelliad gwreiddiol oedd symud y gwasanaeth allan o Gymru. Comisiynais adolygiad ac, o ganlyniad i'r adolygiad hwnnw, roedd yn bosibl symud ymlaen wedyn gyda'r SuRNICC. Felly, pan allwn ni, byddwn yn ei wneud. Ond, ni ddylem ni ofni caffael gwasanaethau y tu allan i Gymru os mai dyna sydd ei angen ar gleifion.