2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Tachwedd 2017.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau caffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru? OAQ51299
Mae polisi caffael yn canolbwyntio ar ymateb i her cyni cyllidol gan sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl i fusnesau Cymru a chreu swyddi cynaliadwy wrth i ni adael yr UE.
Diolch. Prif Weinidog, fel y gwyddoch, mae nifer y bobl sy'n aros mwy na blwyddyn am lawdriniaeth yng Nghymru wedi cynyddu 400 y cant eleni. Nawr, er mwyn lleihau'r rhestrau hynny, mae byrddau iechyd yn cael eu gorfodi i gaffael rhai gwasanaethau a thriniaethau iechyd y tu allan i Gymru. Yn fy Mwrdd Iechyd fy hun, rwy'n ymwybodol o sawl atgyfeiriad i glinig y Priory ar gyfer y rheini sydd eisiau defnyddio gwasanaethau a thriniaethau iechyd meddwl hanfodol. Er mwyn lleihau'r rhestrau aros ar gyfer llawdriniaethau na ellir eu cyflawni yn brydlon yng Nghymru, mae ein GIG bellach yn gwario £255 miliwn ar gaffael y driniaeth honno ar gyfer pobl y tu allan i Gymru mewn un flwyddyn, a 46,000 o gleifion yw cyfanswm y cleifion.
Prif Weinidog, mae datganoli gennym ers 20 mlynedd erbyn hyn, ac eto rydym ni'n dal i orfod caffael gwasanaethau iechyd y mae wir eu hangen y tu allan i Gymru. Pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod ein cleifion yn derbyn y driniaeth sydd ei hangen arnynt mewn da bryd ac, yn bwysicaf oll, yn eu hardaloedd eu hunain ac ar gael yn fwy nag y mae ar hyn o bryd?
Gwn fod ei phlaid hi wedi mynegi safbwyntiau cryf iawn—safbwyntiau yr wyf i'n cytuno â nhw—na ddylid atal pobl rhag cael triniaeth dros y ffin. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, pan fo'r driniaeth ar gael, y dylai bobl allu gwneud defnydd ohoni. Ni ddylem geisio creu sefyllfa lle'r ydym ni'n ceisio sicrhau bod pob triniaeth ar gael yng Nghymru. Bydd rhywfaint o driniaeth arbenigol y bydd rhaid cael gafael arni o ddinasoedd mwy. Pan allwn ni ddarparu triniaeth, byddwn yn gwneud hynny. Un enghraifft o hynny yw'r ganolfan gofal dwys newyddenedigol isranbarthol, pan mai'r argymhelliad gwreiddiol oedd symud y gwasanaeth allan o Gymru. Comisiynais adolygiad ac, o ganlyniad i'r adolygiad hwnnw, roedd yn bosibl symud ymlaen wedyn gyda'r SuRNICC. Felly, pan allwn ni, byddwn yn ei wneud. Ond, ni ddylem ni ofni caffael gwasanaethau y tu allan i Gymru os mai dyna sydd ei angen ar gleifion.
Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio ysgogwyr caffael yng nghyd-destun cynllun cyflawni tasglu'r Cymoedd i greu swyddi a hybu ffyniant yn y Cymoedd gogleddol?
Mae cynllun gweithredu tasglu'r Cymoedd yn ein hymrwymo i ddefnyddio caffael cyhoeddus yn arloesol, fel y gallwn fanteisio ar y potensial creu swyddi o'r buddsoddiadau seilwaith mawr sydd gennym ni yng Nghymru. Er enghraifft, bydd rhaglenni fel metro de Cymru, cynlluniau ffyrdd pwysig fel yr M4, a'r gwaith sy'n parhau i ddeuoli'r A465 yn ymsefydlu dull budd cymunedol i sicrhau bod canlyniadau'n cael eu monitro'n ofalus fel bod cymunedau'n cael y budd mwyaf posibl o'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu yn eu hardaloedd.