Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Diolch i chi, Llywydd. Prif Weinidog, yn ddiweddar, rydym ni wedi clywed honiadau gan gyn-Weinidog cabinet a chan uwch-gynghorydd arbennig bod, yn y Llywodraeth Cynulliad diwethaf yr oeddech chi'n Brif Weinidog arni, bwlio, gemau meddwl, ffafriaeth, tanseilio personol bwriadol, ac y caniatawyd i'r diwylliant hwnnw ffynnu heb gael ei atal. Hefyd, dywedodd y cynghorydd arbennig bod yr ymddygiad yn 'wenwyn pur'. A gaf i ofyn i chi wneud sylwadau ar yr honiadau hynny, Prif Weinidog, oherwydd, os ydyn nhw'n wir, yna nid dyna'r ffordd i redeg Llywodraeth, nage?