Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 14 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:16, 14 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n meddwl bod rhaid i ni fod yn ofalus iawn o ran awgrymu—. Mae'r geiriau y mae wedi eu defnyddio—. 'Posibilrwydd gwirioneddol o gamddefnyddio' yn awgrym difrifol dros ben a byddai angen tystiolaeth gref iawn i'w gefnogi. Mae'r teulu wedi gofyn am ymchwiliad annibynnol. Rwyf i wedi sicrhau bod camau yn cael eu cymryd bellach i'r ymchwiliad annibynnol hwnnw gael ei gynnal. Ni fyddai'n iawn i'r teulu pe bawn i'n trafod manylion y digwyddiadau oherwydd byddai'n ymddangos yn gyfleus i mi wneud hynny—nid wyf yn fodlon gwneud hynny— yn hytrach na chaniatáu i'r ymchwiliad gael ei gynnal yn llawn ac yna, wrth gwrs, i bob digwyddiad gael ei ystyried bryd hynny. Rwy'n sylweddoli bod rhai pobl yn credu fy mod i'n osgoi'r mater o ganlyniad i ddweud hynny, ond rwyf yn meddwl ei bod hi'n hynod bwysig bod hyn i gyd yn cael ei archwilio. Rwyf wedi dweud bod hyn yn bwysig. Rwy'n deall hynny. Mae'n bwysig i'r teulu. Ond mae'n bwysig bod hyn i gyd yn cael ei archwilio a bod darlun llawn yn cael ei gyflwyno ar yr adeg iawn. Rwy'n credu bod y teulu'n haeddu hynny.