Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Rwy'n credu ei bod hi'n hynod bwysig, pan fydd gan bobl bryderon, eu bod nhw'n gallu mynegi'r pryderon hynny trwy broses gyfrinachol. Nid wyf i'n credu mai yn y parth cyhoeddus y dylid gwneud y pethau hyn, ac rwy'n gwahodd pobl i ddod ymlaen gydag unrhyw bryderon y gallai fod ganddynt a chysylltu â'm swyddfa i neu gysylltu â'r Ysgrifennydd Parhaol fel y gallaf wneud asesiad o'r hyn y dywedwyd oedd yn digwydd bryd hynny.