Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwyf i eisoes wedi mynegi fy marn dros y penwythnos ynglŷn â'r sefyllfa anodd sy'n wynebu Llywodraeth Cymru ac, wrth gwrs, gwleidyddiaeth Cymru yn gyffredinol. Nid yw Plaid Cymru yn fodlon gwneud datganiadau cynamserol ynghylch dyfodol gwleidyddol unrhyw un; nid yw'r materion wedi cael eu datrys eto ac nid yw'r penderfyniadau a wnaed wedi eu harchwilio eto. Rydym ni yn credu bod cwestiynau y mae'n rhaid eu hateb ac rydym ni wedi galw am yr ymchwiliad annibynnol ac yn cefnogi hynny. Gyda'r cwest wedi dechrau eisoes, a allwch chi gadarnhau'r amserlen ar gyfer yr ymchwiliad annibynnol i'r amgylchiadau yn arwain at farwolaeth Carl Sargeant?