Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Mae cynllun gweithredu tasglu'r Cymoedd yn ein hymrwymo i ddefnyddio caffael cyhoeddus yn arloesol, fel y gallwn fanteisio ar y potensial creu swyddi o'r buddsoddiadau seilwaith mawr sydd gennym ni yng Nghymru. Er enghraifft, bydd rhaglenni fel metro de Cymru, cynlluniau ffyrdd pwysig fel yr M4, a'r gwaith sy'n parhau i ddeuoli'r A465 yn ymsefydlu dull budd cymunedol i sicrhau bod canlyniadau'n cael eu monitro'n ofalus fel bod cymunedau'n cael y budd mwyaf posibl o'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu yn eu hardaloedd.