Tlodi Plant

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 14 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:25, 14 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu, yn gyntaf oll, os edrychwn ni ar ein ffigurau, ein bod ni wedi gweld cynnydd i'r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a gostyngiad i'r gyfradd ddiweithdra yn hanesyddol, ond nid yw'n ddigon dim ond edrych ar ba un a yw pobl mewn gwaith ai peidio, oherwydd mae'n rhaid i ni edrych y tu hwnt i hynny a deall beth mae pobl yn ei ennill. Roeddem ni'n arfer dweud, os oedd pobl yn dod o hyd i swydd yna roedd hwnnw'n llwybr allan o dlodi, ac eto rydym ni'n gwybod bod tlodi mewn gwaith yn un o'r melltithion sydd gennym ni. Rydym ni'n gwybod—rydym ni wedi clywed straeon am nyrsys yn gorfod defnyddio banciau bwyd. Dyna pam mae hi mor bwysig, rwy'n credu, nawr, i Lywodraeth y DU lacio rhwymau cyni cyllidol, i arian gael ei roi ar gael i'r Llywodraethau datganoledig wneud yn siŵr y gallwn ni geisio gwella nawr incymau ein gweithwyr sector cyhoeddus, y mae llawer ohonynt, wrth gwrs, wedi cael trafferthion o ran eu codiadau cyflog ers rhai blynyddoedd.