Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Diolch. Rydym ni'n gwybod bod y ffigurau'n dangos, yn gyffredinol, bod plant sy'n cael eu magu ar aelwydydd sy'n gweithio yn gwneud yn well yn yr ysgol ac mewn bywyd fel oedolyn. Sut ydych chi'n ymateb i'r pryder a fynegwyd ers cyhoeddiad diweddar ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer 2016, sy'n dangos bod nifer y plant sy'n byw mewn aelwydydd di-waith tymor hir wedi gostwng gan 92,000 ledled y DU y llynedd—i lawr yn yr Alban, yng Ngogledd Iwerddon ac yn Lloegr, ac mae wedi gostwng 0.5 miliwn ers 2010 mewn gwirionedd—ond wedi cynyddu yng Nghymru?