Rhaglen Cyni

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 14 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:04, 14 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, mae'n hynod o bwysig bod y £3.5 biliwn o doriadau heb eu neilltuo yn cael eu diddymu, i wneud yn siŵr ein bod yn gallu bod mewn sefyllfa lle nad ydym yn wynebu maint y toriadau hynny. Yn ail, mae'n hynod bwysig nawr, rwy'n credu, pwmpio mwy o arian i mewn i'r economi, er mwyn sicrhau bod mwy o arian ar gyfer buddsoddi, i wneud yn siŵr y gellir creu swyddi o ganlyniad, ac, wrth gwrs, i alluogi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn wir, i allu buddsoddi yn y seilwaith sydd ei angen ar Gymru a'r Alban.