Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Rwy'n bryderus am y cynnydd sylweddol a ragwelir i dlodi plant yng Nghymru, wedi ei ysgogi gan newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i dreth a budd-daliadau. Mae ein strategaeth tlodi plant yn cyflwyno amcanion ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant ac rydym ni'n cymryd camau i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.