Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi cyfrifo y byddwn ni'n gweld cynnydd sydyn o 7 y cant i gyfradd y cynnydd mewn tlodi plant yng Nghymru, sy'n amlwg yn ystadegol enfawr. Rydym ni'n gwybod bod y rhai sy'n derbyn budd-daliadau oedran gweithio yn gweld toriad gwirioneddol i faint o arian y maen nhw'n ei gael i fyw arno. Beth ydych chi'n credu y gellir ei wneud i liniaru polisïau Llywodraeth y DU, y mae'n amlwg nad ni sy'n gyfrifol amdanynt, ond beth allwn ni yng Nghymru ei wneud i geisio lliniaru'r effaith drychinebus y mae hyn yn debygol o'i chael ar blant yn y sefyllfa hon?