Datblygiadau Cloddio Glo Brig

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 14 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:45, 14 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Na allaf. Mae'n fater i Gyngor Merthyr, wrth gwrs. Nhw sydd â'r cyfrifoldeb am orfodi cynllunio. Rwyf i wedi gweld—nid Ffos-y-frân—ond rwyf i wedi gweld achosion mewn mannau eraill, lle mae cloddio glo brig wedi gorffen, a safleoedd yn dal i fod heb eu hadfer. Mae hynny oherwydd, yn fy marn i, problem gyda'r bondiau yr oedd yn ofynnol i gwmnïau eu cynhyrchu yn y dyddiau pan breifateiddiwyd glo. Gosodwyd cyfyngiad, os rwy'n deall yn iawn, ar y bondiau yr oedd yn ofynnol iddyn nhw eu gosod, ac nid yw'r bondiau hynny'n ddigonol i dalu am adfer y tir mewn rhai achosion. Mae honno'n broblem hanesyddol, ond mater i Gyngor Merthyr yw esbonio. Nid wyf yn ymwybodol o'r amgylchiadau o ran pam maen nhw wedi gwneud y penderfyniad y maen nhw wedi'i wneud.