Tagfeydd ar Draffyrdd a Chefnffyrdd

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 14 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:33, 14 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Mae hyn yn rhywbeth, wrth gwrs, yr ydym ni eisiau sicrhau ei fod yn rhan bwysig o weithio yn y dyfodol. O ran gweithio hyblyg, gallaf ddweud ein bod ni wedi ariannu cydgysylltwyr cynllun teithio sydd wedi gweithio gyda chyflogwyr ledled Cymru i annog teithio cynaliadwy. Gweithiodd y cydgysylltwyr cynllun teithio gyda sefydliadau o amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys Llywodraeth Leol, iechyd, addysg, cwmnïau angori a chwmnïau o bwys rhanbarthol ledled Cymru. Darparwyd cyngor a chymorth ganddynt ar y mesurau y gallai busnesau eu mabwysiadu i leihau teithiau mewn car a hyrwyddo teithio cynaliadwy trwy weithredu cynlluniau teithio. Yn rhan o'r mesurau hynny, rhoddwyd cyngor ynghylch sut i hyrwyddo teithio llesol, rhannu ceir, fideo-gynadledda, gweithio gartref ac, wrth gwrs, gweithio hyblyg.