Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Prif Weinidog, rwy'n croesawu'n fawr buddsoddiad Llywodraeth Cymru a chyngor Rhondda Cynon Taf ar hyd ardaloedd fel yr A4119. Ond ni waeth faint yr ydym ni'n ei fuddsoddi yn y ffyrdd yn y fan honno, maen nhw'n dal i ddod yn rhaff tagfeydd o amgylch ardal Taf-Elái a'r Rhondda o ran traffig. Mae'n rhaid mai'r unig wir ateb yw ymestyn y metro, fel yr amlinellwyd, o ran Beddau hyd at Lantrisant. Tybed, Prif Weinidog, a allwch chi gadarnhau bod y cynlluniau hynny yn dal yn rhan o gynlluniau metro'r Llywodraeth er mwyn datrys hynny, yn enwedig o gofio maint y datblygiadau tai yn yr ardaloedd hynny.