Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 14 Tachwedd 2017.
I ddychwelyd at ardal fenter Glannau Port Talbot, yn amlwg, fel y mae David Rees wedi ei amlinellu, nid yw pobl leol eisiau carchar mawr ar y safle hwnnw ac, fel y tirfeddiannwr, gall Llywodraeth Cymru ei atal. Felly, y cwestiwn y mae pobl yn ei ofyn yw: 'Beth ydych chi'n ei wneud i atal gwerthu'r tir hwn i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder?'