Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Brif Weinidog, mae nifer o fudiadau wedi cysylltu gyda fi er mwyn datgan pryder am eich bwriad i ddiddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg a gwanhau hawliau sylfaenol siaradwyr Cymraeg. Ond, yn anffodus, mae eich Llywodraeth chi wedi cyhuddo'r mudiadau iaith o fod yn rhy geidwadol. Mae grwpiau fel mentrau iaith a'r Mudiad Meithrin yn gwneud llawer i helpu'r iaith. Yn dilyn pryderon gan nifer o fudiadau ac arbenigwyr yn y maes hwn, ydy hi'n amser i chi ailystyried y penderfyniad i ddiddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg?