Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Rydym ni wedi ymgynghori ar y Bil ei hunan. Rydym ni nawr, wrth gwrs, yn mynd i edrych ar yr ymatebion sydd wedi dod mewn. Mae'n hollbwysig bod y materion hynny yn cael ystyriaeth fanwl. Nod y Llywodraeth yw gwella'r sefyllfa a chryfhau yr hawliau sydd ar gael gan siaradwyr er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu cyrraedd y targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ac felly beth rydym ni'n ei wneud nawr yw ystyried beth mae mudiadau a chyrff eraill wedi dweud er mwyn gweld fel yn gwmws gallwn ni ddeall eu concerns nhw.