4. & 5. Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 — Gohiriwyd o 7 Tachwedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 14 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 3:11, 14 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Suzy, rwy'n diolch ichi am y cwestiwn hwn, ac nid oes swyddogion wedi codi gyda mi ar hyn o bryd unrhyw bryderon am unrhyw ddiffyg o ran capasiti, ond byddaf yn siŵr o roi mwy o ystyriaeth i hynny ac ymchwilio i hynny eto. Rwy'n gwybod mai'r diben sydd wrth wraidd y broses newydd ger ein bron, yn amodol ar basio'r offerynnau statudol hyn heddiw, mewn gwirionedd yw creu system fwy cyfeillgar o gofrestru ar-lein, system symlach, haws ei thrin a mwy effeithlon hefyd. Nid wyf wedi clywed y materion hynny'n cael eu codi o ran capasiti, ond âf yn ôl a gwirio hyn a byddaf yn ysgrifennu at Suzy hefyd,FootnoteLink ac at Aelodau eraill sydd â diddordeb, yn arbennig felly os oes unrhyw bryderon yn bodoli a dangos sut y maen nhw wedi cael eu goresgyn.