– Senedd Cymru am 3:06 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Gan hynny, rwy'n galw ar y Gweinidog dros blant a gwasanaethau cymdeithasol i gynnig y cynigion. Huw Irranca Davies.
Cynnig NDM6554 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Medi 2017.
Cynnig NDM6553 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynigion.
Fe gafodd y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) ei basio yn unfrydol bron i ddwy flynedd yn ôl. Mae'n darparu fframwaith statudol i reoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae cyfres sylweddol o is-ddeddfwriaeth yn llifo o'r Ddeddf ac mae'n bwysig, er lles y bobl sy'n derbyn gofal a chymorth a'r darparwyr, inni gael hyn yn iawn. Mae fy swyddogion wedi cydweithio'n agos gyda'r rheoleiddiwr a'r sector i ddatblygu rheoliadau sy'n gymesur, yn gadarn ac yn ateb y diben.
Mae'r ddwy set o reoliadau sydd ger eich bron chi heddiw yn elfennau sylfaenol o'r system newydd. Fe gawson nhw eu datblygu yn ystod cam un y gweithrediad ac roedden nhw'n destun ymgynghoriad llawn 12 wythnos. Mae'r Ddeddf yn mynnu bod darparwyr gwasanaethau sy'n cael eu rheoleiddio yn cofrestru gyda Gweinidogion Cymru—yn ymarferol, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Mae'n sefydlu set ddiwygiedig o brosesau ar gyfer cofrestru ac yn dod â dull sy'n seiliedig ar wasanaeth i rym, a fydd yn galluogi darparwyr i wneud un cais sy'n cwmpasu eu holl wasanaethau. Gellir amrywio cofrestriadau wedi hynny i ganiatáu ar gyfer gwasanaethau a lleoliadau ychwanegol.
I droi at Reoliadau'r Gwasanaethau a Reoleiddir (Cofrestru) (Cymru) 2017, mae'r rhain yn ymdrin â'r gofynion ar gyfer ceisiadau i gofrestru ac ar gyfer ceisiadau i amrywio'r cofrestriad hwnnw. Mae'r rheini'n cynnwys yr wybodaeth a'r dogfennau sy'n ofynnol wrth wneud cais. Bydd hyn yn sicrhau y bydd digon o wybodaeth gan yr AGGCC i wneud penderfyniad deallus ynglŷn â'r gwasanaeth arfaethedig ac addasrwydd yr ymgeisydd i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw. Bydd hefyd yn rhoi eglurder a sicrwydd i ddarparwyr o ran y math o wybodaeth y gofynnir amdani.
Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr y gwasanaethau gynhyrchu datganiadau blynyddol am y gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ar wefan AGGCC ochr yn ochr ag adroddiad arolygu'r darparwr. Mae llawer o'r manylion a fydd i'w cynnwys mewn datganiad blynyddol ar wyneb y Ddeddf. Er hynny, mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 yn nodi rhagor o wybodaeth sydd i'w rhoi am y gwasanaeth, staff ac unrhyw lety sydd yn cael ei ddarparu, yn ogystal â threfniadau i hyfforddi staff a chynllunio ar gyfer y gweithlu. Bydd hyn yn sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth gywir, berthnasol a chymaradwy, er mwyn helpu i benderfynu ar y gwasanaeth gorau i ddiwallu eu hanghenion.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod darparwyr yn defnyddio ffurflen ddatganiad blynyddol ar-lein. Bydd hyn yn sicrhau bod yr holl ddarparwyr, waeth beth fyddo'u maint neu eu strwythur corfforaethol, yn llenwi'r ffurflen mewn ffordd gyson. Er mai ymdrin â materion technegol a wna'r Rheoliadau hyn yn bennaf, maen nhw'n rhoi sail i ddarpariaethau allweddol y Ddeddf. Byddan nhw'n helpu i ddarparu mwy o dryloywder drwy sicrhau bod gwybodaeth ddefnyddiol ar gael i bawb yn rhwydd. Bydd hefyd yn cyflymu ac yn symleiddio'r cofrestru, yn lleihau'r baich ar ddarparwyr wrth sicrhau y gall y rheoleiddiwr gyflawni ei ddyletswyddau'n effeithiol. Mae'r ddwy set hyn o Reoliadau yn angenrheidiol er mwyn llwyddo â'r system newydd ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac rwy'n eu cymeradwyo i'r Aelodau.
A gaf i gynnig llongyfarchiadau i'r Gweinidog newydd? Rydw i'n edrych ymlaen at weithio gyda chi yn un o feysydd mwyaf pwysig y Cynulliad yma, sef gofal cymdeithasol.
Ni fyddwn yn gwrthwynebu'r rheoliadau hyn o gwbl. Ond yn yr ymatebion i waith y Llywodraeth yn hyn o beth cafwyd rhai ymholiadau ynghylch gallu'r system TGCh a fydd yn sail i'r system gofrestru a datganiadau blynyddol. Rwy'n credu mai'r ymateb oedd fod yr wybodaeth wedi cael ei chasglu a'i thraddodi i'r swyddogion perthnasol ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Rwy'n sylweddoli na fyddwch chi o bosib yn gallu ateb y cwestiwn hwn yn y Siambr heddiw gan eich bod newydd ddod i'ch swydd, Gweinidog, ond pa gadarnhad a gawsoch chi y gall y system TG ymdopi nawr â gofynion y rheoliadau hyn, gan ein bod ni oll yn gyfarwydd â'r ddeddfwriaeth ddiniwed a di-fudd iawn sydd wedi methu yn ei hamcanion oherwydd ei chyflenwad diffygiol yn unig? Diolch.
Suzy, rwy'n diolch ichi am y cwestiwn hwn, ac nid oes swyddogion wedi codi gyda mi ar hyn o bryd unrhyw bryderon am unrhyw ddiffyg o ran capasiti, ond byddaf yn siŵr o roi mwy o ystyriaeth i hynny ac ymchwilio i hynny eto. Rwy'n gwybod mai'r diben sydd wrth wraidd y broses newydd ger ein bron, yn amodol ar basio'r offerynnau statudol hyn heddiw, mewn gwirionedd yw creu system fwy cyfeillgar o gofrestru ar-lein, system symlach, haws ei thrin a mwy effeithlon hefyd. Nid wyf wedi clywed y materion hynny'n cael eu codi o ran capasiti, ond âf yn ôl a gwirio hyn a byddaf yn ysgrifennu at Suzy hefyd,FootnoteLink ac at Aelodau eraill sydd â diddordeb, yn arbennig felly os oes unrhyw bryderon yn bodoli a dangos sut y maen nhw wedi cael eu goresgyn.
Diolch yn fawr iawn ichi. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig o dan eitem 4. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly, ystyrir bod y cynnig wedi ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ac, eto, y cynnig yw cytuno ar y cynnig o dan eitem 5. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, caiff y cynnig hwnnw ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.