Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Mae'r ddwy set o reoliadau sydd ger eich bron chi heddiw yn elfennau sylfaenol o'r system newydd. Fe gawson nhw eu datblygu yn ystod cam un y gweithrediad ac roedden nhw'n destun ymgynghoriad llawn 12 wythnos. Mae'r Ddeddf yn mynnu bod darparwyr gwasanaethau sy'n cael eu rheoleiddio yn cofrestru gyda Gweinidogion Cymru—yn ymarferol, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Mae'n sefydlu set ddiwygiedig o brosesau ar gyfer cofrestru ac yn dod â dull sy'n seiliedig ar wasanaeth i rym, a fydd yn galluogi darparwyr i wneud un cais sy'n cwmpasu eu holl wasanaethau. Gellir amrywio cofrestriadau wedi hynny i ganiatáu ar gyfer gwasanaethau a lleoliadau ychwanegol.
I droi at Reoliadau'r Gwasanaethau a Reoleiddir (Cofrestru) (Cymru) 2017, mae'r rhain yn ymdrin â'r gofynion ar gyfer ceisiadau i gofrestru ac ar gyfer ceisiadau i amrywio'r cofrestriad hwnnw. Mae'r rheini'n cynnwys yr wybodaeth a'r dogfennau sy'n ofynnol wrth wneud cais. Bydd hyn yn sicrhau y bydd digon o wybodaeth gan yr AGGCC i wneud penderfyniad deallus ynglŷn â'r gwasanaeth arfaethedig ac addasrwydd yr ymgeisydd i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw. Bydd hefyd yn rhoi eglurder a sicrwydd i ddarparwyr o ran y math o wybodaeth y gofynnir amdani.
Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr y gwasanaethau gynhyrchu datganiadau blynyddol am y gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ar wefan AGGCC ochr yn ochr ag adroddiad arolygu'r darparwr. Mae llawer o'r manylion a fydd i'w cynnwys mewn datganiad blynyddol ar wyneb y Ddeddf. Er hynny, mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 yn nodi rhagor o wybodaeth sydd i'w rhoi am y gwasanaeth, staff ac unrhyw lety sydd yn cael ei ddarparu, yn ogystal â threfniadau i hyfforddi staff a chynllunio ar gyfer y gweithlu. Bydd hyn yn sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth gywir, berthnasol a chymaradwy, er mwyn helpu i benderfynu ar y gwasanaeth gorau i ddiwallu eu hanghenion.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod darparwyr yn defnyddio ffurflen ddatganiad blynyddol ar-lein. Bydd hyn yn sicrhau bod yr holl ddarparwyr, waeth beth fyddo'u maint neu eu strwythur corfforaethol, yn llenwi'r ffurflen mewn ffordd gyson. Er mai ymdrin â materion technegol a wna'r Rheoliadau hyn yn bennaf, maen nhw'n rhoi sail i ddarpariaethau allweddol y Ddeddf. Byddan nhw'n helpu i ddarparu mwy o dryloywder drwy sicrhau bod gwybodaeth ddefnyddiol ar gael i bawb yn rhwydd. Bydd hefyd yn cyflymu ac yn symleiddio'r cofrestru, yn lleihau'r baich ar ddarparwyr wrth sicrhau y gall y rheoleiddiwr gyflawni ei ddyletswyddau'n effeithiol. Mae'r ddwy set hyn o Reoliadau yn angenrheidiol er mwyn llwyddo â'r system newydd ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac rwy'n eu cymeradwyo i'r Aelodau.