Part of the debate – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Hoffwn i agor fy nghyfraniad i'r ddadl hon fel y Gweinidog dros blant drwy roi teyrnged i waith cyn-Ysgrifennydd y Cabinet, Carl Sargeant. Roedd Carl yn daer dros wella bywyd plant a phobl ifanc ledled Cymru, yn benderfynol o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w lles nhw ac i'w gobeithion nhw i'r dyfodol. Roedd ef yn sylweddoli yr effaith ddinistriol a gaiff profiadau andwyol plentyndod a phwysigrwydd atal ac ymyrryd. Cefnogodd y ganolfan ar gyfer Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, a chyflwynodd ardaloedd Plant yn Gyntaf i ddod â phobl a sefydliadau at ei gilydd i wella bywydau pobl. Roedd yn daer o blaid yr angen i fynd i'r afael â'r anfanteision sy'n wynebu plant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n gadael gofal, gan gyflwyno'r gronfa Dydd Gŵyl Ddewi a phwyso ar gyrff cyhoeddus i gydnabod eu cyfrifoldebau fel rhieni corfforaethol. Gweithiodd yn galed i hyrwyddo rhianta cadarnhaol i blant a pharatoi'r ffordd i'r deddfwriaeth ar gosbi plant yn gorfforol. Gweithiodd yn ddiflino i sicrhau bod hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu cydnabod a'u parchu bob amser ledled y Llywodraeth. Byddaf yn gwneud popeth yn fy ngallu i anrhydeddu a pharhau gyda'i waith rhagorol a'i ymrwymiad cadarn i blant a phobl ifanc, er cof amdano.
Fel Llywodraeth, rydym yn awyddus i bob plentyn yng Nghymru gael y cychwyn gorau posib mewn bywyd. Mae'r blynyddoedd cynnar yn flaenoriaeth allweddol yn ein rhaglen lywodraethu ac yn ein strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb'. Rydym yn canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles, canlyniadau addysgol a rhagolygon y dyfodol i'r holl blant a phobl ifanc. Serch hynny, ni ellir eu hystyried ar wahân. Mae cyswllt anorfod rhwng eu canlyniadau nhw o ran llesiant a theuluoedd â chanlyniadau rhieni, teuluoedd a chymunedau. Drwy weithio ar y cyd a gwrando ar leisiau'r plant eu hunain, ac ar y bobl ifanc eu hunain, gallwn sicrhau newid gwirioneddol a chynaliadwy. Mae'n bwysig inni gael y ddadl ystyrlon, reolaidd hon ar ein cyflawniadau yng Nghymru hyd yn hyn o ran hawliau plant, ond ni ddylai pethau ddod i ben yma. Mae angen inni barhau i wneud cynnydd nid yn unig yn Llywodraeth Cymru, ond drwy weithio ar y cyd â'r cyhoedd a'r trydydd sector, ac o fewn ein cymunedau, gan gynnwys gyda phlant a phobl ifanc.
Credaf ei bod yn hanfodol fod plant a phobl ifanc Cymru yn cael llais diduedd ac annibynnol—un a all hyrwyddo a diogelu eu buddiannau, ac sy'n herio gwaith y Llywodraeth ac eraill drwy lygaid hawliau plant. Mae hyn bellach yn bodoli yn swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â hi cyn bo hir i drafod sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd.
Yn ei hadroddiad blynyddol, mae'r Comisiynydd wedi pwysleisio ei chyflawniadau ym mlwyddyn gyntaf ei chynllun strategol tair blynedd, o ran gwaith prosiect a gwaith creiddiol. Mae hyn yn cynnwys 528 o achosion unigol a gafodd eu trin gan ymchwiliadau annibynnol y Comisiynydd a'r gwasanaeth cynghori. Er bod gweddill y ddadl hon yn debygol o ganolbwyntio ar argymhellion y Comisiynydd ar bolisïau cyffredinol a rhaglenni ar gyfer plant, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod pwysigrwydd y gwasanaeth y mae hi a'i swyddfa'n ei ddarparu i blant a phobl ifanc unigol sydd ag angen cymorth.
Yn adroddiad blynyddol eleni, mae'r Comisiynydd wedi cyflwyno 19 o argymhellion. Mae pedwar ar ddeg ohonynt yn ymwneud â rhoi i blant yr hyn sydd ei angen arnyn nhw, fel addysg, gofal iechyd a chymorth ychwanegol os ydyn nhw'n anabl. Mae pump ohonynt yn ymwneud â diogelwch, gan sicrhau eu bod yn ddiogel rhag niwed. Fel Llywodraeth, rydym i raddau helaeth iawn ar dir cyffredin gyda'r Comisiynydd. Rydym wedi cydweithio gyda hi ac eraill er budd plant a phobl ifanc a byddwn yn parhau i wneud hynny. Yn y flwyddyn ddiwethaf, er enghraifft, rydym wedi gweithio gyda'r Comisiynydd a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i wella trefniadau pontio ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal. Cafodd y gwaith cadarnhaol yn y maes hwn ei gydnabod yn yr adroddiad.
Rydym yn cyflawni ein hymrwymiad i drawsnewid y system ar gyfer cynorthwyo plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hawliau plant yn gynsail i fodoliaeth i'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Bydd y system newydd yn rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd proses sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn lle mae pawb yn gweithio gyda'i gilydd er eu lles. Yn amodol ar y Cynulliad yn pasio'r Bil dros yr wythnosau nesaf, dylai dderbyn Cydsyniad Brenhinol ar ddechrau 2018. Yna bydd ein pwyslais yn symud yn llwyr tuag at ei weithredu, a byddwn yn parhau i weithio gyda'r Comisiynydd i sicrhau bod y system newydd yn adlewyrchu'n llawn ddull sy'n seiliedig ar hawliau.
Bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi ei ymateb i adroddiad y Comisiynydd, gan gynnwys yr argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, ar neu cyn 30 Tachwedd. Felly bydd yr Aelodau yn deall pam nad wyf i am fanylu ar ein hymateb yn ystod y ddadl heddiw. Ond mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd i fanteisio hyd yr eithaf ar y cyfleoedd i wella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc a ddaw yn sgil ein rhaglenni, yn enwedig y rhai sydd wedi eu cyfeirio tuag at y blynyddoedd cynnar.
Mae'r dystiolaeth am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod—ACEs—yn dangos pwysigrwydd atal a nodi'n gynnar ac ymyrryd, a pham mae angen inni weithio ar y cyd i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cychwyn gorau posib i'w fywyd. Nid yw'r pwyslais presennol ar ACEs yn golygu, er hynny, nad ydym yn pryderu mwyach am effaith meysydd eraill o anfantais ar blant, yn enwedig esgeulustod a thlodi, a byddaf yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni ar gyfer plant a phobl ifanc.