– Senedd Cymru am 3:12 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Felly, rydym ni'n symud nawr at eitem 7, sef y ddadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru am 2016-17, a gafodd ei gohirio'r wythnos ddiwethaf. Rwy'n galw ar y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirpwy Lywydd, eto.
Hoffwn i agor fy nghyfraniad i'r ddadl hon fel y Gweinidog dros blant drwy roi teyrnged i waith cyn-Ysgrifennydd y Cabinet, Carl Sargeant. Roedd Carl yn daer dros wella bywyd plant a phobl ifanc ledled Cymru, yn benderfynol o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w lles nhw ac i'w gobeithion nhw i'r dyfodol. Roedd ef yn sylweddoli yr effaith ddinistriol a gaiff profiadau andwyol plentyndod a phwysigrwydd atal ac ymyrryd. Cefnogodd y ganolfan ar gyfer Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, a chyflwynodd ardaloedd Plant yn Gyntaf i ddod â phobl a sefydliadau at ei gilydd i wella bywydau pobl. Roedd yn daer o blaid yr angen i fynd i'r afael â'r anfanteision sy'n wynebu plant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n gadael gofal, gan gyflwyno'r gronfa Dydd Gŵyl Ddewi a phwyso ar gyrff cyhoeddus i gydnabod eu cyfrifoldebau fel rhieni corfforaethol. Gweithiodd yn galed i hyrwyddo rhianta cadarnhaol i blant a pharatoi'r ffordd i'r deddfwriaeth ar gosbi plant yn gorfforol. Gweithiodd yn ddiflino i sicrhau bod hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu cydnabod a'u parchu bob amser ledled y Llywodraeth. Byddaf yn gwneud popeth yn fy ngallu i anrhydeddu a pharhau gyda'i waith rhagorol a'i ymrwymiad cadarn i blant a phobl ifanc, er cof amdano.
Fel Llywodraeth, rydym yn awyddus i bob plentyn yng Nghymru gael y cychwyn gorau posib mewn bywyd. Mae'r blynyddoedd cynnar yn flaenoriaeth allweddol yn ein rhaglen lywodraethu ac yn ein strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb'. Rydym yn canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles, canlyniadau addysgol a rhagolygon y dyfodol i'r holl blant a phobl ifanc. Serch hynny, ni ellir eu hystyried ar wahân. Mae cyswllt anorfod rhwng eu canlyniadau nhw o ran llesiant a theuluoedd â chanlyniadau rhieni, teuluoedd a chymunedau. Drwy weithio ar y cyd a gwrando ar leisiau'r plant eu hunain, ac ar y bobl ifanc eu hunain, gallwn sicrhau newid gwirioneddol a chynaliadwy. Mae'n bwysig inni gael y ddadl ystyrlon, reolaidd hon ar ein cyflawniadau yng Nghymru hyd yn hyn o ran hawliau plant, ond ni ddylai pethau ddod i ben yma. Mae angen inni barhau i wneud cynnydd nid yn unig yn Llywodraeth Cymru, ond drwy weithio ar y cyd â'r cyhoedd a'r trydydd sector, ac o fewn ein cymunedau, gan gynnwys gyda phlant a phobl ifanc.
Credaf ei bod yn hanfodol fod plant a phobl ifanc Cymru yn cael llais diduedd ac annibynnol—un a all hyrwyddo a diogelu eu buddiannau, ac sy'n herio gwaith y Llywodraeth ac eraill drwy lygaid hawliau plant. Mae hyn bellach yn bodoli yn swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â hi cyn bo hir i drafod sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd.
Yn ei hadroddiad blynyddol, mae'r Comisiynydd wedi pwysleisio ei chyflawniadau ym mlwyddyn gyntaf ei chynllun strategol tair blynedd, o ran gwaith prosiect a gwaith creiddiol. Mae hyn yn cynnwys 528 o achosion unigol a gafodd eu trin gan ymchwiliadau annibynnol y Comisiynydd a'r gwasanaeth cynghori. Er bod gweddill y ddadl hon yn debygol o ganolbwyntio ar argymhellion y Comisiynydd ar bolisïau cyffredinol a rhaglenni ar gyfer plant, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod pwysigrwydd y gwasanaeth y mae hi a'i swyddfa'n ei ddarparu i blant a phobl ifanc unigol sydd ag angen cymorth.
Yn adroddiad blynyddol eleni, mae'r Comisiynydd wedi cyflwyno 19 o argymhellion. Mae pedwar ar ddeg ohonynt yn ymwneud â rhoi i blant yr hyn sydd ei angen arnyn nhw, fel addysg, gofal iechyd a chymorth ychwanegol os ydyn nhw'n anabl. Mae pump ohonynt yn ymwneud â diogelwch, gan sicrhau eu bod yn ddiogel rhag niwed. Fel Llywodraeth, rydym i raddau helaeth iawn ar dir cyffredin gyda'r Comisiynydd. Rydym wedi cydweithio gyda hi ac eraill er budd plant a phobl ifanc a byddwn yn parhau i wneud hynny. Yn y flwyddyn ddiwethaf, er enghraifft, rydym wedi gweithio gyda'r Comisiynydd a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i wella trefniadau pontio ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal. Cafodd y gwaith cadarnhaol yn y maes hwn ei gydnabod yn yr adroddiad.
Rydym yn cyflawni ein hymrwymiad i drawsnewid y system ar gyfer cynorthwyo plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hawliau plant yn gynsail i fodoliaeth i'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Bydd y system newydd yn rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd proses sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn lle mae pawb yn gweithio gyda'i gilydd er eu lles. Yn amodol ar y Cynulliad yn pasio'r Bil dros yr wythnosau nesaf, dylai dderbyn Cydsyniad Brenhinol ar ddechrau 2018. Yna bydd ein pwyslais yn symud yn llwyr tuag at ei weithredu, a byddwn yn parhau i weithio gyda'r Comisiynydd i sicrhau bod y system newydd yn adlewyrchu'n llawn ddull sy'n seiliedig ar hawliau.
Bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi ei ymateb i adroddiad y Comisiynydd, gan gynnwys yr argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, ar neu cyn 30 Tachwedd. Felly bydd yr Aelodau yn deall pam nad wyf i am fanylu ar ein hymateb yn ystod y ddadl heddiw. Ond mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd i fanteisio hyd yr eithaf ar y cyfleoedd i wella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc a ddaw yn sgil ein rhaglenni, yn enwedig y rhai sydd wedi eu cyfeirio tuag at y blynyddoedd cynnar.
Mae'r dystiolaeth am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod—ACEs—yn dangos pwysigrwydd atal a nodi'n gynnar ac ymyrryd, a pham mae angen inni weithio ar y cyd i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cychwyn gorau posib i'w fywyd. Nid yw'r pwyslais presennol ar ACEs yn golygu, er hynny, nad ydym yn pryderu mwyach am effaith meysydd eraill o anfantais ar blant, yn enwedig esgeulustod a thlodi, a byddaf yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni ar gyfer plant a phobl ifanc.
Edrychaf ymlaen at gael sgwrsio â'r comisiynydd plant, ag ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant ac, yn bwysicaf oll, â phlant a phobl ifanc ynghylch sut y gwnawn ni hynny. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Darren Millar.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i groesawu'r Gweinidog newydd i'w swydd? Rwy’n edrych ymlaen at ymgysylltu ag ef ar faterion plant a chydweithio ag ef lle y gallwn ddarganfod rhywfaint o dir cyffredin. Hefyd, hoffwn gofnodi fy nheyrnged i’w ragflaenydd, Carl Sargeant, a’r gwaith a wnaeth ar ran plant yma yng Nghymru. Roedd bob amser yn ddiffuant iawn yn y swyddogaeth honno, ac rwy’n gwybod ei fod yn angerddol am hyrwyddo agenda’r Llywodraeth.
Hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r comisiynydd a'i staff. Rwyf wedi cael cyswllt rhagorol gyda'r comisiynydd ers imi gymryd cyfrifoldeb dros y portffolio hwn fy hun, ac rwyf wir yn gwerthfawrogi’r gwaith y mae hi’n ei wneud i ymgysylltu â holl Aelodau'r Cynulliad yn y Siambr hon o bob plaid wleidyddol, ac, yn wir, y cymorth y mae hi’n ei roi o bryd i'w gilydd gyda darnau unigol o waith achos yn fy etholaeth i lle y ceir materion y credaf eu bod o arwyddocâd cenedlaethol. Mae hi bob amser yn barod iawn i helpu ac mae ei staff bob amser yn gyflym iawn i adrodd yn ôl ac i ymateb i bryderon unigol.
Mae'r adroddiad yn adroddiad eang iawn. Mae'n sôn am bob math o wahanol faterion, ond hoffwn ganolbwyntio ar ambell un, os caf. Un o'r pethau y mae’r comisiynydd plant ac, yn wir, y comisiynwyr o’i blaen wedi bod â diddordeb mawr mewn gweld yn cael ei sefydlu yng Nghymru yw gwasanaeth eiriolaeth cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf i gynnwys partneriaid o awdurdodau lleol, rwy'n meddwl, er mwyn gallu cyflwyno’r gwasanaeth eiriolaeth cenedlaethol hwnnw a sicrhau bod eiriolaeth o ansawdd uchel ar gael yn gyson yma yng Nghymru i’r plant sydd ei angen. A tybed, Weinidog, a fyddwch chi'n gallu rhoi diweddariad inni heddiw ar ble yn union mae’r broses o gyflwyno’r gwasanaeth hwnnw, a beth yw’r sefyllfa bresennol, oherwydd rwy’n gwybod bod hyn yn bryder yn sicr i bobl yn fy etholaeth i, a phan edrychwch chi ar nifer cynyddol y bobl ifanc sy’n ffonio’r comisiynydd a'i thîm, mae'n briodol, rwy’n meddwl, bod angen inni wneud yn siŵr ein bod yn datrys y mater hwn unwaith ac am byth fel na fydd yn rhywbeth sy’n ailadrodd ac na fyddwn yn cael y teimlad hwn o déjà vu ym mlynyddoedd y dyfodol pan gaiff yr adroddiadau hyn eu cyflwyno.
Mae'r comisiynydd hefyd, wrth gwrs, yn cyfeirio at gostau trafnidiaeth gyhoeddus yn ei hadroddiad blynyddol. Mae hi'n sôn yn benodol am drafnidiaeth ôl-16 a’r baich y gall hynny ei roi ar blant a phobl ifanc. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod fy mhlaid wedi ceisio cynnig ateb i hynny, ateb yr ydym yn ei gynnig i’r Llywodraeth yn ddiffuant gan obeithio y byddwch yn ei archwilio ac yn bwrw ymlaen ag ef, oherwydd rydym yn credu bod cyfle i’n cynnig cerdyn gwyrdd wneud gwahaniaeth go iawn i bobl ifanc ledled Cymru ac y byddai'n helpu i ddatrys yr union fater y mae'r comisiynydd plant wedi ei nodi yn ei hadroddiad am y gost, yn enwedig o ran teithio ar fysiau, i blant a phobl ifanc. Nawr, rwy’n gwybod, Weinidog, bod Llywodraeth Cymru wrthi’n adolygu'r canllawiau cludiant o'r cartref i'r ysgol a roddir i awdurdodau lleol, ac, unwaith eto, tybed a allwch roi diweddariad inni am hynny, yn enwedig o ran darpariaeth ôl-16, ac efallai y gallwch ddweud wrthym hefyd a ydych ci nawr yn mynd i ystyried o ddifrif, o ystyried yr argymhelliad yn adroddiad y Comisiynydd, ein cynigion cerdyn gwyrdd.
Tybed hefyd a fyddech chi'n barod i ystyried adolygu pwerau’r comisiynydd a'i swyddfa. Cynhyrchodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus adroddiad nifer o flynyddoedd yn ôl i gymharu’r gwahanol ddulliau o ran comisiynwyr sydd gennym yng Nghymru a’r diffyg cysondeb sydd gennym gyda hwy o ran eu prosesau penodi ac, yn wir, o ran ystodau eu pwerau. A tybed hefyd a yw hynny, gan weithio gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Llywodraeth, yn rhywbeth y gallech fod yn fodlon bwrw ymlaen ag ef. Does dim sôn penodol amdano yn adroddiad y comisiynydd, ond rwy’n gwybod ei bod yn bwysig iawn bod gennym gomisiynwyr â dannedd fel y gallant ddangos y dannedd hynny neu frathu pobl o bryd i'w gilydd a chael ymateb priodol gan y gwahanol asiantaethau cyhoeddus a rhannau o'r sector cyhoeddus y mae angen yr ymateb hwnnw ganddynt.
Ac yn olaf, hoffwn gofnodi hefyd fy ngobeithion y bydd y Bil anghenion dysgu ychwanegol yn symud drwy’r Cynulliad hwn yn fuan iawn. Yn amlwg, bydd cyfnod 3 y Bil hwnnw yn digwydd yr wythnos nesaf. Un o'r gwelliannau pwysicaf y mae angen eu gwneud i’r Bil hwnnw o hyd yw cyfeirio ar wyneb y Bil at egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant. Ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cyfeirio at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn ar wyneb y Bil hwnnw, a tybed a allwch chi ddweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud fel ymateb i rai o'r gwelliannau hynny sydd wedi’u cyflwyno sy'n ceisio sicrhau cyfeiriad at y rheini ar wyneb y ddeddfwriaeth honno. Diolch.
A gaf innau hefyd longyfarch y Gweinidog ar ei benodiad, ac a gaf i hefyd ategu y sylwadau a wnaeth e ynglŷn â chyfraniad ei ragflaenydd? Rwy'n gwybod bod Carl Sargeant yn delio â materion yn ymwneud â hawliau plant o'r galon, ac os bydd y Gweinidog presennol yn ymwneud â'i rôl gyda'r un arddeliad yna rwy'n sicr y bydd sefyllfa plant yng Nghymru yn cryfhau ac yn dal i wella.
A gaf innau hefyd ategu'r diolch i'r comisiynydd am ei gwaith? Rydw i'n croesawu'r adroddiad. Fel pob blwyddyn efallai, mae e yn gyfle i'n hatgoffa ni o flaenoriaethau plant a phobl ifanc ac efallai yn gyfle i ailfiniogi meddwl y Llywodraeth o gwmpas materion plant ac i adnewyddu ffocws ar y blaenoriaethau sydd angen eu hystyried yn unol, wrth gwrs, â dymuniad plant a phobl ifanc eu hunain trwy'r hyn sydd yn adroddiad y comisiynydd.
Y ffactor mwyaf siomedig i fi yn yr adroddiad yma yw bod yna gynifer o faterion a godwyd y llynedd sydd dal heb fynd i'r afael â nhw yn ddigonol ym marn y comisiynydd. Byddwch chi'n gwybod, os ydych chi wedi edrych ar yr adroddiad, bod y comisiynydd yn nodi system golau traffig coch, melyn a gwyrdd. Mae yna nifer o eitemau sydd yn goch sy'n dangos nad oes yna gynnydd o gwbl wedi bod. Nawr, un o'r rheini yw addysg gartref. Yr argymhelliad o'r adroddiad llynedd oedd y dylai Llywodraeth Cymru gryfhau’r gofynion i rieni gofrestru fel rhai sydd wedi dewis addysgu eu plant gartref a bod pob plentyn sy’n cael ei addysgu gartref trwy ddewis yn gweld gweithiwr proffesiynol o leiaf unwaith y flwyddyn er mwyn iddyn nhw fedru mynegi barn am eu profiadau addysgol.
Nawr, mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, wedi bod yn ystyried y maes yma mewn gwahanol ffyrdd dros nifer o flynyddoedd erbyn hyn. Mae yna ganllawiau wedi'u hailgyflwyno ychydig yn ôl, ond mae cyflwyno cofrestr a gofynion statudol mwy cadarn i sicrhau bod plant yn cael eu gweld a bod rhywun yn siarad â nhw yn dal yn flaenoriaeth i'r comisiwn ac, wrth gwrs, fel y mae'r adroddiad yn nodi, yn dal i aros i'r Llywodraeth weithredu yn ddigonol arnyn nhw. Yn ddelfrydol, mi fyddwn i'n lico clywed heddiw, wrth gwrs, ble mae'r Llywodraeth yn mynd ar hyn. Pryd welwn ni weithredu? Beth yw eich bwriad chi yn y maes penodol yma? Ond, yn dilyn yr hyn ddywedoch chi yn gynharach ynglŷn â bwriad y Prif Weinidog i ymateb erbyn diwedd y mis, byddwn i'n llawn obeithio y bydd yna gyfeiriad penodol at y maes yma ac y bydd yna ddatgan bwriad clir o safbwynt beth mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud ynglŷn â hyn.
Mater arall sydd wedi'i nodi'n goch, wrth gwrs, yw tlodi plant. Rŷm ni'n gwybod bod plant yn wynebu effeithiau mesurau llymder ar incwm eu rhieni yn ogystal â thaliadau'r pen arall o safbwynt y gwasanaethau sydd ar gael i helpu i liniaru tlodi fel ag y maen nhw'n cael eu torri ar hyn o bryd. Nawr, rŷm ni wedi codi'n flaenorol yr angen, wrth gwrs, i gael strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant. Yn ôl yr Institute for Fiscal Studies, mae toriadau Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i fudd-daliadau yn debygol o achosi cynnydd o 4 y cant yn nhlodi plant ledled y Deyrnas Gyfunol, gyda Chymru'n cael ei heffeithio yn anghymesur â phroblemau, yn enwedig yn sgil credyd cynhwysol, sy'n un rheswm am hynny. Mae rhai o'r newidiadau i gredyd treth a thoriadau i fudd-daliadau wedi cael eu gweithredu'n barod, wrth gwrs, ac wedi cael effaith anghymesur ar blant, yn enwedig plant mewn teuluoedd rhiant sengl neu deuluoedd gyda mwy na dau blentyn. Felly, mae'n bwysicach nac erioed, rydw i'n meddwl, bod cynllun yn ei le i fynd i'r afael â hyn.
Mae hefyd yn ddiddorol—un pwynt diddorol a dilys iawn sy'n cael ei godi gan y comisiynydd yw y dylid cynnig darpariaeth o 30 awr yr wythnos o ofal plant o ansawdd uchel ar gyfer pob plentyn sy'n dair neu'n bedair oed, yn hytrach na dim ond ar gyfer teuluoedd lle mae'r rhieni yn gweithio. Nawr, dyna, wrth gwrs, oedd union bolisi Plaid Cymru yn yr etholiad diwethaf, gyda'r rhesymeg fel y mae'r comisiynydd yn ei amlinellu. Y perig yw y bydd rheini lle nad yw eu rhieni nhw'n gweithio, sydd â mwy o risg efallai o syrthio ar ei hôl hi o safbwynt addysg—y risg yw y byddan nhw'n syrthio hyd yn oed yn bellach ar ei hôl hi os yw eraill yn cael y gefnogaeth ychwanegol. Nawr, rwy'n deall bod yna ffocws cryf wedi bod ar rieni yn gweithio a sicrhau bod rhieni yn gallu gweithio mwy o oriau, o bosibl, yn sgil y ddarpariaeth, ond mi ddylai'r prif ffocws, wrth gwrs, fod ar y plant. Hynny yw, gorau oll os oes yna ganlyniad positif i rieni yn sgil hynny, ond y plant ddylai fod yn ganolog i'r polisi yma ac mi fyddwn i'n dadlau yn gryf o blaid yr hyn y mae'r comisiynydd wedi galw amdano fe. Mi fyddwn i'n hoffi clywed, felly, yn sgil hynny, cadarnhad, o bosibl, mai bwriad y Llywodraeth yn y tymor hirach yw sicrhau bod y ddarpariaeth yma ar gael i bob plentyn.
Hoffwn adleisio datganiadau’r Gweinidog am ei ragflaenydd, am Carl Sargeant. Dysgais wers gan Carl Sargeant ynglŷn â sut i ymdrin â Gweinidogion yn ystod ymgyrch yr etholiad, pan oeddwn yn anghytuno â’r Llywodraeth a des yma, ar wahoddiad Jeff Cuthbert, i gyfarfod â Carl Sargeant, a dywedais, gan ddisgwyl ffrae fawr, 'Rwy’n anghytuno â chi, Weinidog', a dywedodd ef, 'Rhowch chi drefn ar bethau yn eich etholaeth chi ac fe wnawn ni unioni pethau pan ddewch chi’n ôl i'r gweithle'; roeddwn yn gwerthfawrogi hynny’n fawr iawn. Fe wnes i lwyddo i roi fy marn, ac yna cefais ddeialog amdani gyda'r Gweinidog wedyn. Ac rwy’n gobeithio, yn ei swydd, y bydd y Gweinidog newydd hefyd yn dilyn y patrwm ymddygiad rhagorol hwnnw.
O ran adroddiad y comisiynydd plant, roeddwn am godi dau fater. Mae un ar dudalen 25 adroddiad y comisiynydd plant. Mae hi’n cyfeirio at gynnig gofal plant Llywodraeth Cymru ac yn dweud yn yr ail baragraff:
'Dylai fod gofal plant cynhwysol wrth wraidd ein huchelgeisiau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac er fy mod, mewn egwyddor, yn hapus â’i ddatblygiadau hyd yn hyn, rhaid inni gydnabod y sail dystiolaeth gynyddol o blaid datblygu system gynhwysol, sy'n hyrwyddo symudedd cymdeithasol yn ogystal â ffyniant economaidd, drwy ymestyn yr hawl i addysg gynnar a gofal plant sy’n fforddiadwy ac o safon uchel.'
A hynny i blant rhieni nad ydynt yn gweithio. Yr unig ffordd y gallaf ddeall hynny yw yng nghyd-destun ardaloedd Dechrau'n Deg, ac un ffordd ddelfrydol o wneud hynny, wrth gwrs, fyddai darparu Dechrau'n Deg mewn modd cynhwysol. Ond, o ystyried safbwynt Llywodraeth y DU ar galedi, mae'n anhygoel o anodd cyflawni hynny. Ond hoffwn hysbysu'r Gweinidog o'r hyn a ddywedodd y comisiynydd plant mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Dywedodd hi, ac rwy’n dyfynnu:
Rwy'n meddwl y gellid ystwytho'r rhaglen mewn rhyw ffordd, a’i haddasu mewn rhyw ffordd, i’w gwneud yn gynnig ehangach i fwy o blant, oherwydd, i mi, yr effaith ar blant sy’n bwysig, nid dim ond y gwasanaeth i rieni.
Hoffwn wybod pa ddeialog y mae’r Gweinidog yn bwriadu ei chael gyda'r comisiynydd plant i ddatrys y mater hwnnw, oherwydd un o'r pethau y dywedodd y byddai'n eu gwneud yw dychwelyd i'r Pwyllgor a rhoi syniadau polisi mwy penodol inni ynghylch sut y byddai’n bwrw ymlaen. Ac felly rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn bod y Gweinidog yn siarad â'r comisiynydd plant am hynny.
Mae’r ail fater yn un a oedd yn agos iawn at galon Carl Sargeant, sef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a’u datrys. Unwaith eto, dywedodd y comisiynydd plant fod y cysyniad o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ddiymwad, ond bod ganddi pryderon am unrhyw drafodaeth sy'n rhoi'r rhan fwyaf o'n hymateb i dlodi plant...yn y cyd-destun hwn yn unig.
Ac rwy’n gweld yr hyn a ddywedodd y Gweinidog yn ei ddatganiad i gydnabod hynny yn galonogol iawn. Rwy’n meddwl y byddwn yn pryderu pe baem yn dechrau sôn am dri neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod sydd wedyn yn dod yn sbardun i weithredu gwasanaethau cymdeithasol. Byddwn yn pryderu bod profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn dod yn llai o gysyniad ac yn fwy o drothwy y mae’n rhaid i blant ei fodloni er mwyn ysgogi gweithredu, a dydw i ddim yn meddwl y byddai hynny’n ffordd fuddiol o ddefnyddio profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, oherwydd rwy’n meddwl ei fod yn llawer mwy ansoddol na hynny, a gallai un profiad niweidiol yn ystod plentyndod gael effaith ddinistriol ar deuluoedd, ac mae angen inni gydnabod hynny a’i weld fel cysyniad defnyddiol ar gyfer deall profiadau yn ystod plentyndod ond nid fel un i sbarduno ymyriadau yn ôl y maen prawf hwnnw.
Felly, a dweud y gwir, y cyfan yr hoffwn i’r Gweinidog allu ei ddweud wrthyf yw: yn gyntaf, o ran Dechrau'n Deg, a fydd ef yn agor y ddeialog honno gyda'r comisiynydd plant, a hefyd, o ran profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a wnaiff ei gydnabod fel cysyniad, ond nid fel sbardun i weithredu?
Rwy’n croesawu Huw Irranca-Davies i’r swydd hon. Mae gennych chi esgidiau mawr iawn i’w llenwi, ond rwy’n siŵr y dewch chi â’ch dulliau ystyriol a dysgedig i’r maes polisi cyhoeddus penodol hwn, fel yr ydych wedi’i wneud mewn meysydd eraill yn y gorffennol. Rydym yn wynebu sefyllfa eithaf anodd i blant, ac rwy’n meddwl bod adroddiad y comisiynydd plant yn adlewyrchu hynny’n rhannol. O dan 'Darpariaeth', mae hi’n tynnu sylw at y ffaith bod gan blant hawliau i fod â’u hanghenion wedi’u diwallu, gan gynnwys tai diogel a chynnes, bwyd, addysg, gofal iechyd, gofal ychwanegol os ydynt yn anabl, a darpariaeth hamdden, diwylliant a chwarae a help ychwanegol os yw teuluoedd yn byw mewn tlodi. Ond mae'n anodd iawn gweld sut yr ydym yn mynd i gyflawni hynny o dan yr amgylchiadau presennol sy'n ein hwynebu. Soniais yn gynharach mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog am y cynnydd esbonyddol mewn tlodi plant a ragwelir gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a'r anawsterau sydd gennym o ran lliniaru goblygiadau hynny mewn unrhyw ffordd, oherwydd rydym yn gwybod y bydd tlodi’n cynyddu nifer y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a bydd hynny, yn ei dro, yn cynyddu’r niferoedd y mae hyn yn effeithio’n wael iawn arnynt am weddill eu bywydau.
Rydym hefyd wedi dysgu o fewn yr wythnos diwethaf bod y DU erbyn hyn yn cael ei hystyried y genedl fwyaf gordew yng ngorllewin Ewrop, a does dim angen inni redeg am yr ystadegau i wybod bod Cymru yn fwy na thebyg ar frig y tabl cynghrair penodol hwn mewn perthynas â rhannau eraill y Deyrnas Unedig. Felly, rwy’n arbennig o bryderus ynghylch sut y gallwn ymdrin â’r ddau fater hynny (a) o ran sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl i’w fywyd, gan ddechrau gyda bwydo ar y fron a’r pryderon parhaus ynghylch cefnogaeth annigonol—cefnogaeth gyson—i fwydo ar y fron i sicrhau bod pob teulu’n gallu bwydo eu plant ar y fron. Rwy’n meddwl bod angen inni hefyd sicrhau bod teuluoedd yn cael eu cefnogi i ddiddyfnu eu plant yn effeithiol. Os na all pobl frwydro yn erbyn y llwyth o negeseuon masnachol sy’n dod ar draws—. Mae’r bwydydd babi hyn sy’n cynnwys siwgr yn cael eu gwerthu i bobl, y dylid, a dweud y gwir, eu gwahardd, a does dim byd gwaeth na gweld plentyn clinigol ordew, sy’n ddim mwy na dioddefwr oherwydd y sefyllfa. Dydy’r plentyn ddim yn gallu dewis beth sy’n cael ei roi o'i flaen, ac mae'n wirioneddol dorcalonnus gweld bod teuluoedd a buddiannau masnachol yn drech na budd y plentyn. Rhaid inni ddefnyddio ein hysgolion fel lle i ail-addysgu’r plant hynny sydd ddim wedi cael y gefnogaeth honno i’w buddiannau maethol yn y cartref. Ond mae hon yn sefyllfa heriol iawn, iawn. Yn fy ysgol fy hun, lle'r wyf yn llywodraethwr, ysgol uwchradd, rwy’n gwybod mai dim ond 30 y cant o'r plant sydd wedi cael brecwast cyn dod i'r ysgol, ac mae hynny heb ystyried beth yn union beth yw’r brecwast hwnnw. Felly, rwy’n meddwl bod hwnnw’n fater pwysig i mi.
Mae mater penodol yr oeddwn am ei godi ynglŷn ag atgyfnerthu'r gofyniad i rieni gofrestru os ydynt yn dewis addysgu eu plant gartref, oherwydd rwy’n meddwl bod bwlch gwirioneddol yn y gyfraith yma. Dydyn ni ddim yn sôn am hyn fel mater diogelu fel rheol gyffredinol, ond, pan fydd rhieni’n gwneud penderfyniad i dynnu eu plant allan o addysg y wladwriaeth, maent yn gwneud dewisiadau mawr iawn ynglŷn â dyfodol eu plant, a’r cymdeithasu, yn ogystal â dysgu, na fyddant yn eu cael, oni bai bod darpariaeth amgen dda iawn, iawn yn y cartref. Felly, byddai gennyf ddiddordeb arbennig mewn gwybod beth ydych yn meddwl y byddai modd ei wneud yno.
Ond rwy’n meddwl bod y—. Yn gyffredinol, rwy’n meddwl y bydd yn anodd iawn inni ddiogelu pob plentyn yn sgil y gostyngiad yn swm budd-dal plant, yn ogystal â’r gostyngiad cyffredinol mewn budd-daliadau a chyflwyno budd-dal cynhwysol, sy’n mynd i roi mwy o blant mewn tlodi. Felly, rwy’n croesawu ymateb y Gweinidog ynghylch yr hyn y gallwn ei wneud, gan weithio gyda'r comisiynydd plant, i sicrhau bod ein plant i gyd yn cael eu diogelu.
Rwyf finnau’n croesawu’r cyfle i drafod y canfyddiadau, yr argymhellion a’r meysydd blaenoriaeth pwysig a amlinellir yn adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru. Yn sicr mae'n briodol bod hyn yn cael ei drafod yn ystod Wythnos Gwrth-Fwlio. Rwy’n meddwl ei bod yn iawn inni gymryd y cyfle i adlewyrchu ar flwyddyn o gynnydd a chyflawniad o ran hawliau plant yng Nghymru, ond edrych ymlaen hefyd at heriau’r pethau sydd angen eu gwneud o hyd.
Roeddwn yn falch o weld bod diogelwch yn y gymuned, yr ysgol a’r cartref yn un o chwe maes blaenoriaeth y comisiynydd. Mae gan blant hawl absoliwt i deimlo'n ddiogel yn eu hysgolion, yn eu cymunedau ac yn y cartref. Mae bwlio yn gallu achosi canlyniadau andwyol gydol oes i les corfforol yn ogystal â lles meddyliol plant sy’n ei brofi. Bydd llawer ohonom yma’n gwybod, yn gynharach y mis hwn, bod Chris Elmore, AS Llafur dros Ogwr, wedi siarad yn ddewr am ei brofiadau erchyll ef o fwlio yn yr ysgol; dywedodd ei fod wedi gorfod cael llawdriniaeth ar ei anafiadau ac wedi cael mwy nag un gwaeledd meddwl o ganlyniad i hynny. Dywedodd Chris fod ei ymosodwyr wedi ymosod arno oherwydd, a dim ond oherwydd, eu bod yn meddwl ei fod yn hoyw.
Roeddwn yn falch o ddarllen am y cynnydd sydd wedi’i wneud yn y maes blaenoriaeth hwn drwy greu 'AGENDA: Canllaw i bobl ifanc ar wneud cysylltiadau cadarnhaol o bwys'. Mae'n adnodd sydd ar gael i bobl ifanc ar-lein, ac mae'n darparu amrywiaeth o syniadau creadigol a galluogi pobl ifanc i gael perthnasoedd iach—addysg i atal ac ymdrin â bwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn ar sail rhyw a homoffobia. Mae'n adnodd gwych sydd wedi’i greu gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc ar y cyd â’r NSPCC, Prifysgol Caerdydd, Cymorth i Fenywod Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae AGENDA yn helpu pobl ifanc i ddatblygu ffyrdd creadigol o wrthsefyll trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o sut y mae trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol yn effeithio nid yn unig ar bobl ifanc yma yng Nghymru, ond ledled y byd hefyd. Hoffwn annog fy nghydweithwyr i ddod yn gyfarwydd ag ef, oherwydd mae'n ymchwil gwych.
Dim ond ddoe, rhyddhaodd Eglwys Loegr ganllawiau newydd i ysgolion o blaid caniatáu i blant ysgol gynradd wisgo sut maen nhw'n dewis heb i athrawon neu ddisgyblion wneud sylwadau. Daeth y canllawiau newydd hyn ar ôl i arolwg barn gan y Gynghrair Gwrth-Fwlio ganfod bod dau o bob pum plentyn yn cuddio agweddau arnynt eu hunain. Hoffwn wybod a yw’r Gweinidog yn teimlo, yng ngoleuni hynny, a'r ffaith bod llawer o ysgolion yn cael eu cynnal gan yr Eglwys yng Nghymru—neu’n ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir—efallai y bydd angen inni ailedrych ar y canllawiau a roddir i ysgolion nad ydynt dan reolaeth yr Eglwys o fewn gweddill Cymru, oherwydd y peth olaf y byddai unrhyw un ohonom ei eisiau yw dwy set o ganllawiau ar gyfer disgyblion yng Nghymru.
Mae ychydig mwy o siaradwyr, ond hoffwn eich atgoffa'n garedig, os ydych chi'n dymuno siarad, y dylech fod yn bresennol yn y Siambr ar ddechrau'r ddadl. Fodd bynnag, mae heddiw’n ddiwrnod heriol i rai—ond os gallwn gofio hynny ar gyfer y dyfodol. Michelle Brown.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu adroddiad y comisiynydd, a hoffwn ddiolch iddi am ei holl waith caled hyd yn hyn ac am lunio’r adroddiad. Mae’r comisiynydd yn dweud, ac rwy’n dyfynnu:
'Fy ngweledigaeth yw bod pob plentyn yng Nghymru’n cael cyfle cyfartal i fod y gorau y gall fod'.
Mae hon yn weledigaeth ganmoladwy—un, gobeithio, rydym i gyd yn ei rhannu—ond pam mae angen i rywun y tu allan i Lywodraeth Llafur ddweud hyn cyn iddynt wrando? Mae’n ymddangos bod Llafur yn allanoli mwy a mwy o’u polisïau, i'r fath raddau nes na all llawer o bobl—minnau yn eu plith—ond dod i'r casgliad nad oes ganddyn nhw unrhyw syniadau da eu hunain. Ar ôl 20 mlynedd o bŵer di-dor, pam mae’n rhaid gwneud y cyhoeddiadau hyn o hyd? Mae’n siŵr y bydd Llafur yn dweud eu bod bob amser wedi bod yn ymroddedig i gyfle cyfartal i blant Cymru, felly pam, ar ôl dau ddegawd o bŵer di-dor, nad ydynt wedi cyflawni hynny? Efallai y dylent adael i bobl eraill wneud mwy o’u polisïau, oherwydd mae'n amlwg na allant wneud hynny eu hunain. Maent wedi allanoli cydraddoldeb i blant; maent yn allanoli eu polisi addysg, fel y clywsom gan Kirsty Williams yn ddiweddar, pan ddywedodd y byddai hi’n mabwysiadu argymhellion trydydd parti ar gofrestru dysgwyr am arholiadau TGAU yn gynnar; ac mae’r Llywodraeth hyd yn oed wedi dechrau allanoli swyddi’r Cabinet.
Pam oedd angen i gomisiynydd nodi bod rhai awdurdodau lleol yn darparu darpariaeth dda ar gyfer rhai sy'n gadael gofal, ac nad yw rhai eraill? Pam, ar ôl 20 mlynedd o Lafur, mae hynny'n digwydd? Mae’n amheus gen i fod hyn yn ffenomen newydd, felly rhaid ei fod wedi cael ei anwybyddu, neu bod anallu ar lefel lywodraethol wedi methu datrys yr anghysondeb. Pam, ar ôl 20 mlynedd o Lafur, mae angen i'r comisiynydd dynnu sylw at y ffaith bod llawer o rieni plant byddar yn dal i gael eu gadael heb y gallu i gyfathrebu â nhw, oherwydd diffyg darpariaeth i ddysgu Iaith Arwyddion Prydain? A all unrhyw un yma ddychmygu’r tristwch a'r anawsterau sy’n cael eu hachosi drwy beidio â gallu cyfathrebu â’ch plentyn eich hun?
Rydym yn clywed llawer o sôn gan y Llywodraeth hon am wneud ymdrechion priodol i wella'r ddarpariaeth i bobl i gyfathrebu yn y Gymraeg, ond does dim byd am helpu pobl sydd ag anawsterau cyfathrebu, hyd yn oed pan fyddant yn blant. Pam, ar ôl 20 mlynedd o Lafur, mae’r Comisiynydd yn teimlo bod yn rhaid iddi dynnu sylw at y ffaith, yn hytrach na bod gwahaniaethau’n lleihau, bod anghydraddoldebau’n parhau o ran y cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i blant a phobl ifanc? Pam, ar ôl 20 mlynedd o Lafur, y mae’n rhaid i’r comisiynydd erfyn ar y Llywodraeth i beidio â chymryd cymorthdaliadau teithio oddi ar bobl ifanc 16 i 18 mlwydd oed, er bod llawer ohonynt yn dal i fod mewn addysg neu hyfforddiant, ac mai'r diffiniad cyfreithiol o blentyn yw o ddim i 18 mlwydd oed?
Mae llawer o enghreifftiau eraill yn yr adroddiad y gallwn eu dyfynnu sy'n dangos diffygion y Llywodraeth gyfan, ond does gen i ddim digon o amser i siarad amdan nhw. Mae 10 datganiad i'r wasg ar y dudalen gyntaf o newyddion ar wefan Plaid Lafur Cymru. Does dim un ohonyn nhw'n ymwneud â’r hyn y mae nhw wedi’i wneud neu'n gobeithio ei wneud dros ein plant; tybed a yw hynny oherwydd na chaiff plant bleidleisio. Galwch fi’n sgeptig, ond mae traean o’r erthyglau ar y dudalen honno wedi’u hymrwymo’n benodol i ddilorni pleidiau eraill.
Felly, i gloi, mae'r adroddiad hwn yn profi dau beth. Y cyntaf yw bod y comisiynydd plant yn wybodus am y materion sy'n wynebu plant Cymru, yn ymwybodol o lawer o ddiffygion y Blaid Lafur, ac yn wirioneddol ymroddedig i sicrhau'r canlyniadau gorau i’n pobl ifanc. Yr ail yw, ar ôl 20 mlynedd o reolaeth di-dor, bod Llafur naill ai’n methu neu’n gwrthod gwneud beth sydd ei angen i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i'n plant. Nid yw gadael i rywun arall ganfod y problemau ac awgrymu polisïau yn llywodraethu aeddfed. Rheoli diog ydyw, sy'n dangos diffyg brwdfrydedd, diffyg syniadau a diffyg cymhwysedd llwyr. Diolch.
Mark Reckless.
Diolch, Dirprwy Lywydd, yn benodol, am eich ystyriaeth. A gaf i hefyd longyfarch y Gweinidog ar ei benodiad? Mae’n gwybod bod ganddo esgidiau mawr i'w llenwi. O ran fy hun, rhaid imi ddweud bod gennyf hyder mawr ynddo i wasanaethu’r Llywodraeth yng Nghymru mor fedrus ag y gwasanaethodd Lywodraeth y DU o'r blaen.
Rwy’n croesawu’r adroddiad gan Sally Holland, y comisiynydd plant, ac yn diolch iddi am y dystiolaeth a roddodd i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 18 Hydref. Rwy’n meddwl mai un maes lle mae hi'n haeddu llongyfarchiadau arbennig yw’r ffordd y mae hi wedi arwain y gwaith o ysgogi awdurdodau lleol ynghylch yr agenda pobl ifanc sy'n gadael gofal. Yn benodol, mae’r cynllun bwrsari £1 miliwn, rwy’n meddwl, yn fenter ragorol. Rwy’n meddwl, yn gymharol i gynifer o’r awdurdodau lleol haen uchaf yn Lloegr, bod awdurdod lleol cyfartalog Cymru yn gymharol fach am y llwyth gwaith gwasanaethau cymdeithasol a fydd yn eu hwynebu, ac rwy'n meddwl bod y comisiynydd plant yn faes ychwanegol i gefnogi'r awdurdodau lleol hynny. Mae eu hannog a’u cynghori ar y gwaith y maen nhw'n ei wneud gyda phobl ifanc, rwy’n meddwl, yn werthfawr. Rwy’n meddwl bod un enghraifft yr ydym wedi’i gweld, yn Nhorfaen—y dreth gyngor a pheidio â gorfod ei thalu os ydych chi wedi gadael gofal yn ddiweddar—rwy'n meddwl bod hynny'n beth gwerthfawr iawn, ac rwy’n gobeithio y bydd awdurdodau lleol eraill yn dilyn yr arweiniad hwnnw.
Un maes yr hoffwn dynnu sylw ato wrth sôn am blant sy'n derbyn gofal yw pan gaiff y plant hyn eu mabwysiadu. Mae gennym, yn y cod derbyniadau ysgol,
'rhaid i bob awdurdod derbyn roi'r flaenoriaeth uchaf yn eu meini prawf gor-alw i blant sy'n derbyn gofal fel sy'n ofynnol gan Reoliadau Addysg (Derbyn Plant sy'n Derbyn Gofal) (Cymru) 2009 a phlant sydd wedi derbyn gofal fel sy'n ofynnol gan y Cod hwn.'
Nawr, yn fy mhrofiad i—ac mae hyn gyda phlant pedair a phum mlwydd oed ar hyn o bryd—rwyf wedi edrych ar gryn dipyn o bolisïau derbyn ysgolion, ac yn sicr fy argraff i yw bod y categori hwnnw yn cyfeirio at blant sy'n derbyn gofal ar y brig. Nid wyf, hyd yma, wedi gweld na deall bod hynny hefyd yn berthnasol i blant a oedd yn arfer derbyn gofal, gan gynnwys rhai sydd wedi cael eu mabwysiadu, ac nid wyf yn gweld y cyfeiriad yn y rheoliadau. Felly, tybed a yw'r comisiynydd plant neu Lywodraeth Cymru—. Os ydym yn dymuno cael y canllawiau hyn ac os ydym eisiau gweld plant a oedd yn arfer derbyn gofal, gan gynnwys y rhai hynny sydd wedi’u mabwysiadu, yn cael y flaenoriaeth hon hefyd, a ellid gwneud mwy i sicrhau bod hynny’n digwydd mewn gwirionedd? Er enghraifft, gallem ni roi canllawiau sy'n dweud, at ddibenion y cod derbyn, y dylid ystyried bod plant a oedd yn arfer derbyn gofal yn bodloni'r diffiniad o blant sy'n derbyn gofal. Oherwydd, fel arall, rwy’n ofni bod y canllawiau hyn yno, ond nid wyf, fy hun, eto, wedi fy argyhoeddi bod polisïau derbyn ysgolion ar y cyfan yn newid i adlewyrchu hynny.
Rwy’n meddwl mai un maes arall lle efallai y gallai’r comisiynydd plant yn benodol helpu yw drwy ddweud wrth ysgolion, 'Beth yw anghenion penodol plant sydd wedi'u mabwysiadu?' Rwy’n meddwl y gallai fod yn werth tynnu sylw ysgol pan fydd plentyn wedi ei fabwysiadu fel eu bod yn ymwybodol o hynny a bod canllawiau priodol ar waith i’w helpu i gefnogi’r plant hynny sydd, rwy’n meddwl o leiaf mewn rhai amgylchiadau, ag anghenion penodol iawn y mae angen eu cydnabod.
I symud ymlaen at fater Cymdeithas Genedlaethol y Plant Byddar, unwaith eto, rwy’n meddwl mai un peth yn arbennig yr hoffwn i ei weld yw cymorth hygyrch a fforddiadwy, ac yn enwedig sicrhau cymorth ag Iaith Arwyddion Prydain ar bob math o wahanol lefel. Rwy’n meddwl bod hynny'n bwysig iawn yng nghyd-destun cartref.
Yn olaf, os caf sôn am ddau faes lle mae’r comisiynydd plant efallai ychydig yn fwy hael â Llywodraeth Cymru na ni ar y meinciau hyn. Un o'r rheini yw cludiant i’r ysgol, ac awdurdodau lleol, ac a oes dryswch ynglŷn ag a ydynt yn ddigon clir ynghylch eu cyfrifoldebau cyfreithiol. Rwy’n meddwl bod angen gwneud mwy ar hynny. Rwyf hefyd yn meddwl, gyda’r cysylltiad â’r rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a lle yr ydym—. O ran integreiddio colegau chweched dosbarth, er enghraifft—unwaith eto, i roi enghraifft yn Nhorfaen—rydym yn mynd o dri chweched dosbarth i lawr i un; beth yw goblygiadau hynny i deithio i’r ysgol, ac a yw awdurdodau lleol yn gwneud digon, ac yn cael digon o gymorth gan Lywodraeth genedlaethol Cymru i wneud yr hyn sydd angen ei wneud yn y maes hwn?
Yn olaf, o ran y gwasanaeth eiriolaeth cenedlaethol, mae gan Darren, rwy’n meddwl, lawer mwy o brofiad o weld Llywodraeth Cymru yn gwneud cyhoeddiadau ond nid o reidrwydd yn dilyn drwodd cymaint neu cyn gynted ag y byddem yn ei hoffi yn y maes hwn. Ond mae'n ymddangos i mi, os oes gennym wasanaeth eiriolaeth cenedlaethol, neu os mai dyna yw’r uchelgais, oes, mae rhai enghreifftiau o awdurdodau lleol sydd ag arfer da yn y maes hwn, ac mae hynny i'w groesawu, ond os yw Llywodraeth Cymru yn credu y dylai fod yn wasanaeth eiriolaeth cenedlaethol, dylem yn sicr symud y tu hwnt i hynny. Os na all y Llywodraeth fforddio hynny, neu os nad ydynt yn credu y gall weithio ar lefel genedlaethol, neu os ydynt am adael i awdurdodau lleol wneud fel y maen nhw’n meddwl sydd orau, dylent ddweud hynny, yn hytrach na pharhau i ddweud y bydd gwasanaeth eiriolaeth cenedlaethol heb barhau o reidrwydd i roi hynny ar waith. Diolch.
Yn gyntaf oll, hoffwn longyfarch y Gweinidog ar ei swydd newydd a chydnabod ymrwymiad rhagorol Carl Sargeant i’r rôl.
Hoffwn ddiolch i'r comisiynydd plant a'i thîm am eu gwaith caled parhaus i sefyll dros hawliau plant a phobl ifanc Cymru. Fel y mae’r comisiynydd wedi’i nodi, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad 'Y Gofal Iawn' ac mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i gyflawni newid dros bobl sydd mewn gofal preswyl yng Nghymru.
Fodd bynnag, dydy’r newid ddim yn digwydd yn ddigon cyflym, yn enwedig i blant a phobl ifanc yn fy rhanbarth i, sef Gorllewin De Cymru. Mae darpariaeth cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn arbennig o wael. Ddoe, roedd sôn yn y cyfryngau am ganfyddiadau gan y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol a llesiant newydd sy'n dangos bod nifer uchel o blant yn cael eu rhoi mewn gofal tu allan i'r sir dim ond oherwydd nad yw’r llysoedd yn ymddiried yn y gwasanaeth. Mae’r plant hyn, sydd eisoes wedi cael y dechrau gwaethaf posibl mewn bywyd, yn gorfod symud o’r ardal, filltiroedd oddi wrth unrhyw un maen nhw’n ei adnabod.
Nid dyma’r unig dro yn y misoedd diwethaf y mae gwasanaethau i blant ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cael sylw anffafriol gan y wasg. Yn gynharach eleni roedd rhybuddion y gallai plant mewn gofal yn y sir fod mewn perygl o gamfanteisio rhywiol oherwydd bod y cartrefi wedi'u lleoli mewn ardaloedd lle mae gweithgarwch troseddol, bygythiadau i ladd a cham-drin plant wedi digwydd. Mae’n ymddangos bod y pryderon hyn wedi peri amheuaeth sylweddol yn y llysoedd fel na allant ymddiried yng ngallu'r gwasanaeth i ofalu am y plant yn eu gofal.
Mae'r comisiynydd plant wedi dangos bod gan gartrefi gofal ran bwysig i'w chwarae o ran darparu'r math iawn o ofal i rai plant a phobl ifanc yng Nghymru. Heriodd hi Lywodraeth Cymru i wella'r system. Mae'n amlwg nad oes digon wedi'i wneud hyd yma. Rwy’n ddiolchgar i'r comisiynydd plant am ei hymrwymiad yn ei hadroddiad blynyddol i barhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gyflawni'r dyletswyddau o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant. Dydy cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ddim yn diwallu anghenion plant mewn gofal ac rwy’n annog Gweinidog dros Blant newydd i gymryd camau brys. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant i ymateb i'r ddadl—Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn i chi i gyd. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Rwy'n falch iawn o gael ymateb i'r ddadl hon. Dim ond un peth yr wyf yn siŵr ohono eisoes—dydw i ddim yn credu y bydd modd i mi ymateb i bob pwynt a godwyd yn ystod yr amser sydd ar gael, ond fe wnaf fy ngorau.
A gaf i yn gyntaf ddiolch i bawb am eu geiriau caredig a'u sylwadau am Carl Sargeant a'r etifeddiaeth y mae'n ei gadael yn y maes hwn? Nodwyd sawl gwaith heddiw—ar draws y portffolio eang o swyddi gweinidogol a ddaliodd mewn uwch swyddi yn y Llywodraeth—yr effaith a gafodd a sut y gwnaeth yrru deddfwriaeth a'r polisïau iawn drwodd â'r pethau iawn wrth wraidd y ddeddfwriaeth a'r polisïau hynny, sef y canlyniadau ar gyfer y bobl a gynrychiolwn, ac yn sicr mae hwn yn un o'r meysydd hynny. Felly, diolch ichi am y sylwadau hynny ac hefyd am fy llongyfarch am ddod i'r swydd hon. Fel y soniais yn fy sylwadau agoriadol, byddaf yn ceisio anrhydeddu ei etifeddiaeth—ac etifeddiaeth y Gweinidogion eraill yn y swydd hon.
Felly, gadewch imi geisio ymdrin â rhai o'r materion a godwyd. Os nad ydw i'n llwyddo i'w trafod nhw i gyd, byddwn yn hapus i ysgrifennu yn fanwl at Aelodau sydd wedi codi materion unigol hefyd. Gadewch imi ymdrin yn gyntaf â mater eiriolaeth, a godwyd gan nifer o bobl, gan gynnwys Darren. Yn adroddiad y Comisiynydd Plant, maent yn codi'r mater o eiriolaeth, wrth gwrs. Gadewch imi ddweud, er nad yw'r dull eirioli cenedlaethol yn cael ei ddarparu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, rydym yn wir gefnogi ei weithrediad ac yn cadw llygad ar sut y gwneir hyn.
Mae gennym ymrwymiad cyllid o hyd at £550,000 ar gyfer grwpiau cydweithredol rhanbarthol y gwasanaethau cymdeithasol, i gyflwyno'r cynnig eiriolaeth gweithredol llawn ac i gefnogi'r dull o weithio. Ond nid yw'n ddigon i wneud hynny, mae'n rhaid inni fonitro sut y mae'n digwydd. Felly, byddwn yn monitro'r defnydd o'r arian grant hwn ar sail chwarterol ac rydym eisoes yn ymrwymedig i adolygu'r ffordd y caiff ei weithredu ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf—felly 2018-19—ac rydym hefyd yn edrych ar werthuso tymor hwy dros yr ychydig flynyddoedd cyntaf o weithredu. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod hyn yn gweithio fel eiriolaeth weithredol.
Mae nifer o bobl, yn cynnwys Darren, wedi sôn am y mater o drafnidiaeth a chymorthdaliadau trafnidiaeth. Ni allaf ymateb yn uniongyrchol i'r cynnig penodol gan y Ceidwadwyr ar gerdyn gwyrdd, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi, Darren, yw hyn: ar docynnau teithio rhatach ieuenctid, fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ymgynghori ar deithio bws am bris gostyngol i bobl ifanc. Nod yr ymarfer yw casglu barn pobl ifanc a rhanddeiliaid allweddol eraill. Rydym yn awyddus iawn i archwilio'r archwaeth i ymestyn yr ystod o deithio gostyngol i bobl ifanc hyd at 24 mlwydd oed. Ac yn seiliedig ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, sy'n mynd rhagddo, bydd cynllun newydd ar gyfer pobl ifanc, gobeithio, yn cael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2018—un sy'n adlewyrchu orau anghenion a dewisiadau ein pobl ifanc ac sy'n helpu ymhellach i hybu'r dewis o deithio ar fysiau. Unwaith eto, elfen sy'n allweddol i bob un o'r meysydd hyn yw gwrando ar blant a phobl ifanc wrth ddatblygu'r cynigion hynny.
Os caf i droi at y mater o ddyletswydd gofal ac ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn, yn enwedig o fewn y Bil anghenion dysgu ychwanegol, sydd ar hyn o bryd yn mynd drwyddo—fel y bydd Aelodau yn ymwybodol, yn ystod cyfnod 2 y Bil—ac rwy'n edrych ar fy nghyd-Aelod ar y dde yma hefyd, o ran ei bod yn gadeirydd pwyllgor—roedd y Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi ymrwymo i ystyried a ellir ychwanegu cyfeiriad uniongyrchol at y CCUHP a Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl ag anableddau i'r gwelliant i'r Bil yng Nghyfnod 3, ac mae gwaith yn wir ar y gweill i ystyried hyn ac i weld beth y gellir ei gyflwyno. Bydd hi'n ychydig wythnosau diddorol i'r Pwyllgor nawr wrth iddynt edrych ar y mater hwn.
Cododd Llyr amrywiaeth o faterion, nid yn lleiaf oedd y sgoriau RAG. Byddwn yn dweud nad ydym bob amser yn mynd i fod mewn harmoni a chytundeb llwyr â phopeth y mae'r comisiynydd plant yn ei gyflwyno dan ei system goleuadau traffig o fewn y sgoriau RAG . Mae ganddi ddiben i'w gyflawni yno, ac mae'n bwysig herio a dwyn y Llywodraeth i gyfrif a gwthio i gyfeiriadau penodol. Ni fyddwn bob amser yn cytuno.
Rydym wedi sylwi bod y Comisiynydd wedi cynnwys sgoriau RAG yn yr adroddiad, yn dadansoddi ein hymatebion i argymhellion a wnaed y llynedd. Mae'n bwysig dweud fy mod yn fodlon, fel Gweinidog, ein bod ni wedi ymateb yn unol â'r hyn y teimlwn sy'n briodol i argymhellion y llynedd. Ond gadewch i mi ddweud hefyd: yn y dyfodol, rydym yn parhau i weithio i wella canlyniadau a amlygwyd yn yr adroddiad ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru, ac mae'n ymwneud â gweithio ar draws y Llywodraeth i gyflawni'r blaenoriaethau hynny, fel rwyf wedi nodi yn 'Ffyniant i Bawb'.
Mae'n annhebygol iawn y byddai unrhyw Lywodraeth byth yn cytuno i bob argymhelliad y bydd y Comisiynydd yn ei wneud. Fodd bynnag, mae nifer o ffactorau i ni eu hystyried, ond rydym, fodd bynnag, yn ymgysylltu, rydym yn gwrando, rydym yn ymateb, rydym yn dadlau, rydym yn trafod, rydym yn cyfarfod â'r comisiynydd plant ac rydym yn gwneud newidiadau lle y bo'n briodol yn seiliedig ar sylfaen dystiolaeth gref. Ac, wrth gwrs, mae'r sgoriau RAG yn seiliedig ar ganfyddiad y Comisiynydd o'r materion. Er enghraifft, nid yw dim ond tynnu sylw at y sgôr coch yn erbyn yr argymhelliad ar gyfer cynllun cyflawni tlodi plant penodol yn ystyried yr ymateb yr ydym eisoes wedi ei roi i'r Comisiynydd. Rydym wedi dweud eisoes yn amlwg nad ydym yn credu bod angen cynllun ar wahân; mae'n beth trawsbynciol ar draws y Llywodraeth a fydd yn dod i rai o'r meysydd polisi sy'n helpu yn hynny o beth. Felly, o'r herwydd, rydym yn credu nad oes fawr o bwrpas cymhwyso'r sgôr coch yn hynny, ond byddwn yn dal i drafod.
Os caf i droi at fater a godwyd gan nifer o Aelodau, sydd yn ymwneud ag addysg ddewisol yn y cartref—diweddariad byr yma: mae swyddogion i mi wedi cyfarfod â rhieni sy'n addysgu yn y cartref i gasglu eu barn ar y canllawiau diwygiedig, a lle y maent yn credu hefyd fod angen mwy o eglurder a chefnogaeth ar faterion fel deddfwriaeth a hyfforddiant ac ati, a bydd fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu ag aelodau'r gymuned addysgu yn y cartref. Rydym bellach yn edrych ar sut y mae deddfwriaeth bresennol yn cael ei defnyddio, a rhwystrau a allai fod yn atal rhai awdurdodau lleol rhag ei defnyddio. Ac rydym hefyd yn edrych ar batrymau o ran addysg ddewisol yn y cartref sy'n cynnwys datblygu gwell dealltwriaeth o pam y mae teuluoedd yn penderfynu addysgu yn y cartref. Ac yn olaf ar y pwynt hwn, bydd Aelodau yn ymwybodol bod y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol wedi comisiynu Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd i gynnal adolygiad o'r risgiau i blant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu yn y cartref. Nawr, pan fydd yr adroddiad hwnnw ar gael, byddwn yn ei ystyried a'i argymhellion.
Os caf i droi at y materion a godwyd gan nifer o aelodau o gwmpas tlodi—ac mae'n rhaid imi ddweud, mae hwn yn fater trawsbynciol i'r Llywodraeth, ac nid yw o fewn un seilo—a dim ond i dynnu sylw at rai meysydd, ond mae llawer y gallwn dynnu sylw atynt—pethau fel mynd i'r afael â newyn gwyliau, sydd yn flaenllaw iawn ym meddyliau pobl ers y gwyliau diwethaf. Cafodd hynny, er enghraifft, ei nodi yn flaenoriaeth allweddol yn strategaeth tlodi plant 2015 Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru, gan gydnabod yr angen i ddefnyddio'r holl ysgogiadau polisi sydd ar gael i gynorthwyo aelwydydd incwm isel yn awr. Felly, darparwyd swm pellach o £500,000 i gefnogi clybiau hwyl a bwyd gwyliau haf ysgol yr haf diwethaf, a chafodd yr arian ei gynnig i gynghorau yn rhannau mwyaf amddifad Cymru i helpu i ddarparu prydau a cynlluniau chwarae dros yr egwyl hir. Ond mae hefyd yn fater o dlodi tanwydd a beth a wnawn â Nyth a beth rydym yn ei wneud gydag Arbed, mae'n ymwneud â sut y byddwn ni'n gwneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn gwneud y defnydd gorau o bethau fel grantiau gwisg ysgol ac ati ac ati. Mae'n effaith gronnus ar draws y Llywodraeth gyfan.
Os caf i droi at y materion yn, fwy na thebyg, y munud neu fwy sy'n weddill, cododd Hefin y mater o p'un a fyddem yn parhau i gael deialog gyda'r comisiynydd plant ar faterion fel gofal plant cyffredinol, hyblygrwydd Dechrau'n Deg, ACEs ac ati—hollol gywir wrth ddweud nad yw ACEs yn holl hanfod a diben popeth, rhyw fath o ddull dadansoddol digyfaddawd, amrwd: mae angen iddynt gael eu defnyddio i helpu i wneud diagnosis o'r lle gorau i wneud yr ymyriadau cynnar, a fydd yn mynnu'r canlyniadau yr ydym am eu gweld ar gyfer plant a phobl ifanc. Os cânt eu cymhwyso mewn ffordd amrwd iawn, a bod yn onest, maent yn dda i ddim. Felly, mae angen iddynt gael eu defnyddio i gynorthwyo'r hyn a wnawn o ran ymyriadau cynnar, nid fel holl hanfod a diben popeth. Ond maent yn ddadansoddiad defnyddiol, rhaid imi ddweud, o'r lle gorau i ni efallai roi rhai o'n hymyriadau cynnar ar waith.
Soniodd am y mater o Dechrau'n Deg a hyblygrwydd a godwyd gan y comisiynydd plant ac eraill. Yn ddiddorol, yn fy ardal i o Ben-y-bont ar Ogwr lle mae Dechrau'n Deg wedi bod dipyn o lwyddiant—ac mae wedi llwyddo mewn llawer o ardaloedd—un o'r pethau yr wyf yn ymwybodol ohono yw bod rhywfaint o hyblygrwydd o fewn y cynllun, ond mae angen gallu lleol gan y rheiny sy'n darparu Dechrau'n Deg i ganiatáu rhywfaint o ryddid o fewn darpariaeth Dechrau'n Deg, ac felly pan fod ganddynt y rhyddid mewn gwirionedd, gallant ei ymestyn y tu hwnt i ffiniau daearyddol i ardaloedd eraill hefyd, ac rydym angen edrych ar sut y gallwn ni wneud mwy.
Dirprwy Lywydd, rwy'n edrych ar yr amser a chredaf fod gen i ryw 30 eiliad yn weddill fwy neu lai. [Anghlywadwy.] Iawn, gaf i ond diolch i gydweithwyr am waith manwl iawn—? Rydych mwy na thebyg wedi cwmpasu pob maes o adroddiad y Comisiynydd Plant. Gadewch imi orffen drwy ddweud: mae angen i ni sicrhau yn hyn i gyd ein bod yn gwrando ar ac yn ystyried barn plant a phobl ifanc am y materion sydd o bwys wrth wneud penderfyniadau a fydd yn effeithio arnynt. A gwn fy mod i, a'm cyd-Aelodau Cabinet a Gweinidogol ar draws y Cabinet yn croesawu'r cyfle i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, i glywed y safbwyntiau a fynegwyd heddiw ac ystyried y syniadau hyn.
Nawr, gwn fod y Cynulliad hwn hefyd yn gwerthfawrogi cyfranogiad pobl ifanc. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu Senedd Ieuenctid, a grybwyllir yn adroddiad y Comisiynydd Plant, a bydd cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ar 1 Ebrill yn dwysau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau plant. Rhaid i ni, a holl gyrff cyhoeddus eraill, ddangos ein bod wedi ystyried effeithiau penderfyniadau ar fywyd yn y dyfodol yn ogystal ag yn y genhedlaeth hon. Felly, wrth symud ymlaen, rydym yn parhau i weithio i wella canlyniadau ar gyfer yr holl blant a phobl ifanc yng Nghymru, gan weithio ar draws y Llywodraeth i gyflawni ein blaenoriaethau a nodir yn 'Ffyniant i Bawb'. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes? Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.