Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Yn gyntaf oll, hoffwn longyfarch y Gweinidog ar ei swydd newydd a chydnabod ymrwymiad rhagorol Carl Sargeant i’r rôl.
Hoffwn ddiolch i'r comisiynydd plant a'i thîm am eu gwaith caled parhaus i sefyll dros hawliau plant a phobl ifanc Cymru. Fel y mae’r comisiynydd wedi’i nodi, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad 'Y Gofal Iawn' ac mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i gyflawni newid dros bobl sydd mewn gofal preswyl yng Nghymru.
Fodd bynnag, dydy’r newid ddim yn digwydd yn ddigon cyflym, yn enwedig i blant a phobl ifanc yn fy rhanbarth i, sef Gorllewin De Cymru. Mae darpariaeth cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn arbennig o wael. Ddoe, roedd sôn yn y cyfryngau am ganfyddiadau gan y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol a llesiant newydd sy'n dangos bod nifer uchel o blant yn cael eu rhoi mewn gofal tu allan i'r sir dim ond oherwydd nad yw’r llysoedd yn ymddiried yn y gwasanaeth. Mae’r plant hyn, sydd eisoes wedi cael y dechrau gwaethaf posibl mewn bywyd, yn gorfod symud o’r ardal, filltiroedd oddi wrth unrhyw un maen nhw’n ei adnabod.
Nid dyma’r unig dro yn y misoedd diwethaf y mae gwasanaethau i blant ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cael sylw anffafriol gan y wasg. Yn gynharach eleni roedd rhybuddion y gallai plant mewn gofal yn y sir fod mewn perygl o gamfanteisio rhywiol oherwydd bod y cartrefi wedi'u lleoli mewn ardaloedd lle mae gweithgarwch troseddol, bygythiadau i ladd a cham-drin plant wedi digwydd. Mae’n ymddangos bod y pryderon hyn wedi peri amheuaeth sylweddol yn y llysoedd fel na allant ymddiried yng ngallu'r gwasanaeth i ofalu am y plant yn eu gofal.
Mae'r comisiynydd plant wedi dangos bod gan gartrefi gofal ran bwysig i'w chwarae o ran darparu'r math iawn o ofal i rai plant a phobl ifanc yng Nghymru. Heriodd hi Lywodraeth Cymru i wella'r system. Mae'n amlwg nad oes digon wedi'i wneud hyd yma. Rwy’n ddiolchgar i'r comisiynydd plant am ei hymrwymiad yn ei hadroddiad blynyddol i barhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gyflawni'r dyletswyddau o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant. Dydy cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ddim yn diwallu anghenion plant mewn gofal ac rwy’n annog Gweinidog dros Blant newydd i gymryd camau brys. Diolch yn fawr.