Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Hoffwn ddechrau hefyd drwy longyfarch fy nghyd-Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wrth iddi ddechrau ar ei swyddogaeth newydd. Mae ganddi, wrth gwrs, fwlch mawr i'w lenwi, oherwydd roedd ei rhagflaenydd yn sicr yn ŵr o bwys yn Llywodraeth Cymru ac yng ngwleidyddiaeth Cymru, a gobeithiaf nad wyf yn ei dychryn hi ormod drwy ddweud fy mod yn edrych ymlaen at ei chefnogi â'r un brwdfrydedd ag y cefnogais ei rhagflaenydd, oherwydd roeddwn yn edmygu'n fawr y ffordd y cyflawnodd ei swyddogaethau fel Gweinidog y Gymraeg. Felly, dymunaf yn dda iddi yn ei swydd, ac yr wyf yn siŵr y bydd hi mor llwyddiannus ag yr oedd yntau. Rwy'n sylwi hefyd bod y Llywodraeth gryn dipyn yn fwy anrhydeddus ers yr ad-drefnu, gan fod 15 y cant o'n Gweinidogion bellach hefyd yn aelodau yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac rwy'n credu bod hyn yn gynnydd o'r radd flaenaf. Rwyf hefyd yn croesawu Dafydd Elis-Thomas i'w swyddogaeth. Edrychaf ymlaen at weld mwy o Arglwyddi'n cael eu penodi maes o law, ond er mwyn i hynny ddigwydd mae'n rhaid inni weld mwy o Aelodau Cynulliad yn cael eu hurddo'n Arglwyddi, ond dyna ni.
Beth bynnag, rwy'n croesawu'r adroddiad hwn, a chredaf y bu Meri Huws yn gomisiynydd iaith llwyddiannus, fel y clywsom ni. Y rheswm pam yr oeddwn i mor frwd fy nghefnogaeth i Alun Davies oedd oherwydd ei fod wedi rhoi llawer mwy o bwyslais ar gymell na chosbi er mwyn cyflawni'r nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rwy'n credu i Meri Huws, pan oedd hi'n rhoi tystiolaeth i Bwyllgor y Gymraeg, i'r Pwyllgor diwylliant a'r Gymraeg, ychydig wythnosau yn ôl, ddangos hefyd faint o hyblygrwydd sydd ei angen os ydym ni'n mynd i gyflawni'r amcan hwn. Pan ofynnais iddi 'Beth fyddech chi wedi'i wneud yn wahanol yn y pum mlynedd diwethaf pe byddech chi'n gwybod bryd hynny yr hyn a wyddoch chi'n awr?', ac fe ddywedodd hi
'fod y ffordd rŷm ni’n gweithio gyda sefydliadau sydd yn dod o dan y gyfundrefn safonau wedi newid.'
Yn gyntaf oll, fe wnaethon nhw osod safonau, a oedd yn
'lot mwy ffurfiol—hyd braich—oddi wrth sefydliad, efallai’n trafod llai’n wyneb yn wyneb, yn gweithredu mewn ffordd lot mwy seiliedig ar bapur. Mae hynny wedi newid', a chanlyniad hynny yw bod y berthynas â llywodraeth leol wedi newid er gwell.
Fel y tynnodd y Gweinidog sylw ato wrth gyflwyno'r ddadl heddiw, nid yw hi'n dda i ddim darparu cyfleusterau yn y Gymraeg os nad yw pobl yn mynd i'w defnyddio. Felly, credaf mai'r angen aruthrol ar hyn o bryd yn y broses hon yw hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn llawer mwy egnïol nag y gwnaethom ni yn y gorffennol, ac, oes, wrth gwrs, er mwyn hyrwyddo'r defnydd, mae'n rhaid ichi gael cyfleusterau i bobl eu defnyddio fel bod yr hyrwyddo hwnnw'n fuddiol.
Ond rwyf yn credu bod arwyddion sylweddol iawn o gynnydd ymhell y tu hwnt i gynlluniau statudol. Yn wir, yn y dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ddiweddar, fe ddywedodd hi fod arwyddion gweladwy o bobl a sefydliadau nad oes gofynion cyfreithiol arnyn nhw yn mynd ati o'u gwirfodd ac o'u pen a'u pastwn eu hunain o ran darpariaeth yn y Gymraeg, yn hytrach na chael eu gorfodi i wneud hynny, a, dros y pum mlynedd diwethaf, bu cynnydd sylweddol mewn sefydliadau yn gofyn, 'Sut alla i gynnig darpariaeth Gymraeg?', yn hytrach na 'pam?', ac rwy'n credu mai hynny yw'r arwydd mwyaf gobeithiol. Mae hi'n dweud ein bod ni'n gweld tystiolaeth o weithredu gwirfoddol ar lawr gwlad yn ein strydoedd mawr. Rydym ni'n clywed y Gymraeg yn cael ei defnyddio fwy ym myd busnes, yng nghanol Dinas Caerdydd. Mae hi yn credu bod y diwylliant wedi newid.
Wrth gwrs, mae hi'n wastad yn bosibl gwneud mwy, ond rwy'n credu bod y ffordd wirfoddol o weithredu yn un sy'n fwy tebygol o fod yn llwyddiannus yn y tymor hir, yn arbennig wrth inni geisio ehangu'r iaith y tu hwnt i'r hyn y gellid eu galw'n 'fro Gymraeg' y Gorllewin a'r Gogledd, lle ceir cyfran llawer mwy o'r boblogaeth sy'n deall a siarad yr iaith. Os ydym ni'n mynd i ennill cefnogaeth yr ardaloedd uniaith Saesneg, credaf mai dyma'r meddylfryd sydd angen inni ei chofleidio. Felly, rwy'n ansicr o ran p'un a ddylid diddymu'r Comisiynydd a chael Comisiwn yn lle, er fy mod i yn credu mai ymateb braidd yn wan i'r gwelliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru oedd—. Os oes ymgynghoriad, fe allem ni gynnwys y gwelliant hwn mewn gwirionedd yn rhan o'r ymgynghoriad, os mynnwch chi, ond fe wn i nad yw'r Gweinidog yn mynd i gyhoeddi heddiw penderfyniad a fydd yn cael ei wneud maes o law.
Ond os ydym ni'n canolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach nag ar ffurfiau a strwythurau sefydliadau, rwy'n credu mai dyna yw'r ffordd iawn o fynd ati. Byddwn ni'n ymatal ar y gwelliant hwn heddiw, oherwydd nid wyf i, fel y Gweinidog, wedi penderfynu eto ai dyma'r llwybr iawn i'w droedio. Ond rwyf yn credu ein bod ni wedi gwneud cynnydd sylweddol. Caiff y Llywodraeth ei llongyfarch am (a), cyflwyno'r nod cychwynnol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a'r cynnydd a wnaed mewn amser cymharol fyr. Mae Comisiynydd presennol y Gymraeg wedi cyfrannu'n sylweddol tuag at hynny, a chredaf y dylid ei llongyfarch. Dymunaf yn dda i'r Gweinidog wrth iddi gyflawni ei swyddogaeth yn y blynyddoedd nesaf, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi, yn hytrach nag, fel yr ydym wedi bod yn gwneud yn draddodiadol, yn gweithio yn erbyn ein gilydd.