Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Yn union, achos nid ydym ni'n cwestiynu'r broses enwebu fan hyn. Beth rydym ni'n cwestiynu fan hyn yw'r ffaith bod y Cynulliad yn cymeradwyo'r enwebiad yma sy'n mynd gerbron wedyn at Ei Mawrhydi, wrth gwrs, ac mae hynny yn rhywbeth ddylai gael sêl bendith. Nawr, os ydym ni ond yma i 'rubber-stamp-o' pethau fel hyn, beth yw pwynt cael y ddadl yma? Beth yw pwynt cael cynnig? Beth yw pwynt cael trafodaeth os rydym ni ond i fod i ddweud, 'Ie, beth bynnag rydych chi'n gwneud i'ch Cabinet, mae'n iawn i wneud hynny'? [Torri ar draws.] Ie, ocê.