– Senedd Cymru am 4:46 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Yr eitem nesaf yw'r cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol. Galwaf ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig—Carwyn Jones.
Yn ffurfiol, Llywydd.
Mae arnaf ofn nad yw Plaid Cymru yn gallu cydsynio â'r cynnig hwn yn y cyd-destun presennol ar hyn o bryd. A gaf i ddweud yn gyntaf nad cwestiynu gallu na phriodoldeb Jeremy Miles ar gyfer y swydd ydw i fan hyn? Yn hytrach, rwy'n gofyn cwestiwn mwy sylfaenol am pam rydym ni'n penodi Cwnsler Cyffredinol newydd.
Rwyf eisiau talu teyrnged i Mick Antoniw. Rwy'n credu ei fod wedi gwneud y swydd yn briodol iawn—yr hyn roeddem ni'n gobeithio y byddai Cwnsler Cyffredinol yn ei wneud yn y Senedd yma. Mae wedi amddiffyn hawliau'r Senedd o dan fygythiadau sy'n deillio o Brexit, yn benodol y Bil tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd. Mae wedi hybu mynediad at y gyfraith a gweithio i symleiddio’r gyfraith, gan gydweithio â Chomisiwn y Gyfraith i aildrefnu'r gyfraith yng Nghymru. Mae wedi codi proffil y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru.
Wrth gwrs, rydym ni fel Aelodau Cynulliad ond yn gweld y Cwnsler Cyffredinol pan mae'n dod fan hyn ac yn ateb cwestiynau gennym ni. Mae'r ffaith ein bod ni wedi mynd o sefyllfa lle dim ond un Aelod Cynulliad oedd yn gofyn cwestiwn i'r Cwnsler Cyffredinol i sefyllfa lle mae yna rai pumoedd weithiau yn gofyn cwestiwn i'r Cwnsler Cyffredinol yn dangos, rwy'n credu, bod Mick Antoniw wedi ymateb i'r diddordeb byw sydd yn y Siambr yma tuag at y cyfansoddiad a thuag at ddatblygiad y Senedd hon. Mae eisiau diolch iddo fe am hynny. Mae'n sicr wedi ehangu gorwelion y swydd mewn ffordd mae Plaid Cymru yn ei gymeradwyo.
Ond, wrth gwrs, y rheswm rydym ni'n cael y cynnig yma heddiw i newid y Cwnsler Cyffredinol yw bod y Blaid Lafur eisiau newid y bobl y maen nhw efallai yn llygadu ar gyfer darpar arweinwyr yn y dyfodol, Cabinet newydd, ffordd newydd o wneud gwleidyddiaeth—beth bynnag. Hwn yw aildrefnu Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.] Mewn eiliad fe wnaf i. Hwn yw aildrefnu Llywodraeth Cymru at bwrpas a dibenion y Blaid Lafur. Fe wnaf i ildio.
Onid yw'n un o egwyddorion sylfaenol ein system gyfreithiol y dylai cleient fod yn rhydd i ddewis ei gynghorydd cyfreithiol ei hun? Pam y byddai Plaid Cymru yn gwarafun yr hawl hwnnw i Lywodraeth Cymru?
Nid yw'n deall y cyfansoddiad, dyna pam.
Mae'r rheini sydd eisiau newid y cyfansoddiad—fe ddylen nhw fod wedi newid Deddf Cymru. Roeddech gennych chi gyfle yn Nhŷ'r Arglwyddi i newid Deddf Cymru i dynnu allan y gallu yma i Senedd Cymru gymeradwyo penodi Cwnsler Cyffredinol. Os ydych chi mor huawdl ac eisiau newid y cyfansoddiad, fe ddylech chi fod wedi ei wneud yn y lle arall, lle rŷch chi'n gwneud job arall. Mae'n amlwg nad oedd eich llygaid chi ar y cyfansoddiad bryd hynny. Oni bai eich bod chi eisiau gwneud hynny, nid ydych chi mewn sefyllfa i feirniadu rhywun am ddefnyddio technegau'r Senedd hon i gwestiynu penodiad gan y Llywodraeth. [Torri ar draws.] Ydych chi am ymyrryd?
Rydw i eisiau ymyrryd. Rwy'n awyddus i ymyrryd. Mae gen i broblem, Llywydd, ac fe fyddwn i'n hoffi eich help chi. Nid yw'n gonfensiwn seneddol yn y tŷ hwn nac yn y tŷ arall i drafod swyddogaethau gwahanol. Mae'n drysu cyngor.
Roeddech chi'n rong bum mlynedd yn ôl pan benodwyd Theodore Huckle ac rydych chi'n rong heddiw. Pan mae'n dod i benderfyniad y Cynulliad a phenderfyniad y Senedd mae gen i hawl berffaith i'w drafod e. Mae yn y gyfraith gwlad rydych chi wedi pleidleisio drosti hi. Dyna pam rydym ni'n ei drafod e.
Beth sy'n bod arnat ti heddiw?
Dyma pan rydym ni'n ei drafod e. Mae'n rhan o gyfraith gwlad—[Torri ar draws.] Yr ail—
Simon Thomas, fe gewch chi barhau.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yr ail reswm pam mae Plaid Cymru am newid y drefn fan hyn yw y byddem ni'n dymuno gweld system o wrandawiad cyn penodi ar gyfer y Cwnsler Cyffredinol. Mae'n system sy'n cael ei chynnig yn y gwledydd hynny lle mae swyddogion y gyfraith yn cael eu penodi gan y Gyngres—yr Unol Daleithiau, er enghraifft, lle mae yna wrandawiad agored. Mae'n system sydd wedi cael ei arbrofi fan hyn; mae'r Pwyllgor Cyllid wedi defnyddio system i benodi cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru. Rydw i'n rhagweld ac yn gobeithio y byddwn ni'n gweld mwy o hynny. Da o beth fyddai hi i'r darpar Gwnsler Cyffredinol ddod gerbron y pwyllgor mwyaf priodol—siŵr o fod y pwyllgor cyfansoddiad a deddfwriaethol, ond gall fod yn bwyllgor dros dro—i ddangos ym mha ffordd mae eisiau gwneud y job, i ddangos ym mha ffordd y byddai'n ymateb i geisiadau gan Aelodau Cynulliad, ac i ddangos ei fod yn berson teilwng i wneud y job yma. Mi wnaf i ildio.
Diolch yn fawr iawn. Nid yw hynny, wrth gwrs, yn golygu na fyddai'r Prif Weinidog yn dal yn gallu gwneud dim ond un enwebiad a dim ond un enwebiad fyddai'n cael ei drafod fel rhan o'r broses honno.
Yn union, achos nid ydym ni'n cwestiynu'r broses enwebu fan hyn. Beth rydym ni'n cwestiynu fan hyn yw'r ffaith bod y Cynulliad yn cymeradwyo'r enwebiad yma sy'n mynd gerbron wedyn at Ei Mawrhydi, wrth gwrs, ac mae hynny yn rhywbeth ddylai gael sêl bendith. Nawr, os ydym ni ond yma i 'rubber-stamp-o' pethau fel hyn, beth yw pwynt cael y ddadl yma? Beth yw pwynt cael cynnig? Beth yw pwynt cael trafodaeth os rydym ni ond i fod i ddweud, 'Ie, beth bynnag rydych chi'n gwneud i'ch Cabinet, mae'n iawn i wneud hynny'? [Torri ar draws.] Ie, ocê.
Mae arnaf ofn na chlywais ymateb yr Aelod yn iawn i fy mhwynt yn gynharach. Rwy'n credu efallai eich bod wedi ymateb i ymyriad gan rywun ar ei eistedd yn hytrach. Ond fy mhwynt sylfaenol yw: y Cwnsler Cyffredinol yw prif gynghorydd Llywodraeth Cymru, ac onid mater i Lywodraeth Cymru yw dewis pwy ddylai fod y prif gynghorydd cyfreithiol iddi.
Wel, rwy'n credu—ac rwy'n gwerthfawrogi ei bod yn bosibl na chlywodd yr aelod yr hyn a ddywedais—mae gennym gyfansoddiad Cymru, sef bod y Cwnsler Cyffredinol yn cael ei benodi gan y Cynulliad hwn. Mae'n rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad hwn—ei argymell gan y Prif Weinidog, ei benodi gan Ei Mawrhydi, ond ei gymeradwyo gan y Cynulliad hwn. Nawr, gallech chi gyflwyno dadl resymegol—nid wyf yn dweud na allech chi gyflwyno dadl resymegol, fel yr ydych chi newydd ei wneud — ynghylch y rhaniad rhwng swyddogion y gyfraith a'r Llywodraeth, ond nid dyna sydd gennym yn y cyfansoddiad hwn. Mae wedi'i newid ddwywaith, fel y dywedais, mewn dwy Ddeddf Cymru wahanol. Nid yw hyn wedi'i newid na'i ystyried ac ni wnaed unrhyw gais i'w newid. A cheir enghreifftiau eraill o'r Gymanwlad yng Nghanada, yr Unol Daleithiau a rhannau eraill o'r Gymanwlad lle mai dyma'r gyfraith a'r broses, lle mae gennym ni ffordd o bleidleisio ar benodiadau swyddogion y gyfraith ar gyfer y Llywodraeth—[torri ar draws.]
Os caf i orffen fy mhwynt, rwy'n derbyn y bu datblygiad o ran y swyddog cyfraith arbennig hwn, a ddechreuodd mewn amgylchedd corfforaethol, os mynnwch chi, ac sydd bellach wedi datblygu i fod yn fwy o swyddog y gyfraith ar gyfer y Llywodraeth, ond nid yw ein cyfansoddiad wedi newid, ac felly mae'n bwysig nad ydym yn rhyw fath o Senedd sydd megis babi yn cael ei fwydo â llwy lle mae'r Llywodraeth yn penderfynu pwy mae'n dymuno ei benodi. Pan gawn ni gyfle i ddylanwadu ar benodiadau'r Llywodraeth, yna, fel senedd, dylem ni wneud hynny.
Ond onid yw hyn yn rhywbeth sy'n mynd yn ôl i gyfnod pan oeddem ni, efallai, yn fwy o Gynulliad a oedd megis babi yn cael ei fwydo â llwy, fel y dywed yr Aelod, pan oedd gennym ni Lywodraeth Cynulliad Cymru ac nad oedd gwahaniaeth cyfreithiol rhwng y naill a'r llall? Erbyn hyn, mae'r Llywodraeth yn atebol i'r Cynulliad, ac mae'r Cwnsler Cyffredinol yn cynghori'r Llywodraeth, felly Llywodraeth Cymru ddylai benderfynu does bosib. Rwyf i yr un mor awyddus ag yntau i amddiffyn hawliau'r Cynulliad hwn, ond yn yr achos hwn, does bosib nad oes gan Brif Weinidog Cymru a'i dîm yr hawl i ddewis eu cynghorydd cyfreithiol eu hunain.
Roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi gorffen felly eisteddais i lawr, ond a hoffech chi i mi barhau fel y gellir darllen hwnna fel ymyriad?
Nid oes siaradwyr eraill, felly rydw i'n galw ar y Prif Weinidog i ymateb ar ran ei Lywodraeth. Carwyn Jones.
Mae'n gywir i ddweud, wrth gwrs, mai'r Cynulliad sy'n cymeradwyo penodiad y Cwnsler Cyffredinol, a gaiff ei benodi wedyn gan y Frenhines. Mewn gwirionedd, mae'r Cwnsler Cyffredinol mewn sefyllfa lle na all y Prif Weinidog mewn gwirionedd dynnu'r Cwnsler Cyffredinol o'r Llywodraeth. Y Frenhines yn unig gaiff wneud hynny, neu os yw'r Cwnsler Cyffredinol yn gwneud y penderfyniad hwnnw ei hun. Mae'n hynod o bwysig bod y Cwnsler Cyffredinol yn gyfreithiwr, am resymau amlwg. Mae'n iawn i ddweud, fel y mae Mark Reckless wedi'i ddweud, mai prif gynghorydd cyfreithiol y Llywodraeth yw'r Cwnsler Cyffredinol, ac nid y Cynulliad. Felly mae'n anodd rhagweld pa swyddogaeth y dylai'r Cynulliad ei chwarae. Cyflwynwyd dadleuon yn y Siambr hon y dylid cynnal gwrandawiadau cyn penodi i'r rhai hynny sydd mewn swyddi gweithredol neu swyddi cadeirydd ar gyfer cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Nid yw hyn yr un peth: mae hwn yn rhywun a fyddai'n aelod o'r Llywodraeth. Ac i ymdrin â'r pwynt y mae Simon Thomas yn ei godi am yr Unol Daleithiau, nid yw'r Unol Daleithiau yn un o wledydd y Gymanwlad fel y dywedodd ef, ac yn ail, ceir system lywodraethu gwbl wahanol. Rwyf yn gresynu'r ffaith na chawsom unrhyw rybudd o bryder Plaid Cymru, ond byddwn yn ymdrin â hyn yn y Siambr. Y gwir amdani yw bod Arlywydd yn yr Unol Daleithiau sy'n penodi Cabinet o bobl, lle nad oes yr un ohonynt wedi ei ethol—lle nad oes yr un ohonynt wedi ei ethol. Ar y sail honno, felly, mae'r cyfansoddiad yn ei gwneud yn ofynnol i'r ddeddfwrfa gynnal gwrandawiad cyn penodi er mwyn gwneud yn siŵr mai rhywun nad yw wedi'i ethol yw'r person cywir ar gyfer y swydd yn y Llywodraeth—mae'n sefyllfa gwbl wahanol. [Torri ar draws.] Ie, Ie—[torri ar draws.] Yr Aelod dros Ynys Môn oedd gyntaf.
Onid yw'n wir nad oedd y Cwnsler Cyffredinol diwethaf ond un wedi ei ethol?
Ydy, ac fe'i cefnogwyd gan y Cynulliad hwn, heb unrhyw ofyniad gan Blaid Cymru ar y pryd y dylid cynnal rhyw fath o wrandawiad cyn penodi. Felly—
A wnewch chi ildio?
Gwnaf, ewch ymlaen.
Fe heriais i yn benodol benodiad Theodore Huckle bum mlynedd yn ôl.
Wel, dyna ni. Mae hyn yn ymwneud â phenodi rhywun sy'n aelod o'r Cynulliad hwn, sy'n gyfreithiwr, sy'n rhywun sydd wedi cymhwyso'n ddigonol ar gyfer swydd y Cwnsler Cyffredinol ac sy'n rhywun a fydd y prif gynghorydd cyfreithiol i Lywodraeth Cymru. Pe byddai pryderon wedi'u codi ymlaen llaw, byddem ni wedi ceisio ymdrin â'r pryderon hynny, ond dyma'r tro cyntaf i ni glywed amdanyn nhw.
O gofio ein bod yn mynd trwy broses Brexit, mae'n hynod o bwysig bod gennym ni brif gynghorydd cyfreithiol sy'n gallu cynghori Llywodraeth Cymru ar lawer o faterion, yn enwedig Brexit. Rwy'n siŵr na fyddai'r Aelodau yn dymuno inni fod mewn sefyllfa lle nad oes gennym ni gynghorydd sy'n gallu gwneud hynny.
Felly, unwaith eto, cynigiaf y cynnig. Bydd Mark Reckless yn maddau imi am beidio ag ymdrin â'i bwyntiau ef yn uniongyrchol, gan fy mod yn cytuno â phob gair a ddywedodd. Efallai nad yw hynny'n digwydd yn aml iawn, ond rwy'n ddiolchgar iddo am ei eiriau y tro hwn. Rwy'n gresynu'r ffaith bod yr hyn sy'n ymwneud â phenodi rhywun yn y Llywodraeth, sydd yno i weithredu fel cynghorydd cyfreithiol, wedi bod yn—. Wel, dyna ni, mae hawl gan y Cynulliad i ymdrin ag ef yn y modd hwn, ond, serch hynny, mae'n hollol iawn i ddweud bod hyn, er yn dechnegol, er yn gyfreithiol, yn benodiad gan y Cynulliad, ei fod, mewn gwirionedd, yn benodiad rhywun a fydd yn aelod o'r Llywodraeth, er nad yn Weinidog.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.