Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Mae arnaf ofn nad yw Plaid Cymru yn gallu cydsynio â'r cynnig hwn yn y cyd-destun presennol ar hyn o bryd. A gaf i ddweud yn gyntaf nad cwestiynu gallu na phriodoldeb Jeremy Miles ar gyfer y swydd ydw i fan hyn? Yn hytrach, rwy'n gofyn cwestiwn mwy sylfaenol am pam rydym ni'n penodi Cwnsler Cyffredinol newydd.
Rwyf eisiau talu teyrnged i Mick Antoniw. Rwy'n credu ei fod wedi gwneud y swydd yn briodol iawn—yr hyn roeddem ni'n gobeithio y byddai Cwnsler Cyffredinol yn ei wneud yn y Senedd yma. Mae wedi amddiffyn hawliau'r Senedd o dan fygythiadau sy'n deillio o Brexit, yn benodol y Bil tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd. Mae wedi hybu mynediad at y gyfraith a gweithio i symleiddio’r gyfraith, gan gydweithio â Chomisiwn y Gyfraith i aildrefnu'r gyfraith yng Nghymru. Mae wedi codi proffil y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru.
Wrth gwrs, rydym ni fel Aelodau Cynulliad ond yn gweld y Cwnsler Cyffredinol pan mae'n dod fan hyn ac yn ateb cwestiynau gennym ni. Mae'r ffaith ein bod ni wedi mynd o sefyllfa lle dim ond un Aelod Cynulliad oedd yn gofyn cwestiwn i'r Cwnsler Cyffredinol i sefyllfa lle mae yna rai pumoedd weithiau yn gofyn cwestiwn i'r Cwnsler Cyffredinol yn dangos, rwy'n credu, bod Mick Antoniw wedi ymateb i'r diddordeb byw sydd yn y Siambr yma tuag at y cyfansoddiad a thuag at ddatblygiad y Senedd hon. Mae eisiau diolch iddo fe am hynny. Mae'n sicr wedi ehangu gorwelion y swydd mewn ffordd mae Plaid Cymru yn ei gymeradwyo.
Ond, wrth gwrs, y rheswm rydym ni'n cael y cynnig yma heddiw i newid y Cwnsler Cyffredinol yw bod y Blaid Lafur eisiau newid y bobl y maen nhw efallai yn llygadu ar gyfer darpar arweinwyr yn y dyfodol, Cabinet newydd, ffordd newydd o wneud gwleidyddiaeth—beth bynnag. Hwn yw aildrefnu Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.] Mewn eiliad fe wnaf i. Hwn yw aildrefnu Llywodraeth Cymru at bwrpas a dibenion y Blaid Lafur. Fe wnaf i ildio.