Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Mae'n gywir i ddweud, wrth gwrs, mai'r Cynulliad sy'n cymeradwyo penodiad y Cwnsler Cyffredinol, a gaiff ei benodi wedyn gan y Frenhines. Mewn gwirionedd, mae'r Cwnsler Cyffredinol mewn sefyllfa lle na all y Prif Weinidog mewn gwirionedd dynnu'r Cwnsler Cyffredinol o'r Llywodraeth. Y Frenhines yn unig gaiff wneud hynny, neu os yw'r Cwnsler Cyffredinol yn gwneud y penderfyniad hwnnw ei hun. Mae'n hynod o bwysig bod y Cwnsler Cyffredinol yn gyfreithiwr, am resymau amlwg. Mae'n iawn i ddweud, fel y mae Mark Reckless wedi'i ddweud, mai prif gynghorydd cyfreithiol y Llywodraeth yw'r Cwnsler Cyffredinol, ac nid y Cynulliad. Felly mae'n anodd rhagweld pa swyddogaeth y dylai'r Cynulliad ei chwarae. Cyflwynwyd dadleuon yn y Siambr hon y dylid cynnal gwrandawiadau cyn penodi i'r rhai hynny sydd mewn swyddi gweithredol neu swyddi cadeirydd ar gyfer cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Nid yw hyn yr un peth: mae hwn yn rhywun a fyddai'n aelod o'r Llywodraeth. Ac i ymdrin â'r pwynt y mae Simon Thomas yn ei godi am yr Unol Daleithiau, nid yw'r Unol Daleithiau yn un o wledydd y Gymanwlad fel y dywedodd ef, ac yn ail, ceir system lywodraethu gwbl wahanol. Rwyf yn gresynu'r ffaith na chawsom unrhyw rybudd o bryder Plaid Cymru, ond byddwn yn ymdrin â hyn yn y Siambr. Y gwir amdani yw bod Arlywydd yn yr Unol Daleithiau sy'n penodi Cabinet o bobl, lle nad oes yr un ohonynt wedi ei ethol—lle nad oes yr un ohonynt wedi ei ethol. Ar y sail honno, felly, mae'r cyfansoddiad yn ei gwneud yn ofynnol i'r ddeddfwrfa gynnal gwrandawiad cyn penodi er mwyn gwneud yn siŵr mai rhywun nad yw wedi'i ethol yw'r person cywir ar gyfer y swydd yn y Llywodraeth—mae'n sefyllfa gwbl wahanol. [Torri ar draws.] Ie, Ie—[torri ar draws.] Yr Aelod dros Ynys Môn oedd gyntaf.